Fe wnaethoch chi chwilio am Catherine Roberts
Ganwyd 14 Hydref 1892 yn Paddington, Llundain, yn un o ddau blentyn y Dr. John Cadwaladr Williams, meddyg, a Catherine (ganwyd Thomas) ei wraig. (Cymerodd y mab y cyfenw Cecil-Willams drwy weithred newid enw yn 1935.) Hanai'r teulu o Uwch Aled. Addysgwyd ef i ddechrau yn Llundain, ac wedi cyfnod o ryw flwyddyn yn ysgol bentref Cerrig-y-drudion dychwelodd i Lundain a mynd i'r City of London School. Oddi yno aeth i Gaergrawnt (Coleg Gonville a Caius) i ddarllen y gyfraith, a graddio yn M.A., LL.B. Ymrestrodd yn yr Inns of Court OTC yn 1914, a'r flwyddyn wedyn ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gan wasanaethu yn Ffrainc a chyrraedd rheng capten. Fe'i clwyfwyd deirgwaith. Yn 1920, fe'i derbyniwyd yn gyfreithiwr a dechreuodd ddilyn ei alwedigaeth yn Llundain, yn gyntaf ar ei liwt ei hun, ac yna mewn partneriaeth. Ymddeolodd yn 1960.
Daeth i'r amlwg yn gyflym ymysg Cymry Llundain fel gŵr o ynni a brwdfrydedd dros bethau Cymreig ac fel trefnydd da. Yn 1934, etholwyd ef yn ysgrifennydd mygedol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, fel olynydd i Syr Evan Vincent Evans. Daliodd y swydd am bron ddeng mlynedd ar hugain, a dyma waith mawr ei fywyd. Yn rhinwedd rhyw gymaint o incwm preifat, nid oedd yn llwyr ddibynnol ar ei enillion fel cyfreithiwr, ac oherwydd hynny yr oedd bob amser yn barod i roi cyfran helaeth o'i amser i fuddiannau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac achosion diwylliannol ac elusennol eraill. Bu iddo lwyddiant mawr. Llwyddodd i godi aelodaeth y Cymmrodorion i tua dwy fil, llawer ohonynt o wledydd tramor, ac fel ei ragflaenydd denodd i'w rhengoedd nifer da o Gymry amlycaf eu dydd. Yn 1951, ar achlysur dau canmlwyddiant y Gymdeithas, rhoddwyd iddi siarter frenhinol. Yn yr un flwyddyn, urddwyd ef yn farchog a dyfarnodd Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo. Er treulio ei holl fywyd bron yn Llundain parhaodd acenion Uwch Aled yn beraidd a rhugl ar ei wefus gydol ei oes. Yr oedd yn ymwybodol iawn o hynafiaeth ac urddas Cymdeithas y Cymmrodorion a manteisiodd ar bob cyfle i osod sêl a delw aruchel arni. Yng ngeiriau Syr Thomas Parry-Williams , a fu am gyfnod yn llywydd y Gymdeithas, defnyddiodd Cecil-Williams swydd ysgrifennydd 'yn eofn a diflino i hyrwyddo buddiannau a noddi treftadaeth Cymru a'r Gymraeg '.
Os i'r Athro R.T. Jenkins, ynghŷd â Syr John Edward Lloyd a Syr William Davies, y mae'r clod yn ddyledus am gynllun a chynnwys Y Bywgraffiadur Cymreig, y mae'n amheus a fuasai'r gyfrol wedi ei chyhoeddi onibai am ymdrechion Cecil-Williams. Gwrthododd ildio i'r ddadl fod y cynllun yn rhy uchelgeisiol a chostus. Gyda chymorth ei gyd-swyddogion, llwyddodd i godi'r arian, yn bennaf o'r cynghorau sir a chyrff megis y Pilgrim Trust, a sicrhawyd cyhoeddi yn 1953 y gyfrol a gydnabyddir erbyn heddiw yn un o'r llyfrau pwysicaf a ymddangosodd yng Nghymru yn ystod yr 20fed ganrif. Mynnodd drefnu cyhoeddi'r atodiad deng mlynedd cyntaf er mwyn sefydlu cynsail i gyfres barhaol.
Bu'n amlwg mewn nifer o fudiadau diwylliannol ac elusennol. Yr oedd yn aelod o lysoedd Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol (yn aelod o'r Cyngor hefyd) a'r Amgueddfa Genedlaethol. Yr oedd yn ymddiriedolwr Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon, yn aelod o bwyllgor dathlu 350 mlwyddiant talaith Virginia ac o'r Genhadaeth Ewyllys Da i'r Taleithiau Unedig yn 1957. Yr oedd yn llywydd y Southern Olympian Amateur Football League o 1951-59, ac yn 1959 etholwyd ef yn llywydd yr Amateur Football Alliance. Dyfarnwyd medal Hopkins iddo yn Efrog Newydd yn 1957, ac yn 1962 rhoes Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ei anrhydedd uchaf iddo drwy ddyfarnu ei medal iddo. Yr oedd yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd dan yr enw ' Seisyllt '.
Priododd Olive Mary, unig ferch yr henadur Aneurin O. Evans, Dinbych, yn 1935, a bu iddynt un mab. Bu farw yn Llundain 30 Tachwedd 1964, a bu'r gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Golders Green, 5 Rhagfyr
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.