THOMAS, DEWI-PRYS (1916 - 1985), pensaer

Enw: Dewi-prys Thomas
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 1985
Priod: Joyce Ffoulkes Thomas (née Parry)
Rhiant: Adolphus Dan Thomas
Rhiant: Elysabeth Watkin Thomas (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth

Ganwyd Dewi-Prys Thomas ar 5 Awst 1916 yn ardal Toxteth Park, Lerpwl, plentyn hynaf Adolphus Dan Thomas (1889-1974), swyddog undeb y gweithwyr banc, a'i wraig Elysabeth (Lys) Watkin Thomas (g. Jones, 1888-1953). Ganwyd ei chwaer Rhiannon ('Nannon') Prys Thomas yn 1919. Roedd yr hanesydd Robert John Pryse ('Gweirydd ap Rhys', 1807-1889) yn hen daid iddo. Sylwer mai yn ddiweddarach y mabwysiadodd Dewi-Prys y cysylltnod yn ei enw.

Roedd ei dad yn drysorydd Plaid Genedlaethol Cymru a'i fam yn drysorydd cenedlaethol Heddychwyr Cymru. Roedd Ambrose Bebb a George M. Ll. Davies yn ymwelwyr cyson â'r cartref, ac ymunodd Dewi-Prys â Phlaid Genedlaethol Cymru dan ddylanwad Ambrose Bebb pan oedd yn bymtheg oed.

Derbyniodd ei addysg yn Lerpwl. Cafodd ei berswadio gan y pensaer a'r academydd Lionel Bailey Budden i ddilyn cwrs pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl yn hytrach na bod yn arlunydd. Aeth i'r Brifysgol yn 1933 gan ennill gradd dosbarth cyntaf BArch yn 1939, ynghyd â nifer o wobrau. Astudiodd gynllunio trefol gyda'r darlithydd Syr William Holford ac ennill diploma yn y maes hwnnw yn 1942.

Symudodd i Gaerdydd am y tro cyntaf gyda'i deulu yn 1940. Ni fu rhaid iddo ymuno â'r fyddin gan ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol, yn genedlaetholwr yn gyntaf ac yn heddychwr yn ail. Bu'n gweithio gyda'r penseiri Ivor Jones a John Bishop yng Nghaerdydd ac wedyn gyda T. Alwyn Lloyd, 1942-47. Gweithiai fel pensaer yn ystod y dydd a gwneud tasgau amrywiol mewn ysbyty gyda'r hwyr. Un o'i ddyletswyddau rheolaidd bob nos am 8 o'r gloch oedd cludo merched beichiog o'r Adran Geni i'r lloches danddaearol ac yna eu dychwelyd i'w gwelyau am 4 o'r gloch y bore.

Bu'n darlledu'n gyson gyda'r BBC a pherfformio ar lwyfan yn y cyfnod hwn hefyd gan actio'r Brenin Creon yn Antigone. Creodd ddarluniau ar gyfer siacedi llwch nofel T. Rowland Hughes, O Law i Law (1943) a'i gerddi Caneuon Siôn (1943); Hunangofiant Tomi gan E. Tegla Davies (1947); a llyfryn Gwynfor Evans, Havoc in Wales; the War Office demands (1947). Cyhoeddodd lyfryn The history and architecture of Lisvane Parish Church yn 1964. Bu hefyd yn gartwnydd gwleidyddol.

Fe'i gwahoddwyd yn ôl i Ysgol Bensaernïaeth Lerpwl yn 1947 fel darlithydd a dod yn uwch-ddarlithydd yn ddiweddarach. Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl cynlluniodd Talar Wen, Llangadog, i'w chwaer Rhiannon a'i gŵr Gwynfor Evans; tŷ modern a godwyd gan ddefnyddio deunyddiau o Gymru a phob ystafell wedi'u hadeiladu o gwmpas cwrt. Symudodd y teulu yno yn 1953.

