WALTERS, THOMAS (1729-1794), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Thomas Walters
Dyddiad geni: 1729
Dyddiad marw: 1794
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

yn byw ar ei dreftadaeth, Pant-yr-hesg, Mynydd-islwyn (Mynwy). Ni wyddys pa bryd y dechreuodd bregethu y mae'n amlwg ei fod yn rhy ieuanc i fod yn un o ddychweledigion cenhadaeth Howel Harris yn y parthau hynny, ond y mae yr un mor amlwg mai diwygiad Methodistaidd ei naws a effeithiodd arno, oblegid y mae Philip David yn ei sennu droeon, yn ei ddyddlyfr, am ‘gadw sŵn’ a ‘rantio’ wrth bregethu. Cododd dŷ cwrdd yn 1765, a hynny bron ar drothwy hen eglwys Philip David ym Mhenmain; cyfeirid at y capel fynychaf dan yr enw lled-Fethodistaidd ‘y Tynewydd’ (‘Bethel’ oedd ei enw priod), a bu Williams Pantycelyn, David Williams Llysfronydd, a phregethwyr Methodistaidd eraill, yn pregethu ynddo. Tua 1765, urddwyd Thomas Walters (gan y gynulleidfa ei hunan, â dilyn esiampl y New Inn — gweler dan Morgan John Lewis) yn weinidog, Annibynnol bellach wrth gwrs. Bu farw 25 Mai 1794, yn 65 oed. Parhaodd naws Fethodistaidd Bethel am beth amser wedi marw Thomas Walters, ond tua 1811 aeth y lleiafrif allan a sefydlu achos Methodistaidd y Gelli-groes.

Olynydd uniongyrchol Thomas Walters (hyd 1811) fel gweinidog Bethel oedd ei nai, yntau'n

Thomas Walters (1761 - 1821) Crefydd,

a oedd eisoes (1793) yn weinidog y New Inn. Yr oedd yntau'n fwy o Fethodist nag o Annibynnwr cyn 1793, a thua 1817 dychwelodd yn llwyr at y cyfundeb Methodistaidd. Bu farw 2 Tachwedd 1821 yn Cwm-dows, Mynydd-islwyn.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/