Ganwyd Gerallt Lloyd Owen yn Nhŷ Uchaf, fferm ym mhlwyf Llandderfel, Sir Feirionnydd, ar 6 Tachwedd 1944, yr ail fab i Henry Lloyd Owen (1906-1982), Amaethwr a Swyddog Pla Meirionnydd a Gwynedd, a Jane Ellen (Jin, 1905-1989), athrawes a fu hefyd yn cadw siop a llythyrdy'r Sarnau wedi i'r teulu symud yno i fyw i'w hen gartref hi, Broncaereini, yn 1945 pan benodwyd y gŵr i'w swydd gyda Chyngor Sir Meirionnydd. Enillodd ei frawd Geraint (ganwyd 1941) Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011 ac fe'i harwisgwyd yn Archdderwydd yn 2016. Addysgwyd Gerallt yn yr ysgol leol - 'Hen Goleg bach y Sarnau' fel y cyfeirid ati gan Bob Lloyd (Llwyd o'r Bryn) - yna yn Ysgol Tŷ Tan Domen y Bala a'r Coleg Normal ym Mangor lle y derbyniodd dystysgrif athro yn 1966.
Yn ystod ei gyfnod yn y chweched dosbarth symudodd y teulu, oherwydd gwaith y tad, i Gaernarfon, ond arhosodd Gerallt gyda'i fodryb yn y Sarnau i gwblhau ei arholiadau lefel A. Er gwaetha'i allu diamheuol ni chafodd y cymwysterau angenrheidiol i fynd i Brifysgol Cymru, Aberystwyth a hynny oherwydd bod barddoniaeth a barddoni wedi dwyn ei fryd. Llwyd o'r Bryn a gyflwynodd y gynghanedd iddo ac ef oedd ei athro barddol cyntaf, a gallai'r bachgen gyfansoddi englynion cywir yn ddeuddeg oed. Yna aeth at Ifan Rowlands y Gistfaen, Llandderfel, cynganeddwr praffach, ond yn fuan iawn yn ei hanes roedd y disgybl yn gwybod mwy na'i athrawon, ac o hynny allan fe'i dysgodd ei hun. Buan y daeth y disgybl yn athro gan gynnal dosbarthiadau cynganeddol ym Mhenllyn a mannau eraill.
Yn ystod ei arddegau, yn hytrach nag astudio ar gyfer ei arholiadau fe gynhyrchai gerddi lu, a chynnyrch y cyfnod hwnnw yn bennaf oedd ei gyfrol gyntaf - Ugain Oed a'i Ganiadau (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966). Colled Aberystwyth fu ennill y Coleg Normal gan iddo yno ymroi i gymryd rhan lawn ym mywyd cymdeithasol y sefydliad hwnnw, yn enwedig y cwmni drama, lle y disgleiriodd mewn sawl cynhyrchiad dan adain dau arbennig iawn o staff yr Adran Ddrama sef Edwin Williams a Huw Lloyd Edwards.
Yn dilyn ei gyfnod yn y coleg bu'n athro yn Nhrawsfynydd am ddwy flynedd cyn ei benodi ar staff Ysgol Glyndŵr, yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd ym Mhenybont ar Ogwr gan y cenedlaetholwr brwd Trefor Morgan. Yna, wedi cyfnod byr yn Ysgol Gymraeg y Betws yn yr un dref gadawodd fyd addysg a sefydlu Gwasg Gwynedd gyda Alwyn Elis Nant Peris yn 1972. Yn yr un flwyddyn fe briododd ag Alwena Jones o Ddeiniolen gan fyw yn Llandwrog, a chawsant dri o blant: Mirain, Bedwyr a Nest. Gwasg Gwynedd gyhoeddodd ei ddwy gyfrol arall o farddoniaeth yn ystod ei fywyd, sef Cerddi'r Cywilydd yn 1972 a Cilmeri a Cherddi Eraill yn 1991, a'i hunangofiant Fy Nghawl Fy Hun yn 1999. Aeth Cerddi'r Cywilydd i dri argraffiad ac yna i argraffiad newydd yn 1990. Enillodd Cilmeri a Cherddi Eraill wobr Llyfr y Flwyddyn iddo yn 1992.
Yn ystod ei gyfnod gyda Gwasg Gwynedd fe gyhoeddodd nifer o hunangofiannau mewn cyfres werthfawr ac unigryw sef Cyfres y Cewri. Cynhyrchodd yn ogystal ddau gomic Cymraeg, canlyniad uniongyrchol ei brofiad yn athro ysgol pan sylweddolodd yr angen am ddeunydd o'r fath i blant, a defnyddiodd ei ddawn arbennig fel arlunydd a dylunydd ac fel ysgrifennwr llawn dychymyg i'r cyhoeddiadau hyn. Yr oedd yn ymwybodol hefyd o bwysigrwydd gwaith yn yr ardaloedd Cymraeg a'r angen i gadw eiddo yn nwylo'r Cymry Cymraeg, a gyda nifer o rai eraill o gyffelyb fryd sefydlodd gwmni Arianrhod i fuddsoddi mewn adeiladau yng Ngwynedd. Etifeddodd dŷ yn y Sarnau ac fe sicrhaodd pan fu'n rhaid gwerthu ei fod yn mynd i Gymry lleol.
