LLOYD-JONES, DAVID MARTYN (1899 - 1981), gweinidog a diwinydd

Enw: David Martyn Lloyd-Jones
Dyddiad geni: 1899
Dyddiad marw: 1981
Priod: Bethan Lloyd-Jones (née Phillips)
Plentyn: Elizabeth Catherwood (née Lloyd-Jones)
Plentyn: Ann Beatt (née Lloyd-Jones)
Rhiant: Magdalene Lloyd-Jones (née Evans)
Rhiant: Henry Lloyd-Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Dafydd Ifans

Ganwyd Martyn Lloyd-Jones yng Nghaerdydd, yn fab canol o dri, i Henry Lloyd-Jones a Magdalene neu ' Maggie' Lloyd-Jones (née Evans), ar 20 Rhagfyr 1899. Roedd cartref y teulu yn Donald Street, Cathays, a'r tad yn groser wrth ei alwedigaeth. Rhywbryd yn ystod gwanwyn 1906, symudodd y teulu o Gaerdydd i Langeitho oherwydd iechyd y tad, a threfnwyd i gadw siop tipyn o bopeth, gan gynnwys offer amaethyddol, ger sgwâr y pentref. Er bod y rhieni ill dau o Geredigion, y fam o fferm Llwyncadfor ger Castellnewydd Emlyn, a'r tad o ardal Rhydlewis, a'r ddau yn siarad Cymraeg â'i gilydd, Saesneg a siaredid â'r meibion yng Nghaerdydd, a bu raid i'r bechgyn ddysgu Cymraeg yn eu hardal newydd. Ar ôl blwyddyn yn Llangeitho cofnodir bod Martyn wedi dweud wrth un o'i gyfoedion: 'Siarada Gymraeg â fi ? rwy'n Gymro nawr!'

Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Llangeitho ac Ysgol Uwchradd Tregaron. Arhosai ef a'i frodyr mewn llety yn Nhregaron o nos Lun tan fore Gwener gan fod bron i bum milltir rhwng eu cartref a'r ysgol. Mae'n sôn yn ei atgofion fod hiraeth mawr am ei gartref yn ei lethu yn ystod y cyfnodau hyn. Meddai am oerfel y lle: 'Tregaron, i mi o hyd, yw'r lle oeraf ar wyneb y ddaear', a byddai poen 'maleithe' neu losgeira bob gaeaf gymaint gwaeth yn Nhregaron.

Cafodd ef, ei dad, a Vincent ei frawd eu hachub o'r tân pan losgodd y cartref teuluol i'r llawr ar 20 Ionawr 1910; taflwyd Martyn, ac yntau'n ddeg oed, drwy ffenestr i freichiau cymdogion islaw. Er iddynt ailgodi'r cartref 'fu pethau ddim yr un fath yn Llangeitho wedi'r tân', ac yr oedd yn ymwybodol o'r wireb ysgrythurol 'nid oes i ni yma ddinas barhaus' am weddill ei oes.

Nodir 1913 yn flwyddyn o bwys ganddo, un a fu'n ddylanwadol iawn arno o safbwynt ei ddyfodol. Dyna'r flwyddyn y penderfynodd fod yn feddyg. Yr ail ddigwyddiad oedd dyfodiad Sasiwn Haf y Methodistiaid Calfinaidd i Langeitho i ddathlu daucanmlwyddiant geni Daniel Rowland. Cafodd y Sasiwn effaith ddofn arno a chafodd ei 'swyno' gan bregethu huawdl hoelion wyth y Cyfundeb.

Erbyn mis Ionawr 1914 roedd y busnes teuluol mewn trafferthion ariannol oherwydd gorehangu a thangyfalafu. Aeth y tad i Ganada i chwilio am waith, ond ni ddaeth dim o hynny a dychwelodd i Brydain. Aeth Martyn i Lundain i gwrdd â'i dad a'i helpu i chwilio am fusnes a chartref, a hynny ar drothwy'r Rhyfel Mawr. Gwelsant Lloyd George ac Asquith a Kitchener yn ystod eu harhosiad yno a bu'r dyddiau hynny'n rhai brawychus i'r Martyn ifanc.

