Ganwyd Clifford Evans yn Senghennydd, sir Forgannwg, ar 17 Chwefror 1912, yr ifancaf o dri o blant David Evans, dilledydd, a'i wraig Dinah, hetwraig. Roedd ganddo frawd, Kenneth, a chwaer, Pearl. Pan ymrestrodd ei dad i fynd i'r rhyfel aeth Cliff i fyw gyda rhieni ei fam ym Mronwydd, sir Gaerfyrddin. Cymraeg oedd ei iaith gyntaf.
Yn un ar ddeg oed aeth i Ysgol Ganolradd Llanelli, lle cafodd ei brofiad cyntaf o actio mewn dramâu ysgol niferus. Pasiodd ei arholiad Tystysgrif Ysgol yn 1928, a gyda chefnogaeth ei rieni symudodd yn 1929 i Lundain lle cafodd glyweliad yn y Royal Academy of Dramatic Art, RADA, a llwyddo i ddarbwyllo'r pennaeth i roi ysgoloriaeth arbennig un-tymor iddo gyda'r bwriad o ennill ysgoloriaeth lawn ar ddiwedd y tymor. Dechreuodd ei ddosbarthiadau yr un diwrnod. Ymhlith y darlithwyr yn RADA ar y pryd yr oedd Bernard Shaw, Charles Laughton a Robert Donat. Cafodd gymorth gyda'i ynganiad Saesneg safonol gan un arall o gyn-ddisgyblion Ysgol Ganolradd Llanelli, yr Athro Lloyd James a oedd yn diwtor i gyflwynwyr y BBC. Enillodd Evans Wobr Syr Johnston Forbes Robertson am Saesneg llafar wedyn, yn ogystal â gwobrau eraill ac ysgoloriaeth RADA.
Yn 1931 gwnaeth Evans ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf, yn 19 oed, yn Theatr yr Embassy yn Swiss Cottage, Llundain, gan chwarae Don Juan mewn cynhyrchiad newydd o The Romantic Young Lady. Aeth ar daith wedyn i Ganada a bu'n gweithio gyda chwmni theatr yn Folkestone a Croydon. Ymddangosodd yn y West End am y tro cyntaf yn 1933 pan drosglwyddodd cynhyrchiad Croydon o Gallows Glorious i Theatr Shaftesbury. Er mai byr oedd rhediad y ddrama daeth â Clifford Evans i'r amlwg. Yn haf 1933, chwaraeodd ran Pobun yn y Gymraeg yn Eisteddfod Wrecsam, cynhyrchiad a noddwyd gan yr Arglwydd Howard de Walden, un a fuasai'n hyrwyddo'r syniad o Theatr Genedlaethol i Gymru ers amser maith.
Yn dilyn ei ymddangosiad yn y West End, cafodd ran yn nrama John van Druten, The Distaff Side, gyda Sybil Thorndike; wedi tri mis yn Llundain aeth y cwmni ar daith i Efrog Newydd. Dysgodd Evans Gymraeg i'w ffrind Sybil. Ar ôl dychwelyd o America chwaraeodd ran Ferdinand yn The Tempest gyda Charles Laughton yn Sadler's Wells a Theatr Awyr Agored Regent's Park. Chwaraeodd Laertes yng nghynhyrchiad Leslie Howard o Hamlet yn America ac Oswald yn Ghosts Ibsen yn Theatr y Vaudeville, Llundain.
Ymddangosodd Evans mewn naw ffilm rhwng 1933 a 1938 a deuddeg arall rhwng 1940 a 1943. Cafodd ran gyda Paul Robeson yn y ffilm am lowyr Cymru, Proud Valley, yn 1940 a serennodd gyda Tommy Trinder fel y Foreman yn The Foreman Went to France yn 1942, Comedi Ealing gynnar. Yn 1943 priododd yr actores Hermione Hannen (1913-1983).
Roedd Evans yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel, ac ymunodd â'r 'Non-Combatant Corps' yn 1943 gan roi ei yrfa o'r neilltu am y tro. Bu'n cyfarwyddo a serennu gyda Hermione Hannen mewn cynhyrchiadau yn y Garrison Theatre, Salisbury ar gyfer yr Entertainments National Service Association (ENSA). Gweithiodd hefyd gyda Swyddfa Materion Cyfoes y Fyddin gyda'r nod o addysgu milwyr a chodi eu hysbryd. Ar ddiwedd y 1940au gwnaeth ddwy ffilm, gweithiodd ar y radio, ymddangosodd mewn 'All Star Matinee' er lles RADA, cynhyrchodd opera, chwaraeodd ran Faust yn Gymraeg, a gwasanaethodd ar Bwyllgor Ffilmiau'r Cyngor Prydeinig (Swyddfa Gogledd Cymru).