Ei ddoniau cynganeddol a'i farddoniaeth a'i gwnaeth yn ffigwr cenedlaethol. Bu'n Feuryn Ymryson y Beirdd ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer, yna'n Feuryn Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru o 1979 hyd 2010, a golygodd ddeuddeg cyfrol o bigion y gystadleuaeth. Daeth y genedl i adnabod ei lais a'i chwerthiniad, ei hiwmor a'i ddwyster, a'i ddawn arbennig i adrodd barddoniaeth yn ogystal â'i allu i gloriannu'n deg a chynnil gynnyrch y beirdd. Roedd ganddo ei safonau, ac nid oedd yn ôl o feirniadu pan oedd angen, ond byddai hefyd yn drugarog wrth y rhai oedd yn dechrau barddoni a bu'n symbyliad i lawer i afael yn y grefft. Roedd yn feistr ar y gynghanedd a gallai adnabod gwall cynganeddol dim ond wrth wrando ar linell yn cael ei hadrodd unwaith. Bu'n un o feirniaid y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol wyth gwaith rhwng 1981 a 2013.
Yn anad dim arall fodd bynnag bardd ydoedd, a chyflawnodd yn ei fywyd yr uchelgais a fynegodd droeon pan oedd yn blentyn. Yn 1962 tra'n ddisgybl chweched dosbarth yn y Bala enillodd Gadair yr Urdd am ei awdl Y Meddyg, awdl nad oedd yn ddigon da i ennill Cadair Eisteddfod Llangwm iddo y flwyddyn gynt, a thrachefn yn 1965 am gasgliad o gerddi Cymru Heddiw, a'r trydydd tro yn 1969 eto am gasgliad o gerddi, yn eisteddfod enwog blwyddyn yr arwisgo. Ymhen rhai blynyddoedd wedi cyhoeddi Ugain Oed a'i Ganiadau nid oedd am arddel y gyfrol, ac y mae'n wir dweud bod y cerddi cynganeddol yn cynnwys amryw o linellau gwael a rhai o'r cerddi rhydd yn adlewyrchu'r ffaith mai prentis yn dysgu ei grefft oedd o ar y pryd. Ond y mae'n cynnwys hefyd nifer o gerddi sy'n dystiolaeth i'w ddiddordeb gwirioneddol mewn pobl, yn enwedig ei gydnabod yn ei fro a'i gymdeithas ei hun, ac mewn sawl cerdd ac englyn coffa diffuant mae'n mynegi tristwch y colli.
Cerddi Eisteddfod yr Urdd 1969 a ddaeth ag ef i wir amlygrwydd cenedlaethol, a'r eironi o fod wedi cyfansoddi'r gerdd Fy Ngwlad ar gyfer yr union Eisteddfod yr oedd y Tywysog Siarl yn ymwelydd â hi. Chwe mlynedd yn ddiweddarach yn 1975 enillodd y Gadair Genedlaethol yn Eisteddfod Cricieth am ei awdl Afon sy'n ddarlun o'i fywyd yn blentyn wrth yr afon ac yn ddarlun o fywyd fel afon. Thema od i un a fagwyd yn y Sarnau, sy'n bentref diafon! Fe'i derbyniwyd i'r wisg wen yn yr orsedd yn dilyn y llwyddiant hwn yn Eisteddfod Aberteifi 1976 gyda'r enw Gerallt Llwyd, a bwriadai gystadlu am y Gadair yno hefyd ar y testun Gwanwyn, ond ni orffennodd ei awdl mewn pryd. Pe byddai wedi ei hanfon byddai'r eisteddfod honno wedi derbyn awdlau pedwar o gynganeddwyr praffaf y genedl sef Alan Llwyd, Dic Jones, Donald Evans a Gerallt, ac wedi ychwanegu at gur pen y beirniaid. Cyhoeddwyd yr awdl orffenedig yn ei gyfrol Cilmeri a Cherddi Eraill. Yn 1982 enillodd drachefn yn Abertawe am ei awdl Cilmeri, awdl am Lywelyn ein Llyw Olaf ym mlwyddyn coffáu saith can mlwyddiant ei farw yn 1282. Y mae'r gerdd yn ôl Branwen Jarvis yn mynegi mwy o dristwch nag o chwerwedd, tristwch at ddifrawder y Cymry, ac y mae ynddi hefyd atseiniau o'i gerddi a'i englynion coffa sy'n mynegi'r gofid o golli'r unigolyn. 'Y mae Llywelyn y dyn yma, yn ogystal â Llywelyn yr arweinydd a'r tywysog; a dyma i mi guddiad cryfder yr awdl gyfoethog hon.'
