HUGHES, EDWARD ERNEST (1877 - 1953), Athro hanes cyntaf Coleg y Brifysgol, Abertawe, a dolen gyswllt nodedig rhwng y brifysgol a'r werin

Enw: Edward Ernest Hughes
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1953
Priod: Sarah Hughes (née Evans)
Priod: Sarah Agnes Hughes (née Thomas)
Rhiant: Catherine Hughes
Rhiant: Owen Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro hanes cyntaf Coleg y Brifysgol, Abertawe, a dolen gyswllt nodedig rhwng y brifysgol a'r werin
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: Marian Henry Jones

Ganwyd 7 Chwefror 1877 yn Nhywyn, Meirionnydd, yn un o wyth o blant Owen a Catherine Hughes, ei dad yn blismon a orffennodd ei yrfa yn is-brif gwnstabl ei sir. Mewn canlyniad i ddamwain pan oedd yn blentyn collodd Ernest Hughes olwg un llygad yn llwyr ac amharwyd ar y llall, anfanteision a orchfygodd i raddau helaeth trwy ddatblygu ei gof a'i glyw. Aeth i ysgol ramadeg y Bala, gan aros yn nhŷ'r prifathro J. C. Evans, gŵr ac ysgol y cydnabyddai ddyled fawr iddynt. Yn 1895 aeth oddi yno i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio gydag anrhydedd dosb. I mewn hanes yn 1898. Oddi yno aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddio yn yr ail ddosbarth mewn hanes modern yn 1902. Soniai lawer am garedigrwydd Sir John Rhŷs wrtho ac am hwyl Cymdeithas Dafydd ap Gwilym.

Gyda'i benodiad i ddysgu hanes yn ysgol ganolradd y bechgyn, Llanelli, dechreuodd ei gysylltiad â de Cymru, lle'r oedd i ymgartrefu weddill ei oes. Yn 1905 symudodd i ddarlithio yn adran hanes Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a gweithredu fel athro yn ystod afiechyd hir yr Athro Bruce. Yn y blynyddoedd hyn cyn bod adran allanol gan y coleg, dechreuodd ddarlithio o dan Fudiad Addysg y Gweithwyr (W.E.A.), yn ardaloedd poblog Morgannwg a Mynwy. Hanes Cymru oedd ei hoff destun, er mwyn rhoi syniad am orffennol eu gwlad i weithwyr diwylliedig na chlywodd nemor gyfeiriad ati yn yr ysgol ddyddiol. Ers dyddiau ysgol, yn ôl R.T. Jenkins, cydymaith iddo yno, meddai ar ddawn y 'cyfarwydd' i adrodd a brodio stori, a chan fod deunydd ei ddarlithiau o reidrwydd ar ei gof yn hytrach nag ar bapur, yr oedd ei ddull o ddarlithio yn ddigon agos i arddull y pulpud i ennill derbyniad deallus ei gynulleidfa. Ym marn R.T. Jenkins gwnaeth fwy na neb er Syr O.M. Edwards i boblogeiddio'r astudiaeth o hanes Cymru.

Yn 1920 pan sefydlwyd Coleg y Brifysgol, Abertawe, perswadiwyd ef gan y prifathro newydd, Franklin Sibly i fynd gydag ef fel Cymro a ddeallai anghenion coleg mewn ardal a oedd yn Gymreig yn ogystal â diwydiannol. Am rai blynyddoedd Ernest Hughes oedd yr unig ddarlithydd yn adran y celfyddydau yno, ond ei brif waith ar y cychwyn oedd dwyn y coleg newydd i sylw'r cyhoedd a sicrhau cefnogaeth iddo. Ei ffordd o wneud hyn, fel yng Nghaerdydd, oedd trwy ddarlithio ar hyd a lled yr ardaloedd yr oedd y coleg i'w gwasanaethu ar hanes Cymru, gan ddangos lle'r Brifysgol yn natblygiad hanesyddol y wlad. Rhoddodd yr elw o'r darlithiau hyn i'r gronfa i sefydlu llyfrgell i'r coleg.