Credai Clifford Evans fod cefndir rhywun yn hollbwysig, 'peth i fod yn falch ohono, beth bynnag y bo, peth sy'n rhan ohonoch.' Yn 1950, yn unol â'r gred honno, derbyniodd swydd gan Gyngor y Celfyddydau fel Cyfarwyddwr Theatr y Grand, Abertawe, am chwe mis, gan obeithio creu cnewyllyn Theatr Genedlaethol i Gymru. Daeth Richard Burton i chwarae rhan Konstantin yn y cynhyrchiad cyntaf yng Nghymru o Yr Wylan gan Chekhov. Er i'r tymor fynd yn dda, roedd y Grand yn theatr fawr i'w llenwi a therfynwyd y prosiect gan Gyngor Abertawe.
Yn 1951, fel rhan o Ŵyl Prydain, cyfarwyddodd Evans Basiant Cymru, Land of My Fathers, yng Ngherddi Soffia, Caerdydd. Glyn Houston oedd yr adroddwr, ac Evans a ddyfeisiodd y sgript a'i chydysgrifennu. Cadarnhaodd hyn ei gred mai yn y brifddinas y dylai Theatr Genedlaethol weithredu. Roedd hefyd o'r farn nad oedd fawr o ddyfodol i ddramodwyr Cymru nes iddynt gael eu theatr eu hunain.
Dros y pum mlynedd nesaf aeth Evans yn ôl i fyd y sinema, gan ymddangos mewn un ar ddeg o ffilmiau. Erbyn 1957 roedd yn cyflwyno'r achos dros Theatr Genedlaethol yn gyhoeddus, ac yn 1959 ffurfiodd Ymddiriedolaeth Theatr Dewi Sant er mwyn cyflawni'r freuddwyd hon. Ei brif gydweithredwyr oedd y dramodydd Saunders Lewis ac Arglwydd Aberdâr. Ymhlith y rhai eraill a addawodd eu cefnogaeth roedd Syr Donald Wolfit, Syr Lewis Casson, Tyrone Guthrie, Syr Malcolm Sargent a Syr Carol Reed; Richard Burton, Peter O'Toole, Stanley Baker, Harry Secombe, Meredith Edwards, Hugh Griffith, Kenneth Williams a Donald Houston; Siân Phillips, y Fonesig Sybil Thorndike a'r Fonesig Flora Robson; Emlyn Williams, Alun Owen a Christopher Fry.
Cafwyd cyfarfodydd gyda Chyngor Dinas Caerdydd a thrafodwyd lleoliadau. Roedd y cynllun ar gyfer theatr â naw cant o seddi, oriel gelf a thŷ bwyta, stafelloedd ymarfer, theatr myfyrwyr â dau gant o seddi ac awditoriwm mawr awyr agored yng Ngherddi Soffia, ger Castell Caerdydd. Nod y Ganolfan hon oedd meithrin doniau Cymru a datblygu 'arddull frodorol gadarn mewn cynhyrchu a pherfformio', gan greu cyfleoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ond roedd gan Bwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau agenda gwahanol.
Yn 1962 creodd Cyngor y Celfyddydau Gwmni Theatr Cymru, ond ychydig iawn o actorion o Gymru a ddefnyddiwyd yn ei gynhyrchiadau Saesneg. Y flwyddyn ganlynol newidiodd Cwmni Theatr Cymru ei enw i Gwmni Theatr Cenedlaethol Cymru, ac nid oedd gan Fwrdd na Llys Llywodraethwyr Theatr Genedlaethol arfaethedig Clifford Evans unrhyw rym i wrthwynebu. Erbyn diwedd y chwedegau, roedd ei freuddwyd o Theatr Genedlaethol i Gymru yn deilchion.
Parhaodd i wneud gwaith teledu tan 1978. Rhwng 1965 a 1969 daeth yn enw cyfarwydd fel Caswell Bligh yn The Power Game. Ymddangosodd hefyd yn Armchair Theatre, Dr Finlay's Casebook, The Prisoner, The Avengers, The Saint a Jason King ymhlith rhaglenni adnabyddus eraill. Ni ddaeth Clifford Evans fyth yn 'seren' fel y gwnaeth llawer o'i gyfoeswyr. Serch hynny, fe wnaeth gyfraniad hynod bwysig i fyd theatr, ffilm a theledu.
Bu farw Clifford Evans yn yr ysbyty yn Yr Amwythig ar 9 Mehefin 1985.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-05-24
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.