Ganwyd Diederich Wessel Linden yn ôl pob tebyg yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif ym mhentref bach Hemmerde, Westphalia, yr Almaen, yn fab i Thomas Linden a'i wraig Mary. Nid oes fawr ddim yn hysbys am ei fagwraeth. Serch hynny, mae'n debyg iddo dderbyn peth addysg ynghylch egwyddorion sylfaenol mwyngloddio a mwynoleg. Er iddo yn nes ymlaen yn ei fywyd ei ddisgrifio ei hun fel meddyg a ffisegydd, nid oes tystiolaeth iddo dderbyn gradd brifysgol. Mewn gwirionedd, datganodd Linden gyda balchter yn un o'i gyhoeddiadau nad oedd yn academydd dysgedig.
Wedi iddo ymfudo i Brydain yn 1842, ymgartrefodd Linden yn gyntaf yn Llundain gan ennill ei fywoliaeth fel meddyg a hyfforddwr ffarmacolegol. Yn ystod y cyfnod hwn, paratôdd ei gyhoeddiad cyntaf, Gründliche historische Nachricht vom Theer-Wasser (1745), argraffiad Almaeneg o astudiaeth feddygol ddiweddar gan George Berkeley (1685-1753). Yn Ebrill 1746, rhoddwyd patent 14 blynedd i Linden ar gyfer cynhyrchu solpitar yn gyfyngol yn ôl ei ddull ei hun. Tua'r un amser, cyhoeddodd ei ail lyfr, esboniad manwl ar astudiaeth o ddyfroedd mwynol gan y ffisegydd Almaenig Johann Heinrich Schütte (1694-1774).
Ac yntau efallai'n ymfalchïo yn ei lwyddiannau cynnar, aeth Linden ati wedyn i ymgeisio am ei dderbyn yn ddinesydd Prydeinig, a chyflwynwyd ei gais i Dy'r Arglwyddi ar 18 Ebrill 1846, ond nid aeth ymhellach. Bu'n rhaid iddo aros tan 1762 cyn cael dinasyddiaeth trwy Ddeddf Breifat a lofnodwyd gan y Brenin George III. Ac yn waeth na hynny, ymddengys na chafodd unrhyw elw ariannol o'i batent na'i gyhoeddiadau. Aeth Linden i gymaint o ddyled fel y bu iddo gael ei garcharu yn y Fflyd ar 20 Ionawr 1747 am ychydig dros fis. Erbyn gwanwyn y flwyddyn honno, roedd wedi symud o Lundain i Gymru.
Erbyn ail hanner 1747, roedd Linden wedi llunio prydlesi gyda'r eurych Richard Richardson, Caer, a John Williams, Treffynnon, i ddatblygu mwyngloddiau yng Nghaerwys a Phrestatyn. O ganlyniad i hynny, symudodd i Dreffynnon. Tua'r adeg honno y bu i Linden ddenu sylw cyhoeddus - a dicter - am y tro cyntaf o blith ei gyfoedion Prydeinig, megis Lewis Morris a Thomas Pennant. Gyda chefnogaeth gan Elizabeth Adams, argraffydd yng Nghaer, a Thomas Cotham, cyfaill personol a gyfieithodd y llawysgrif Almaeneg, cyflwynodd Linden ei gyhoeddiad Saesneg cyntaf, A Letter to William Hooson, a Derbyshire Miner (1747). Yn y pamffledyn hwn, ymosododd ar Hooson yn bennaf fel hac a diletante a honnodd fod holl weithgarwch mwyngloddio Prydain megis yn ei fabandod o'i gymharu â rhagoriaeth yr Almaenwyr yn y maes. Yn anffodus i'r newyddian o'r Almaen, roedd Hooson yn fawr ei fri ymhlith mwynwyr Prydain.
