Erthygl a archifwyd

HARRIES, JOHN (c.1785 - 1839), astrolegydd a meddyg

Enw: John Harries
Dyddiad geni: c.1785
Dyddiad marw: 1839
Priod: Lettice Harries (née Rees)
Plentyn: Anne Harries
Plentyn: John Harries
Plentyn: Henry Harries
Rhiant: Henry Jones
Rhiant: Mary Jones (née Wilkins)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: astrolegydd a meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Morfudd Nia Jones

Mae'n debyg i John Harries (Shon Harri Shon) gael ei eni ym Mhantycoy (Pant-coi), Cwrt-y-cadno, Sir Gaerfyrddin, ac fe'i bedyddiwyd yng Nghaio ar 10 Ebrill 1785. Ef oedd yr hynaf o chwech o blant Henry Jones (Harry John, Harry Shon), Pantycoy (1739-1805), saer maen, a'i wraig Mary Wilkins. Derbyniodd addysg gymharol ffurfiol, yn Y Cowings, Academi Breifat Fasnachol yng Nghaio tan yn ddeg oed, ac yna fel preswyliwr yn ysgol ramadeg Hwlffordd tan yn ddeunaw oed.

Nid yw'n glir ble y bu'n astudio meddygaeth - mae nifer o hanesion anghyson gan gynnwys adroddiadau bod ganddo bractis gyda'i ffrind yr astrolegydd Robert Cross Smith (Raphael; 1795-1832) yn Harley Street, Llundain, cyn iddo ddychwelyd i Gaeo yn ei bedwardegau i sefydlu practis. Fodd bynnag, dengys ei drawsgrifiadau a'i gyfrifon meddygol (NLW MS 11702F , NLW MS 11703E , 97, NLW MS 11701C , 672A) dyddiedig 1813-31, iddo fod yn ymarfer yng Nghwrt-y-cadno trwy gydol y cyfnod hwn.

Mae rhai ffynonellau'n nodi iddo briodi Elizabeth Emily Lewis, merch i gyfreithiwr o Abergwaun. Fodd bynnag, mae trwydded briodas ar gyfer 8 Awst 1821 yn cofnodi bod John Harries, llawfeddyg a dyn sengl o blwyf Caio, wedi priodi Lettice Rees. Enwir ei weddw yn Lettice yn ei ewyllys (13 Mai 1842, SD/1842/199 ).

Mae John Harries yn un o'r dynion hysbys mwyaf adnabyddus. Roedd ef a'i deulu yn enwog ledled Cymru a siroedd y gororau fel meddygon proffesiynol, llawfeddygon galluog ac astrolegwyr medrus a oedd â safle pwysig yn y gymdeithas. Teithiai pobl o bell ac agos i ymgynghori â hwy ar faterion yn ymwneud ag adfer eiddo coll neu wedi ei ddwyn, iachâd pobl ac anifeiliaid, swyn, dweud ffortiwn, sêr-ddewiniaeth a phroffwydoliaeth, brwydro dewiniaeth, a galw ysbrydion daionus. Dywedir i ymwelwyr nodedig alw ym Mhantycoy, gan gynnwys yr actores enwog Sarah Siddons ym 1851, a George Borrow yn ystod ei daith o amgylch Cymru ym 1854.

Fodd bynnag, cawsant eu collfarnu'n llym gan sefydliad crefyddol eu dydd. Un o feirniaid ffyrnicaf John Harries oedd David Owen (Brutus, a ysgrifennodd yn Yr Haul ym Medi 1840, t.286 : 'Ond gan y myn dynion fod yn ffyliaid, nid oes ond gadael iddynt ymgynghori â Mr. Harries, Cwrt y Cadno, a myned i draul ar bwys ei gelwydd a'i dwyll. Y mae yn waeth na lleidr ei fod yn twyllo dynion fel y mae; ac y mae eisiau tost i'w gael i afael y gyfraith, a rhoddi tread-mill iddo am ychydig o fisoedd, fel y gwneir a'i gyd-dwyllwyr yn Lloegr.' Ym 1889, honnodd John Rowland ('Giraldus') fod Dr. Harries yn 'conjurer, fortune-teller, and quack doctor … He gulled the credulous for many years and reaped a bountiful harvest.' (Carmarthenshire Notes, Antiquarian, Topographical, and Curious , I (1889), t.29)

