CARTER, (Teulu), Cinmel, sir Ddinbych

Trosglwyddwyd Cinmel, ger Abergele, a fu unwaith yn eiddo teulu o'r enw Lloyd (Yorke, Royal Tribes, ail arg., 113), i berchenogion newydd pan briododd Alice, aeres Gruffudd Lloyd, Richard ap Dafydd ab Ithel Fychan o Blas Llaneurgain. Priododd eu merch a'u haeres hwy, sef Catherine, Pyrs Holland (bu farw 1552) o'r Faerdref (gweler Holland, teuluoedd, Rhif 5. Felly y sylfaenwyd teulu Holland Cinmel (Rhif 7). Dilynwyd Pyrs (J. E. Griffith, Pedigrees, 259), gan fab, David, gan wyr, PYRS (siryf sir Ddinbych, 1578), a chan or-wyr, DAVID (siryf sir Ddinbych, 1596), y profwyd ei ewyllys yn 1616. Gadawodd y David hwn ddwy gyd-aeres a oedd yn fabanod, sef Mary ac ELIZABETH (gelwir hi yn 'Catherine' gan Pennant, ac yn ' Dorothy ', sef enw ei mam, mewn rhai llyfrau). Yn 1641 priododd Mary, William Price, Rhiwlas, Sir Feirionnydd, (gweler tan PRICE (Teulu) Rhiwlas), ac yn 1647 priododd Elizabeth, John Carter.

Syr JOHN CARTER (bu farw 1676), cyrnol ym myddin y senedd Milwrol;

Ganwyd yn Dinton, swydd Buckingham, pentref â chysylltiadau agos ag achos y senedd, yn fab hynaf Thomas Carter. Daeth mab iau, William, yn fasnachwr cyfoethog yn Llundain. Deil traddodiad fod John wedi cychwyn ei yrfa fel llieiniwr, a dyma darddiad y mwysair cyfoes a ddisgrifiai ei briodas fel caffael 'the best piece of holland in the county'. Yn 1645 gwasanaethodd yn olynol fel capten a chyrnol ar wyr meirch pan warchaeai Brereton ddinas Caer, ac yr oedd yn un o'r comisiynwyr a apwyntiwyd pan syrthiodd y ddinas yn Chwefror 1645-6. Mewn cysylltiad agos â George Twiselton, cymerodd ran amlwg yng ngwarchae Dinbych, ac yng ngweinyddiaeth y dref honno ar ôl iddi syrthio ym mis Hydref 1646. Ym mis Tachwedd gwnaed Carter yn llywiawdr castell Conwy, ac yn ddiweddarach yn rheolwr yng ngogledd Cymru. Yn ystod yr ail Rhyfel Cartref (1648), cydweithiodd ef a Twiselton i orchfygu Syr John Owen a'i gymryd yn garcharor ger Llandegai. Yn 1650 yr oedd yn siryf sir Gaernarfon, ac yn un o'r comisiynwyr tan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru. Cadarnhawyd ef yn ei swydd o lywiawdr Conwy gan Gromwell, ac yn 1651 a 1656 bu'n arglwydd raglaw sir Gaernarfon. Yr oedd yn aelod seneddol dros sir Ddinbych yn 1654 a 1658-1659, ac urddwyd ef yn farchog gan Gromwell c. mis Mawrth 1657/1658. Ond tua diwedd cyfnod Cromwell yr oedd Carter yn amlwg yn anwadal ei deyrngarwch, a throwyd ef allan o senedd y 'Rump'.

Ar ôl yr Adferiad ail urddwyd ef yn farchog (Mehefin 1660) gan y brenin, a bu am ysbaid yn aelod seneddol dros Ddinbych. Penodwyd ef yn stiward maenor Dinbych (Gorffennaf 1660), ac yn llywiawdr Caergybi (Tachwedd 1660), a bu yn siryf sir Ddinbych yn 1665. Bu farw 28 Tachwedd 1676 (yn '57' oed - gosodiad amheus), a chladdwyd ef yng nghangell (adfeiliedig yn awr) hen eglwys Cegidiog neu Lan Sain Siôr). Ceir llawer barn amrywiol ynglyn â'i gymeriad a'i deyrngarwch.

Byr fu oes llinach Carter yng Nghinmel. Yr oedd mab Syr John, THOMAS CARTER (bu farw 24 Gorffennaf 1702) mewn helbul ariannol parhaus, a bu'n garcharor yn y Fleet yn 1695. Buasai ei ddau fab hynaf, John a Thomas, farw o'i flaen yn 1686, a'r mab a'i goroesodd, sef WILLIAM CARTER, a etifeddodd yr ystad a'i dyled drom. Yn 1729 cafodd William ganiatâd, trwy ddeddf seneddol, i werthu i Syr George Wynne, Coedllai, Sir y Fflint. Yna aeth William i fyw yn Redbourn, swydd Lincoln. Parhaodd yr ystad i fod yn faich hyd yn oed i'w pherchnogion newydd, ac ym Mehefin 1781, caniatawyd ei gwerthu, trwy ddyfarniad yn llys y Siawnsri, i David Roberts o Lundain. Fodd bynnag, gwerthodd ef a'i gymdeithion yr ystad unwaith eto yn 1786 i'r Parch. Edward Hughes - gweler yr erthygl, Hughes, Hugh Robert, a edrydd stori Cinmel hyd 1911.

Gellir ychwanegu yma i Hugh S. B. Hughes farw yn 1918, a'i frawd ac etifedd yn 1940. Meddiannwyd y ty (a oedd wedi cael ei ail adeiladu) gan yr Adran Ryfel yn ystod Rhyfel 1914-1919, a gwerthwyd ef yn 1934, ond aeth y rhan helaethaf o'r tiroedd i'r etifedd. Yn 1953 gosododd ef ddogfennau'r teulu ar fenthyg yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.