Y mae ei awdlau buddugol yn dangos yn glir ei ddatblygiad fel bardd yn ystod y cyfnod rhwng y ddwy; ei ddatblygiad i fod yn llais a chydwybod Cymru, un oedd yn llefaru ing ei genedl mewn cerddi cofiadwy. Ef oedd llais y bardd yn yr ymgyrchoedd dwys dros y Gymraeg yn y blynyddoedd yn dilyn darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith yn 1962, ond ni chymerai ran ym mhrotestiadau Cymdeithas yr Iaith. 'Wyf y llwfrgi'n fy llyfrgell' meddai mewn cerdd i un o ymgyrchwyr brwd y Gymdeithas - Angharad Tomos. Ond yr oedd taeogrwydd ei gyd-Gymry yn dân ar ei groen, eu dibristod o'r iaith Gymraeg a'u harfer o werthu Cymru fesul cae ac annedd i estroniaid. Y mae yn ei farddoniaeth falchder amlwg yn ei dras (honnai y gallai ei holrhain hyd Lywarch Hen!) ac ymwybyddiaeth o'r hyn a'i gwnaeth yr hyn ydoedd ac o'r gymdeithas y magwyd ef ynddi, ond y mae ynddi hefyd lawer o chwerwder un oedd wedi ei siomi yn ei gydwladwyr ac yn eu meddalwch Prydeinig. Cyfeiriodd Branwen Jarvis ato fel bardd y 'difrifoldebau mawr', ac fel un a chwiliai o hyd am hanfodion pwnc ac 'am y gwirionedd sydd ynglŷn ag ef.' Mae'n dweud mai bardd y gaeaf ydoedd fel R. Williams Parry, un yr oedd gan Gerallt edmygedd mawr ohono.
Derbyniodd nifer o anrhydeddau gan wahanol gyrff yn ystod ei oes yn cynnwys tri o golegau Prifysgol Cymru fel yr adnabyddid hwy bryd hynny: graddau M.A. gan Aberystwyth ac Abertawe a Chymrodoriaeth er Anrhydedd gan Fangor.
Yr oedd Gerallt yn gymeriad cymhleth, yn gymysgedd o ysgafnder castiog a dwyster mawr. Bu am flynyddoedd yn berson cymdeithasol oedd wrth ei fodd mewn cwmni ac yn cymryd diddordeb ym mhawb, yn enwedig cydnabod ei ardal ei hun, a hyd ddiwedd ei oes fe boenai am y mewnlifiad cyson 'fesul tŷ nid fesul ton' - fel y mynegodd mor gofiadwy - oedd yn lladd y gymdeithas Gymraeg. Yn ystod y cyfnod hwn o droi ymysg pobl ef oedd un o sefydlwyr y Gymdeithas Gerdd Dafod yn 1976 a chydolygydd ei chylchgrawn Barddas hyd 1983, a byddai'n cyfrannu'n helaeth i raglenni radio a theledu, gan gynnwys y gyfres Shotolau gan ei fod yn saethwr o fri. Ond yn raddol dros y blynyddoedd fe giliodd o gymdeithas, cafodd ysgariad yn 2001 a symudodd i Gaernarfon, ac yna bu'n byw yn lled feudwyaidd am chwe mlynedd olaf ei oes efo'i gymar Iola Gregory yn Llandwrog. Peidiodd â mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol ac ymgadwai rhag bron bob ymwneud cymdeithasol a chyhoeddus. Nodwedd arbennig o'i ymddangosiad oedd ei wallt cringoch, ac yn ddiweddarach ei farf, ond un pur eiddil o gorffolaeth ydoedd ac erbyn diwedd ei oes a'i wallt a'i farf wedi gwynnu edrychai'n llawer hŷn na'i oed. Bu'n afiach ers yn blentyn, dioddefodd lid yr ymennydd pan oedd yn naw oed ac yr oedd ganddo frest wan. Er gwaetha hyn roedd yn smociwr trwm ac ni fu ei orddibyniaeth ar alcohol yn nes ymlaen yn ei fywyd yn lles i'w iechyd.
Nid am y pethau hyn y cofir ef, am ei lais a'i bersonoliaeth yn sicr, ond yn bennaf oll am ei farddoniaeth. Y mae ei gyfrolau yn drysorau cenedl, gan gynnwys yr olaf gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth - Y Gân Olaf (2015). Dywedodd y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones amdano unwaith mewn sylw llafar wrth un o'i gyd-ddarlithwyr ym Mangor ar ôl gwrando arno'n adrodd rhai o'i gerddi, ei fod gyfuwch bardd â Dafydd ap Gwilym a'r cywyddwyr amlycaf, cyn ychwanegu - 'na, yn uwch.' Nid bardd a phrifardd yn unig mohono, ond pencerdd, a thra pery'r iaith fe fydd yno ymhlith y mawrion.
Bu farw yn Ysbyty Gwynedd ar 15 Gorffennaf 2014 yn 69 mlwydd oed a chynhaliwyd ei angladd cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener y 25ain. Claddwyd ei lwch ym mynwent Llandwrog ar 12 Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-09-28
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.