Erbyn diwedd Medi 1914 yr oedd Henry Lloyd-Jones wedi prynu busnes llaeth yn 7 Regency Street, Westminster. Cynorthwyai Martyn gyda'r busnes llaeth os byddai'r staff arferol yn absennol, trwy orfod codi am hanner awr wedi pump y bore i fynd â'r llaeth o gwmpas y tai, cyn mynd ymlaen i Ysgol Ramadeg Marylebone, lle y disgleiriodd yn ei waith. Dewisodd Ysbyty Bartholomeus Sant (Barts), Llundain, ar gyfer hyfforddi'n feddyg a chafodd ei dderbyn yno yn un ar bymtheg oed.

Enillodd Martyn lwyddiannau anghyffredin yn y maes meddygol. Cyn pen pum mlynedd yr oedd wedi ennill MBBS (gydag anrhydedd mewn Meddygaeth), MRCS, ac LRCP. Erbyn 1923 yr oedd wedi ennill MD am waith ymchwil ar endocarditis bacteraidd lledlym, a dilynwyd hynny yn 1925 gydag MRCP. Cafodd ei ddewis i fod yn gynorthwyydd i Syr Thomas Horder (yr Arglwydd Horder wedi hynny) yn yr uned feddygol. Cydnabyddid Horder gyda'r blaenaf o feddygon ei oes a gwasanaethodd yn feddyg i'r teulu brenhinol dros gyfnod hir. Yr oedd ganddo glinig preifat yn Harley Street a chafodd Dr Lloyd-Jones brofiad yno o gynnal clinigau preifat. Yn 1926, pan oedd Dr Lloyd-Jones ar fin penderfynu cefnu ar y byd meddygol, cafodd gynnig bod yn Athro Cynorthwyol mewn Meddygaeth yn Ysbyty Barts.

Tybir mai yn ystod ei amser yn Barts, ac yntau yn ei ugeiniau cynnar, y cafodd Dr Lloyd-Jones dröedigaeth efengylaidd, a hynny tros gyfnod. Gwelsai, trwy ei brofiadau'n feddyg, y gwacter moesol ac ysbrydol a fodolai nid yn unig ymhlith ei gleifion tlawd yn nwyrain Llundain ond hefyd ymhlith y cyfoethogion a fynychai glinigau Harley Street. Bu'n gwrando ar weinidogaeth Dr John A. Hutton yng Nghapel Westminster tua'r un adeg, gŵr a gredai yng ngallu Duw i newid bywydau pobl trwy eu hatgenhedlu'n ysbrydol.

Syndod i lawer oedd penderfyniad Martyn Lloyd-Jones i gefnu ar y byd meddygol yn 1926. Cafodd ei gymeradwyo gan Henaduriaeth Llundain o Eglwys Bresbyteraidd Cymru i fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth ym mis Medi 1926. Ar 8 Ionawr 1927 priododd Dr Bethan Phillips (1898-1991), wyres i'r Parch. Evan Phillips (1829-1912), Castellnewydd Emlyn, yng Nghapel Charing Cross; ac ar 1 Chwefror cyrhaeddodd Sandfields, Aberafan, i fod yn weinidog Bethlehem, achos y Symudiad Ymosodol yno. Cefnodd Dr Lloyd-Jones ar yrfa ddisglair yn Llundain lle gallai fod yn ennill £3,500 y flwyddyn, i weinidogaethu am £220 y flwyddyn ymhlith pobl gweithfeydd dur Port Talbot.

Yr oedd rhai'n feirniadol iawn nad oedd y gweinidog newydd wedi derbyn unrhyw addysg ddiwinyddol ac nad oedd ganddo brofiad o arwain eglwys. Ond, o safbwynt aelodaeth y capel, derbyniodd groeso twymgalon ac yr oedd ganddo gefnogwr ffyddlon yn E. T. Rees, Ysgrifennydd Bethlehem, un a fu hefyd yn asiant gwleidyddol i Ramsay MacDonald, A.S. Aberafan a phrif weinidog cyntaf y Blaid Lafur. Adroddir hanes y cyfnod hwn gan Mrs Bethan Lloyd-Jones yn ei llyfr Memories of Sandfields 1927-1938 (1983). Yr oedd nifer wedi dod o dan ddylanwad Diwygiad 1904-05 yno ac yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth. Daeth nifer o bobl o gefndiroedd garw a digrefydd i ffydd yng Nghrist yr adeg honno trwy weinidogaeth 'Dr Martyn', fel y cyfeirid ato yng Nghymru.

