WILLIAMS, MEIRION (1901-1976), cerddor

Enw: Meirion Williams
Dyddiad geni: 1901
Dyddiad marw: 1976
Rhiant: Mary Elizabeth Williams (née Roberts)
Rhiant: Robert Parry Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganed William Robert Williams ar 19 Gorffennaf 1901 yn Glanywern, Dyffryn Ardudwy. Dechreuodd ddefnyddio'r enw Meirion pan oedd yn fyfyriwr ac fe'i mabwysiadodd yn swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mab ydoedd i Robert Parry Williams a Mary Elizabeth (ganwyd Roberts), y tad yn cadw siop ac yn is-bostfeistr. Dywedai rhai mai tras Eidalaidd ar ochr ei fam oedd i gyfrif am ei bryd tywyll. Etifeddodd Meirion ei ddawn gerddorol gan ei fam, a oedd yn gantores frwd yng nghôr yr eglwys leol. Cafodd wersi piano gan athro dall, J. L. Owen o Flaenau Ffestiniog, a phan oedd yn dal yn blentyn byddai'n canu'r organ yn eglwysi Llanddwywe a Llanenddwyn. Aeth i Ysgol Uwchradd y Bermo yn un ar ddeg oed, ond gadawodd yn 1914 i weithio yn siop y teulu. Bu'n cyfeilio yng Ngŵyl Harlech yn 1919 lle y gwnaeth argraff ffafriol ar Walford Davies, a'i derbyniodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond gan na wnaethai Dystysgrif Addysg, ni allai ddilyn cwrs gradd. Yn Aberystwyth cafodd wersi piano gan G. Stephen Evans, organydd eglwys St Michael. Yn 1922 aeth i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, a chael gwersi piano gan Carlo Albanesi ac Edgar Carr. Enillodd yno nifer o wobrwyon a medalau, gan gynnwys prif wobr yr Academi i unawdydd piano; derbyniwyd ef yn LRAM yn 1927 ac yn ARAM yn ddiweddarach. Perfformiodd fel unawdydd piano mewn cyngherddau yn Neuadd Wigmore ac mewn mannau eraill yn Llundain, lle'r ymsefydlodd fel cerddor llawrydd. Bu'n organydd a chorfeistr eglwys Dewi Sant Llundain o 1931 hyd 1937, ac yn organydd y Church of the Ascension yn Wembley, 1937-48. Ef oedd prif gyfeilydd Gŵyl Gerdd Harlech o 1930 i 1932 ac eto yn 1934. Priododd ar 25 Awst 1932 yn Llundain â Gwendolen Margaret Roberts, a chawsant un ferch.

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd dychwelodd am gyfnod i Ddyffryn Ardudwy a bu'n gweithio ar y tir cyn symud yn ôl i Lundain yn 1942 a gweithio gydag ENSA a CEMA. Ef fu'n cyfeilio i'r tenor David Lloyd yn y gyfres o recordiadau o ganeuon Cymraeg a wnaethpwyd yn 1948 dan nawdd cwmni Decca a'r 'Welsh Recorded Music Society'. O 1951 ymlaen bu'n organydd eglwys St Bened, Llundain, ac yn cyfeilio llawer i gyfarfodydd y Seiri Rhyddion. Dychwelai i Gymru'n rheolaidd i feirniadu mewn eisteddfodau ac roedd yn feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cymerwyd ef yn wael ar ei ffordd i un o gyfarfodydd y Seiri Rhyddion i ganu'r piano, a bu farw ar ei ffordd i Ysbyty Middlesex, St Marylebone, ar 4 Hydref 1976. Cynhaliwyd ei angladd ar 12 Hydref 1976 yn Nyffryn Ardudwy, a chladdwyd ei weddillion yn eglwys Llanenddwyn. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn eglwys St Bened yn Llundain ar 27 Hydref 1976.

Daeth i'r amlwg fel cyfansoddwr, yn bennaf fel cyfansoddwr caneuon, yn yr 1930au, a chyfrifir ei osodiadau telynegol o farddoniaeth Eifion Wyn ('Cwm Pennant', 'Mai'), Caradog Prichard ('Y Llyn'), Crwys ('Gwynfyd'), Elfed ('Pan ddaw'r nos') a George Rees ('O! Fab y Dyn'), ymhlith eraill, yn enghreifftiau nodedig o'r gân gelf Gymreig. Cyfunai sensitifrwydd geiriol â dawn arbennig i greu cyfeiliant diddorol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-06-16

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.