Roedd gan y teulu lyfrgell sylweddol o lyfrau a llawysgrifau mewn Groeg, Lladin, Saesneg a Ffrangeg ym Mhantycoy, a oedd yn adlewyrchu eu diddordebau meddygol, astrolegol a dewiniol. Dywedir bod John Harries yn cadw un o'i lyfrau wedi ei gloi ac yn guddiedig, ac na fyddai'n meiddio ei agor ond unwaith y flwyddyn mewn coedwig ddiarffordd gerllaw lle byddai'n darllen amryw o swynion ohono i alw ysbrydion. Honnir bod y llyfr yn cynhyrchu storm arw iawn ar ôl ei agor. Arweiniodd hyn at y gred bod pŵer y teulu yn deillio o'r gyfrol fawr hon o swynion, a oedd wedi ei rhwymo â chadwyn haearn a thri chlo. Dywed J. H. Davies yn Rhai o Hen ddewiniaid Cymru (1901), mai'r unig lyfr y daeth o hyd iddo pan ymwelodd â Chwrt-y-cadno ychydig flynyddoedd ynghynt a oedd yn debyg i'r disgrifiad yma oedd hen lyfr du maint Beibl teuluol gyda dau glo, a oedd yn cynnwys offer meddygol amrywiol, ac awgryma mai hwnnw oedd y llyfr uchod.

Mae Ithiel Vaughan-Poppy yn cynnwys disgrifiadau manwl o John a Henry Harries a'u gwragedd yn ei thraethawd 'The Harries Kingdom - Wizards of Cwrt-y-cadno', ac yn nodi iddi adneuo ffotograffau o'r pedwar i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Fodd bynnag, gan nad oedd ambroteipiau ar gael tan ddechrau'r 1850au, mae'n annhebygol mai ffotograffau o John , ei 'wraig' Elizabeth Emily Harries a Henry a'i wraig Hannah a gymerwyd ar ôl eu priodas ar 4 Tachwedd 1842 yw'r rhain. Mae lle, felly, i amau ei disgrifiadau sy'n seiliedig ar y ffotograffau hyn.

Bu John Harries farw mewn tân ar 11 Mai 1839 yn 54 oed. Adroddir iddo gael rhagargoel y byddai'n marw mewn damwain ar y dyddiad hwnnw, ac er mwyn osgoi hynny arhosodd yn y gwely trwy'r dydd. Aeth y tŷ ar dân yn ystod y nos, a bu farw o ganlyniad i'r tân. Claddwyd ef ar 13 Mai ger y ffenestr ddwyreiniol ym mynwent eglwys Caio.

HENRY GWYNNE HARRIES (1821 - 1849), meddyg a dyn hysbys

Roedd mab John Harries. Henry Gwynne Harries hefyd yn feddyg ac yn 'ddyn hysbys' adnabyddus. Mae sawl ffynhonnell yn awgrymu iddo gael ei eni ar 30 Mehefin 1816, ond mae cofnodion cofrestr plwyf Caio yn cofnodi i 'Harry, mab hynaf John a Lettice Harries o Pant-Coi', gael ei fedyddio ar 7 Tachwedd 1821. Ymddengys iddo ddilyn ôl troed ei dad trwy gael ei addysgu yn Y Cowings ac yn ysgol ramadeg Hwlffordd cyn o bosibl fynychu Prifysgol Llundain.