Aeth ei enw fel pregethwr ar led ac yr oedd galw mawr arno i bregethu mewn capeli dros Gymru mewn cyfarfodydd ganol wythnos. Yn ystod haf 1932 cafodd ei wahoddiad cyntaf i bregethu dramor a threuliodd fisoedd Gorffennaf ac Awst yn gweinidogaethu mewn eglwys yn Toronto, Canada. Nid oedd awdurdodau'r Cyfundeb mor gefnogol iddo, fodd bynnag, gan ei labelu'n 'ffwndamentalydd', a phan gafwyd ymgais i'w benodi'n Brifathro Coleg y Bala, fe wrthodwyd hynny gan yr enwad. Ar achlysur arall, ceisiwyd ei apwyntio'n arweinydd y Symudiad Ymosodol, swydd a ddaeth i ran ei frawd yng nghyfraith, y Parch. Ieuan Phillips, yn ddiweddarach.

Bu'r 'Dr', fel y'i gelwid gan ei ddilynwyr diweddarach, yn gweinidogaethu yn Sandfields am un mlynedd ar ddeg cyn cael gwahoddiad i fod yn gyd-weinidog â'r Parch. G. Campbell Morgan yng Nghapel Westminster, Buckingham Gate, Llundain, yn 1938. Parhaodd y trefniant hwn trwy ddyddiau'r Blitz ar Lundain hyd at ymddeoliad Campbell Morgan yn 1943.

Yn wahanol i'w ragflaenydd a bregethai o safbwynt Arminaidd, Calfinydd oedd Dr Lloyd-Jones a pherthynai i adain ddiwygiedig y sbectrwm diwinyddol. Dechreuodd bregethu cyfresi o bregethau ar rai o lyfrau'r Testament Newydd, ddwywaith ar y Sul a hefyd mewn cyfarfod a gynhelid ar nos Wener. Byddai'n pregethu fesul adnod, ac weithiau ar gymal o adnod yn unig. Treuliodd ddwy flynedd yn pregethu ar y Bregeth ar y Mynydd (Mathew 5-7) a chyhoeddwyd y gyfres mewn dwy gyfrol: Studies in the Sermon on the Mount (1959 a 1966). Pregethodd 384 o bregethau ar Lythyr Paul at y Rhufeiniaid ac ymddangosodd y rheini ar ffurf 14 cyfrol: Romans (rhwng 1970 a 2003). Yn gyfochrog â'r gyfres honno, cyhoeddwyd wyth cyfrol ar Lythyr Paul at yr Effesiaid, sy'n seiliedig ar gyfres o 260 o bregethau: Ephesians (rhwng 1974 a 1982).

Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd yr oedd Capel Westminster, a oedd yn dal tua dwy fil o bobl, yn llawn ar y Sul. Tyrrai myfyrwyr, pobl broffesiynol, Cymry Llundain, meddygon a nyrsys i wrando ar ei weinidogaeth, pobl o bob oed ac enwad, a rhai heb gefndir eglwys na chapel. Yr oedd ganddo ddawn i ddysgu elfennau'r ffydd gan resymu â'i wrandawyr heb fawr iawn o eglurebau, a byddai'i weinidogaeth 'yn cyffwrdd â'r meddwl, yr enaid a'r bywyd' fel y soniodd un a fu'n elwa ar y pregethu hwnnw. Byddai'n croesawu unigolion i'w ystafell ar derfyn y ddwy oedfa ar y Sul i drafod problemau a rhannu cynghorion bugeiliol.

Parhaodd y weinidogaeth ffrwythlon hon nes iddo ymddeol yn 1968, yn rhannol oherwydd salwch, ond yn benodol er mwyn golygu ei bregethau ar gyfer eu cyhoeddi. Erbyn hyn fe gyhoeddwyd yn agos i gant o'i weithiau ac ymddangosodd nifer o'r teitlau hynny mewn ieithoedd tramor yn ogystal, o Goreeg yn y dwyrain i Bortiwgaleg Brasil yn y gorllewin. Mae ei bregethau ar gael ar wefan y MLJ Trust , gan roi cyfle i bobl drwy'r byd heddiw werthfawrogi ei weinidogaeth.

Daeth Dr Lloyd-Jones yn lladmerydd dros y byd efengylaidd yng ngwledydd Prydain a byddai gweinidogion ac unigolion yn troi ato am gyngor. Yn ogystal â gofalon Capel Westminster, ymddiddorai mewn nifer o gyrff a oedd yn hybu'r un safbwynt diwygiedig ag ef, a bu'n aelod o bwyllgorau nifer ohonynt. Ymhlith y rheini yr oedd: y corff a wasanaethai'r myfyrwyr efengylaidd, yr IVF; IFES, cymdeithas ryngwladol myfyrwyr efengylaidd y bu'n llywydd arni; y Llyfrgell Efengylaidd a sefydlwyd yn Llundain; Mudiad Cristnogol y Meddygon, yn wir ymddiddorai yn y maes meddygol gydol ei fywyd a darllenai gyfnodolion meddygol yn gyson; y Puritan/Westminster Conference; gwasg y Banner of Truth; a'r London Theological Seminary.

