Ganwyd yn Llangybi, Sir Gaernarfon. Ceir y cofnod hwn yn rhestr bedyddiadau eglwys Llangybi - ' September about 29 was baptized Evan, son of Humphrey Robert (Singer) and Jane Griffith his wife. ' Ni wyddys ddim am gyfnod ei ieuenctid. Yr oedd yn delynor rhagorol, ac fel llawer o gerddorion Cymru aeth i Lundain tua 1740. Cynorthwyodd John Parry, Rhiwabon, i gasglu a dwyn allan Antient British Music, 1742. Ymsefydlodd yn Llundain yn athro ar y delyn, a chafodd le i ganu'r delyn mewn eglwys, a gellir casglu oddi wrth gyfeiriad ato gan William Morris ei fod yn canu'r organ hefyd. Yn y Llyfr Gweddi Gyffredin a olygwyd gan Richard Morris, ceir 24 o donau cysegredig, y rhai cyntaf a gafodd y genedl yn argraffedig. Gwasanaeth gwerthfawr a gyflawnodd Evan Williams oedd trefnu 16 o'r tonau hyn yn y mesur cyffredin, (8.6.8.6.) fel y gellid canu salmau cân Edmund Prys arnynt a oedd yn 8.7.8.7. Cyfansoddodd hefyd wyth o donau ym mesur newydd Prys 8.7.8.7. Dyma'r tonau cyntaf o waith Cymro i gael eu hargraffu. Ceir hefyd am y tro cyntaf gyda'r tonau gyfarwyddyd pa fodd i ganu. Cyfeirir ato gan Forysiaid Môn yn eu llythyrau, ond nid oes hanes ei fywyd ar gael, na pha bryd y bu farw; ymddengys ei enw yn rhestr aelodau'r Cymmrodorion yn 1762, ond nid yw yn rhestr 1777-8.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.