Denwyd sylw Lewis Morris gan lwyddiannau bychain Linden ei hun gyda mwyngloddiau yn Sir y Fflint a'i ymosodiad ar Hooson, a soniodd Morris yn ddeifiol amdano mewn llythyrau at ei frawd, Richard Morris, yn Llundain. Nid aeth sylwadau'r brodyr Morris ymhellach na'u cylch cyfyng eu hunain, yn Llundain yn bennaf, ond aeth Thomas Pennant ati i ladd ar Linden yn weddol agored, er heb ei enwi, yn ei Tour of Wales (1778) am ei gred mewn ffyn dewino a'i ddefnydd ohonynt.
Mentrodd Linden i faes mwyngloddio unwaith eto yn 1750 gyda Three letters on Mining and Smelting, disgrifiad yn bennaf o gyflwr y grefft, neu ei diffyg, ar draws gogledd Cymru. Gan ddal at ei farn flaenorol am Hooson, ac am ffyn dewino, bu'r cyhoeddiad hwn yn llwyddiant. Cafwyd sawl argraffiad a chyfieithiad Ffrangeg, Lettres sur la Minéralogie et Métallurgie pratiques (1752).
Serch hynny, dyfroedd mwynol oedd pwnc y rhan fwyaf o waith cyhoeddedig Linden. Ei destun Saesneg cyntaf ar y pwnc oedd A Treatise on the Origin, Nature, and Virtues of Chalybeat Waters, and Natural Hot Baths (1748) sy'n cynnwys pennod ar briodoleddau mwynol a rhinweddau meddygol Ffynnon Gwenfrewi. Yn sgil hon ac astudiaethau diweddarach ar ffynhonnau twym a mwynol cafodd Linden enw gwell gyda'i ddarllenwyr ym Mhrydain, er bod ei arbenigedd meddygol a chemegol yn amheus hyd yn oed yn ôl safonau ei gyfnod.
Roedd Linden yn lladmerydd ymroddedig dros rinweddau meddygol dyfroedd mwynol, a chyhoeddodd nifer o astudiaethau pellach dros y blynyddoedd dilynol, yn enwedig ei Treatise on the Three Medicinal Mineral Waters at Llandrindod, in Radnorshire, South Wales (1754), sef yr adroddiad cyntaf sy'n tystio i ddatblygiad y trefi ffynhonnau yng nghefn gwlad Gymru ar y pryd. A barnu wrth y rhestr drawiadol o danysgrifwyr i'r gyfrol honno, mae'n amlwg bod Linden wedi gweld y potensial economaidd i drefi Cymru elwa trwy eu hailddyfeisio eu hunain yn ffynonfeydd modern.
Arafu a wnaeth cyhoeddiadau Linden yn ystod y 1750au, er i'w weithiau cynharach gael eu hailargraffu sawl gwaith. Yn 1753, cyflogwyd Linden yn ymgynghorydd gan Peregrine Bertie, trydydd Dug Ancaster (1714-1778), i ddatblygu nifer o safleoedd mwyngloddio ar ei ystad yn rhan uchaf Dyffryn Conwy, yn ardal Trefriw yn bennaf. Gan weithio o'i gartref newydd yn Llanrwst, mae'n debyg i Linden gael peth llwyddiant ar y dechrau; serch hynny, ni fu i'r mwyngloddiau gyflawni'r potensial disgwyliedig. Ymhen ychydig flynyddoedd, rhoddodd Linden y gorau i'w swydd gydag Ancaster a symud i Aberhonddu.