Rhwng 1948 a'i salwch olaf yn 1980 bu'n weithgar iawn gyda Mudiad Efengylaidd Cymru. Ef oedd y prif ddylanwad arno, a chyfrifid ef yn arweinydd ymhlith ochr Gymraeg ac ochr Saesneg y gwaith. Cynhelid cynhadledd flynyddol i weinidogion ym Mryn-y-groes, Y Bala, un o ganolfannau preswyl y Mudiad, a'r 'Dr' oedd y prif siaradwr ar ddiwedd pob cynhadledd.

Ei arwyr mawr yng Nghymru oedd Howel Harris, Daniel Rowland, a William Williams Pantycelyn. Iddo ef, roedd emynau Williams yn cyfuno diwinyddiaeth feiblaidd a phrofiad byw'r credadun yn bwerus. Yn Lloegr ei arwr oedd George Whitefield, tra gwelai le arbennig i Jonathan Edwards fel dehonglwr diwygiad y ddeunawfed ganrif yn America. Yr oedd ganddo ddiddordeb di-ben-draw ym mhwnc 'diwygiad' a llwyddodd i drosglwyddo i lawer y dyhead o weld Duw yn dychwelyd eto mewn ffordd nerthol. Bu'n pregethu yn America fwy nag unwaith, a ffrwyth un o'r ymweliadau hynny yw'r gyfrol ddylanwadol Preaching and Preachers (1971).

Er iddo barhau'n bregethwr ar lyfrau Eglwys Bresbyteraidd Cymru hyd ddiwedd ei oes, daeth i'r casgliad mai grŵp o gredinwyr yn cael cymdeithas â'i gilydd o fewn eglwysi annibynnol oedd y patrwm ysgrythurol o wir eglwys. Wrth annerch y Gynghrair Efengylaidd yn Hydref 1966, apeliodd ar i Gristnogion efengylaidd ddod at ei gilydd mewn eglwysi lle byddai Gair Duw yn cael ei barchu ac yn cael ei bregethu dan fendith yr Ysbryd Glân. Creodd y bregeth hon gynnwrf mawr o fewn y garfan efengylaidd. Ymyrrodd Cadeirydd y noson, yr Anglican amlwg John Stott, trwy feirniadu'r hyn a ddywedwyd gan Dr Lloyd-Jones, a bu trafod a beirniadu mawr am flynyddoedd wedyn, gyda hollt yn datblygu rhwng y rhai a ddewisodd adael eu henwadau a'r rhai a arhosodd o'u mewn.

Bu farw Martyn Lloyd-Jones ar Ddydd Gŵyl Dewi 1981. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel Bethel (MC) Castellnewydd Emlyn ac amcangyfrifwyd bod tua 900 o bobl yn bresennol. Claddwyd ei weddillion ym mynwent y Gelli ar gyrion y dref. Gadawodd weddw a dwy ferch, y Fonesig Elizabeth Catherwood (g. 1927) a Mrs Ann Beatt (g. 1937). Yn ystod ei oes gwrthododd dderbyn graddau doethur er anrhydedd, a gwrthododd dderbyn CBE yn 1977.

Dywedodd un o'i gofianwyr amdano: 'Yr oedd ei gryfder mewn dadl yn arswydus ar brydiau'. Er ei awdurdod yn y pulpud, yr oedd ganddo bersonoliaeth dyner wrth ddelio ag unigolion. Gwnaeth ambell un y sylw ei fod yn defnyddio ei sgiliau diagnostig meddygol wrth ddelio ag eneidiau mewn modd deallus a llawn dirnadaeth. Un o'i gyfrolau mwyaf dylanwadol yn y maes hwn oedd Spiritual Depression : its causes and cures (1964).

Ystyrir Martyn Lloyd-Jones yn un o bregethwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif. Caiff ei bregethau, a ddiogelwyd ar ffurf llyfrau a recordiadau, ddylanwad arhosol heddiw. O ganlyniad, mae'r Cymro twymgalon hwn yn fawr ei barch ymhlith Cristnogion mewn gwledydd ledled y byd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-05-19

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/