Bu Henry yn byw gyda'i fam yn Aberdâr, tŷ ar eu hystad, rhwng 1839 a 1842 tra bod Pantycoy yn cael ei ailadeiladu ar ôl y tân a laddodd ei dad. Priododd Hannah Marsden, athrawes yng Nghaio, merch i weithiwr ar ystâd Pantycoy, yn eglwys Caio ar 4 Tachwedd 1842. Gellir gweld copi o'i 'llythyr bidio ' yn LlGC. Teimlai ei deulu ei fod wedi priodi'n is na'i statws cymdeithasol, a honnir bod y briodas wedi bod yn un anhapus. Serch hynny, derbyniodd ei dynged gan ddweud 'I cannot help it. I must marry her. I dare not cross my planet' (NLW MS 11119B ). Bu iddynt dri o blant, Victoria Letitia, g. Mawrth 1843, John, g. Mawrth 1844; a Henry Harri Harries, g. Ebrill 1846. Bu Henry Harries farw o'r ddarfodedigaeth ar 16 Mehefin 1849 yn wyth ar hugain oed, a'i gladdu dridiau'n ddiweddarach.

JOHN HARRIES (c.1827 - 1863), meddyg a dyn hysbys

Mab arall John Harries, sef John Harries (c.1827-1863), oedd yr olaf o ddynion hysbys enwog Cwrt-y-cadno. Bu'n ymhel ychydig mewn sêr-ddewiniaeth, 'but never shone' (NLW MS 11119B), ac awgrymir iddo elwa ar enw da ei dad a'i frawd hŷn. Ystyrid bod ei chwaer Ann hefyd yn fedrus yn y gelfyddyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-08-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

HARRIES, HENRY (bu farw 1862), sywedydd, meddyg gwlad, a swynwr

Enw: Henry Harries
Dyddiad marw: 1862
Priod: Hannah Harries (née Marsden)
Plentyn: Victoria Letitia Harries
Plentyn: John Harries
Plentyn: Henry Harri Harries
Rhiant: John Harries
Rhiant: Lettice Harries (née Rees)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sywedydd, meddyg gwlad, a swynwr
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Hanes a Diwylliant; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Emrys George Bowen

Mab JOHN HARRIES (bu farw 1839), Pantcoy, Cwrt-y-cadno, Sir Gaerfyrddin. Cyfrifir Henry Harries a'i dad ymysg yr enwocaf o swynwyr Cymreig y cyfnod cymharol ddiweddar; gwyddys i bobl o bob rhan o Dde Cymru a'r Gororau fyned i ymgynghori â hwynt. Cawsai'r tad addysg ffurfiol lawer gwell nag a gafodd ei gymdogion, ac yr oedd ganddo yn ei lyfrgell brif lyfrau meddygol ei ddydd ynghyd â llyfrau yn Lladin a Groeg (y mae rhai o'r cyfrolau hyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Yn nes ymlaen bu'r tad a'r mab yn cydweithio â'i gilydd, ac ychydig cyn marw'r tad cyhoeddodd y mab hysbysiad yn rhoi manylion am eu gwaith. Yn hwn hawliai y gallent broffwydo ynglŷn â genedigaeth, dywedyd ffortiwn pob un â ymgynghorai â hwynt, dywedyd wrth 'friends and enemies, trade or profession best to follow: whether fortunate in speculation, viz. Lottery, dealing in Foreign markets, etc., etc. Of marriage, if to marry… of children, whether fortunate or not, etc., etc., deduced from the influence of the Sun and Moon, with the Planetary Orbs at the time of birth. Also, judgment and general issue in sickness and diseases, etc….' Gallent hefyd swyno poen i ffwrdd, darganfod lladron, gwrthweithio effaith rheibiaeth, a gorchymyn i ysbrydion ymddangos. Nid oes ddadl na bu i wŷr fel John a Henry Harries chwarae rhan bwysig ym mywyd y wlad yn eu hoes hwy. Ychydig o feddygon trwyddedig a oedd o fewn cyrraedd trigolion y rhannau gwledig, ychydig o heddgeidwaid i helpu i ddarganfod troseddau a throseddwyr, ac ychydig hefyd o feddygon anifeiliaid y gellid cael eu barn pan fyddai anifeiliaid yn wael; rhoddai'r dewiniaid gymorth ym mhob un o'r amgylchiadau hyn.

Awdur

  • Yr Athro Emrys George Bowen, (1900 - 1983)

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.