Roedd 1960 yn flwyddyn gynhyrchiol i Dewi-Prys Thomas. Cynlluniodd Cedarwood yn Woolton, Lerpwl, gyda Gerald R. Beech gan ennill gwobr 'House of the Year' mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y cylchgrawn Woman's Journal. Ymwelodd dros 66,000 o bobl â'r tŷ nodedig hwn dros gyfnod o bedair wythnos. Cafodd ei restru fel adeilad gradd II yn 2007. Cynlluniodd Ystafelloedd Telethrebu yn Nhŵr Shell yn Llundain a hefyd Tŷ Cwrdd y Cyfeillion yn Heswall, Cilgwri, gyda Gerald Beech eto, 1961-62.

Penodwyd Thomas yn bennaeth Ysgol Bensaernïaeth Cymru yng Nghaerdydd yn 1960. Dyrchafwyd ef yn Athro Pensaernïaeth cyntaf Prifysgol Cymru yn 1964, a daliodd y swydd honno nes iddo ymddeol yn 1981. Tyfodd yr ysgol yn aruthrol o dan ei arweinyddiaeth. Sefydlwyd Adran Cynllunio Trefol ar wahân ganddo ef a Lyn Allen yn 1967. Roedd Dafydd Iwan a Prys Edwards yn fyfyrwyr iddo.

Priododd Joyce Ffoulkes Davies (1908-1992), merch y Parchedig Robert Ffoulkes Parry, Ballarat a Geelong, Awstralia, ar 4 Ionawr 1965, yn Eglwys Rehoboth, Dolgellau. Roedd yn llystad i Rhiannon, Siani, Ifor a Vaughan.

Yn dilyn ei ymddeoliad bu'n gweithio fel ymgynghorydd i Gwmni Penseiri Wyn Thomas, Caerdydd, ac fe'i comisiynwyd yn 1980 gan Gyngor Gwynedd i gynllunio pencadlys newydd i'r Cyngor Sir ger safle Castell Caernarfon. Agorwyd yr adeilad trawiadol hwn yn swyddogol yn 1987, a chyflwynwyd Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol (Medal Goffa T. Alwyn Lloyd) am bensaernïaeth yn 1987 i Merfyn Roberts a Dewi-Prys Thomas ar ôl ei farwolaeth am eu gwaith cynllunio. Y mae papurau a chynlluniau Dewi-Prys Thomas ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn eu plith y mae cynlluniau gardd goffa i nodi trychineb Aberfan a Thŷ'r Cyfeillion yn Heswall.

Urddwyd Dewi-Prys Thomas yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r cylch yn 1982 am ei gyfraniad i bensaernïaeth drwy hyfforddi cannoedd o benseiri'r dyfodol yng Nghymru a thu hwnt. Ei enw yng Ngorsedd oedd 'Dewi Prys'. Bu'n un o gomisiynwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Roedd hefyd yn sylfaenydd ac aelod o fwrdd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd ac yn ymgyrchydd amgylcheddol. Bu'n darlithio a darlledu yn fynych yn y Gymraeg a'r Saesneg ac ar 20 Ebrill 1985 traddododd ei ddarlith gyhoeddus olaf mewn cynhadledd dan adain Gweled yng Nghaernarfon ar y testun 'Llygad Cymro'.

Bu Dewi-Prys Thomas farw o effeithiau strôc ar 28 Tachwedd 1985 yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Thornhill, a gwasgarwyd ei lwch ym mynwent Capel Rehoboth, Dolgellau.

Traddodwyd 'Darlith goffa Dewi-Prys Thomas: Cymro, pensaer, athro' am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas yn 1990 a chynigir gwobr bob tair blynedd. Ymhlith yr enillwyr y mae'r Tŷ Gwydr Mawr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, yn 2003, ac adeilad y Senedd, Caerdydd yn 2006.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-07-13

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.