Yn Aberhonddu, dechreuodd Linden ar fywyd newydd trwy sefydlu practis meddygol. Mynychodd gyfarfodydd Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, y gymdeithas gyntaf o'i bath yng Nghymru. Ymaelododd Linden â'r gymdeithas yn ffurfiol yn 1757, gan lywyddu un o'r cyfarfodydd ym Mai 1759. Trwy ei gyswllt â'r gymdeithas, daeth yn gyfeillgar ag un o'r sylfaenwyr, Hywel Harris, Trefeca. Yn Ebrill 1759, cyhuddwyd Linden gan bedwar dyn, Thomas Price a George Adney o Aberhonddu, Evan Phillip o Langamarch a rhyw Thomas Protherto, bob un ar wahân, o ymosod arnynt 'with an intent [of] that most horrid detestable and abominable Crime of amongst Christians not to be named, called Buggery'. Gwrthodwyd pob un o'r pedwar cyhuddiad gan Lys y Sesiwn Fawr.
Ar ôl 1760, mae lleoliadau Linden yn mynd yn ansicr, ac mae'n anodd gwybod a oedd ganddo gyfeiriad parhaol. Serch hynny, cadwodd gyswllt â'i gyfeillion a chydnabod yng Nghymru. Yn 1763, treuliodd gyfnod yn Llundain a bu'n gohebu â John Williams, asiant mwyngloddio Ancaster yn Sir Ddinbych, gan ei gynghori ynghylch ymdrechion parhaus i gloddio plwm a chopr yn rhan uchaf Dyffryn Conwy. Yn un o'i lythyron, rhybuddiodd Linden yn erbyn defnyddio mwyndoddfa Trefriw ar gyfer plwm neu gopr 'because it would poison the verdurer and the catel and all the inhabitants of the neighbourhood, and that […] will not doe'. Gwelir yn y llythyr hwn ochr gydwybodol Linden, gyda'i rybudd na ddylai gwaith diwydiannol gael ei wneud heb boeni am y canlyniadau a heb y gofal dyledus.
Ar adegau eraill, byddai Linden yn mynd â chleientiaid i gymryd y dyfroedd ym Mryste, arfer a ysgogodd bortread cymeriad dychanol yn y nofel The Expedition of Humphry Clinker (1771) gan Tobias Smollett (1721-1771). Parhaodd Linden i gyhoeddi a gohebu ynghylch triniaethau gyda dyfroedd mwynol. Ar ddwy adeg wahanol yn 1766, galwyd arno i ymgymryd ag An Experimental and Practical Enquiry into the Opthalmic, Antiscrophulous, and Nervous Properties of the Mineral Water of Llangybi, in Carnarvonshire (1767). Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg talfyredig o'r traethawd hwn wedi ei farwolaeth dan y teitl Hanes ferr o gynnedfau meddyginiaethawl dyfroedd Llangybi (1771).
Erbyn 1767, roedd Linden wedi ymgartrefu yn yr Amwythig neu'r cyffiniau. Yno y cyhoeddodd ei lyfr olaf, A Medicinal and Experimental History and Analysis of the Hanlys-Spa Saline, Purging and Chalybeate Waters, near Shrewsbury, etc (1768). Bu farw y flwyddyn ganlynol yn yr Amwythig dan amgylchiadau anhysbys ac fe'i claddwyd yn eglwys St Chad ar 25 Awst 1769.
Gellir casglu o'i weithiau cyhoeddedig, o'i ohebiaeth ac o'r ffordd yr ymatebodd ei gyfoedion iddo, fod gan Diederich Wessel Linden natur obsesiynol a rhwysgfawr. Yn argyhoeddedig o'i ddoniau a'i farn, dilynodd ei ddiddordeb mewn mwyngloddio a dyfroedd mwynol gyda dyfalwch ac angerdd diffuant - gan ddigio'n aml iawn bobl eraill cymhwysach a mwy profiadol yn y meysydd hynny. Er gwaethaf beirniadaeth lem, cynhyrchodd Linden yr arolygon mwyaf cynhwysfawr o weithgareddau mwyngloddio yng ngogledd Cymru a dyfroedd mwynol yng Nghymru a Lloegr cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar adeg pan nad oedd fawr ddim ar gael yn gyhoeddedig ar y pynciau hynny ym Mhrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-12
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.