Ceir dau ŵr cyfoes o'r enw hwn yn raddedigion o Rydychen ac yn frodorion o Sir Drefaldwyn, ond ymddengys yn sicr mai'r 'bonheddwr' a gofrestrwyd yn Hart Hall (coleg Hertford yn awr) yn Nhachwedd 1616, yn 18 oed, ac a raddiodd yn B.A. (1620), ac M.A. (1628), yw'r gŵr sydd a wnelom ni ag ef. Daliai'r gŵr arall fywoliaethau yn Sir Benfro, ond â gororau gogledd ddwyreiniol Cymru y cysylltid gwrthrych yr ysgrif hon drwy gydol ei yrfa. Ceir yr ychydig a wyddys am ei yrfa yng nghyfrolau Thomas Richards, Puritan Movement in Wales a Religious Developments in Wales. Yn 1629 yr oedd yn Wrecsam, lle y clywodd Arise Evans ef yn pregethu. Yn 1647 ceir Oliver Thomas o Groesoswallt yn cynorthwyo Rowland Nevett yn swydd Salop, ac yn cael ei gyfrif yn addas i fod 'in Second Classis in Salop '. Yr oedd yn un o'r cymeradwywyr tan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru, Chwefror 1649/50, a rhywbryd cyn 14 Mai 1650 cafodd fywoliaeth Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Bu yno hyd 1653. Dywed Dr. Richards iddo farw, yn ôl pob tebyg, yn y flwyddyn honno, ond yn bendant rywbryd cyn Ebrill 1657. Dywed Anthony Wood mai yn Felton, swydd Salop, y bu farw
Ef oedd awdur Catechism (gydag Evan Roberts, 1640, a Drych i dri math o bobl, c. 1647 (ail argraffwyd gan Stephen Hughes yn y gyfrol gyfansawdd, Tryssor i'r Cymru, 1677). Gellir yn hyderus briodoli iddo hefyd, Car–wr y Cymru , a gyhoeddwyd yn ddienw yn 1630 (sawl argraffiad hyd at 1766), catecism o ddeuddeng tudalen i blant, a'r gyfrol fwy o lawer, Car–wr y Cymru , 1631 (ail argraffwyd gan Stephen Hughes yn ei Cyfarwydd-deb i'r Anghyfarwydd , 1677), a argraffwyd o'r newydd gan Brifysgol Cymru yn 1930. Priodolir y gyfrol hon iddo gan Anthony Wood (Athenae Oxonienses, arg. 1691, i, 860), ar sail tystiolaeth un o gyfoedion Thomas, sef Michael Roberts a fu farw 1679, gan Stephen Hughes yn Tryssor (1677), a chan Moses Williams yn ei restr o lyfrau printiedig Cymraeg (1717). Yr oedd rhyddiaith Gymraeg Oliver Thomas yn odidog.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.