LOVELAND, KENNETH (1915-1998), newyddiadurwr a beirniad cerddoriaeth

Enw: Kenneth Loveland
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 1998
Rhiant: Winifred Jane Loveland (née Wraight)
Rhiant: Charles John Loveland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr a beirniad cerddoriaeth
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Trevor Herbert

Ganwyd Kenneth Loveland yn Sheerness, swydd Gaint, ar 12 Hydref 1915, yn fab i Charles John Loveland (ganwyd tua 1886), a ddisgrifiwyd yng nghyfrifiad 1911 fel 'salesman and outfitter', a'i wraig Winifred Jane (ganwyd Wraight, tua 1885). Daeth ei brofiad cyntaf o gerddoriaeth trwy wrando ar y radio, ond yn nes ymlaen profodd gerddoriaeth fyw mewn cyngherddau yn Neuadd y Frenhines yn Llundain a adawodd argraff arhosol arno.

Bu'n newyddiadurwr ar hyd ei oes. Cafodd ei waith cyntaf ar bapurau lleol yn swydd Gaint, ac ar ôl gwasanaeth yn y fyddin yn ystod y rhyfel treuliodd gyfnod byr gyda phapur lleol yn Luton. Symudodd i Gymru wedyn i weithio i bapur nosweithiol y South Wales Argus yng Nghasnewydd. Gweithiodd gyda'r papur hwn mewn rhyw swyddogaeth neu'i gilydd am weddill ei oes, a bu'n olygydd arno rhwng 1951 a 1970. Ar ôl gorffen fel golygydd parhaodd yn feirniad cerddoriaeth, ond cyfrannai hefyd yn gyson i'r Times, cylchgrawn Opera a nifer o gyfnodolion eraill. Roedd hefyd yn ysgrifwr teithio dawnus ac fe'i comisiynwyd i lunio darnau am y gwyliau cerdd Ewropeaidd niferus a fynychai, gan gynnwys sawl adroddiad o Ŵyl Stuttgart. Bu'n darlledu am gerddoriaeth ar y radio yn rheolaidd, gan gynnwys y cyfresi 'Musicians in Conversation' ar gyfer Radio Telefis Eireann, 'Opus 9 o'clock' ar gyfer Radio 4 Cymru, a chyfraniadau i Kaleidoscope a'r BBC World Service.

Nid oedd Loveland yn gerddor o fath yn y byd, ond roedd ei gariad a'i frwdfrydedd am gerddoriaeth, yn ogystal â chraffter ei antenâu cerddorol, yn amlwg ym mhopeth a ysgrifennodd. Er yn gynhenid deg a chwrtais ei ddull, roedd ei ysgrifau bob amser yn wrthrychol a diduedd. Os oedd yn bleidiol i unrhyw achos, ei barch i gerddoriaeth Cymru a'i sefydliadau oedd hwnnw. Yn wir, anodd yw gorbrisio ei gyfraniad i fywyd cerddorol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, ac roedd hygrededd y cyfraniad hwnnw cymaint yn fwy oherwydd enw da personol Loveland ym myd newyddiaduraeth. Roedd yn un o'r newyddiadurwyr cerdd 'rhanbarthol' uchaf eu parch, a thrwy dudalennau'r Times a chylchgrawn Opera yn arbennig cyflwynodd stori datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru: Opera Genedlaethol Cymru (a glywodd am y tro cyntaf yn 1947 ac a fu'n agos at ei galon byth wedyn), Cerddorfa Gymreig y BBC wrth iddi ddod yn Gerddorfa Genedlaethol Cymru, a gwaith llawer o gyfansoddwyr Cymreig - yn enwedig Daniel Jones, William Mathias ac Alun Hoddinott. Honnai hefyd (yn gywir mae'n debyg) mai ef a roddodd y gydnabyddiaeth gyntaf yn y wasg i gantorion rhagorol megis Geraint Evans, Gwyneth Jones a Margaret Price. Gellid bod wedi diystyru'r fath eiriolaeth fel plwyfoldeb newyddiadurwr lleol, ond nid oedd hyn byth yn wir yn achos Loveland, dyn yr 'Home Counties' i'r carn a oedd yn adnabyddus fel un o'r beirniaid cerdd mwyaf wrbân, ac un a allasai fod wedi dal swydd ar unrhyw bapur newydd cenedlaethol.

Er gwaethaf ei wrbaniaeth ac yn groes i bob ymddangosiad, ymgartrefodd yn llwyr yng Nghymru yn ystod pedwar degawd olaf ei fywyd. Byddai ef a'i wraig Anne yn croesawu aelodau o Gorws Opera Genedlaethol Cymru yn rheolaidd yn eu fflat dirodres yng Nghwm-brân. Cynhaliwyd cyngerdd gan Gerddorfa Simffoni Llundain dan arweiniad Colin Davis i nodi ei ben-blwydd yn bedwar ugain, a thestun balchder mawr iddo oedd y radd Meistr mewn Cerddoriaeth a ddyfarnwyd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1986. Bu farw ar 25 Ionawr 1998, ac fe'i claddwyd ym mynwent Llandeilo Gresynni yn sir Fynwy. Mae'r 'Kenneth Loveland Gift' yn gronfa goffa sydd wedi cefnogi cerddorion ifainc er 2002.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-08-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.