Parhaodd i ddarlithio, yn Gymraeg a Saesneg, i ddosbarthiadau allanol a chymdeithasau diwylliannol ar ôl sefydlu cadair hanes braidd yn hwyrfrydig, yn 1926 - darlithydd annibynnol ydoedd hyd hynny. Ni phallodd ei sêl dros hanes Cymru chwaith. Drwy gydol ei gyfnod fel Athro hanes yn Abertawe mynnai fod pob myfyriwr yn ei adran yn dilyn cwrs yn hanes Cymru. Gymaint oedd ei barch i'r safonau academaidd uchaf fel na ddarlithiai ei hun ar y pwnc yn y coleg ond ei ymddiried i Glyn Roberts, a oedd â'r cymwysterau ymchwil nad oedd yn bosibl iddo ef â'i olwg pŵl yn gwaethygu. Cadwodd ef at ei briod faes sef hanes cyfansoddiadol Lloegr yn yr Oesoedd Canol. Paratoai'r darlithiau manwl hynny gyda chymorth ei wraig a ddarllenai drosto ac iddo. Ond darlithiai i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, - ar Ewrop wedi cwymp Rhufain,-gyda'r un afiaith ag y darlithiai i'w ddosbarthiadau allanol. Erys llawer o'r brawddegau lliwgar, yn yr ynganiad croyw a'r llais melodaidd, ar gof cenedlaethau o'r myfyrwyr hynny.

Naturiol i un â'r doniau hyn oedd ymhyfrydu ym myd y ddrama. Bu'n gadeirydd Cwmni Drama Abertawe am lawer blwyddyn, gan actio ei hun, a chynhyrchu. Bu'n arweinydd mudiad Undeb y Ddrama Gymreig. Noddai gerddoriaeth hefyd. Bu'n gadeirydd cymdeithas gerddorol Orpheus Abertawe am flynyddoedd, ac yr oedd ei hunan yn ddatgeinydd alawon gwerin medrus. Yr oedd yn ffigwr amlwg yng nghynghorau'r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal ag yn feirniad dramâu 'r ŵyl am lawer blwyddyn. Dygai fawr sêl dros undod Prifysgol Cymru a gwasanaethai'n gyson ar ei phwyllgorau. Gweithiodd dros Undeb Cymru Fydd yn ystod anawsterau'r rhyfel ac wedi hynny. Yr oedd yn aelod o lys llywodraethwyr Ll.G.C. Llywyddodd gangen Abertawe a Llanelli o'r Historical Association, gan feithrin y cysylltiad rhwng dysgu hanes yn yr ysgolion ac yn ei goleg.

Er na fedrodd ysgrifennu fawr ei hunan bu'n ddiwyd i annog eraill. Ef a gasglai'r deunydd i Beirniad Syr John Morris-Jones yn ogystal â gofalu am yr ochr ariannol.

Pan agorwyd stiwdio yn Abertawe gan y B.B.C. derbyniodd sialens cyfrwng newydd i hybu diwylliant Cymru. Dechreuodd trwy ddarlledu yn Saesneg i ysgolion Cymru, ond pan gafwyd yr ' Egwyl Gymraeg ' ef a fyddai'n trafod ' Pynciau'r dydd yng Nghymru ' am rai blynyddoedd. Nid esgeulusodd y cyfryngau traddodiadol. Yn Fethodist selog yr oedd yn athro Ysgol Sul penigamp a ddenodd i'w ddosbarth yn y Trinity (MC), Abertawe ddynion o bob oed ac enwad. Parhaodd ei weithgarwch gyda'r mudiadau diwylliannol hyn ar ôl iddo ymddeol o'i gadair yn 1944, a daliodd i ddarlithio i ddosbarthiadau allanol bron hyd y diwedd.

Priododd (1) yn 1907 â Sarah Agnes, merch William Thomas (y glo), Aberystwyth. Bu hi farw yn 1918 gan adael dwy ferch; (2) yn 1920 â Sarah (Sally), merch y Parch. Thomas Evans, y Fenni, a'i goroesodd hyd 1967. Bu iddynt ddau fab. Bu ef farw 23 Rhagfyr 1953 yn Abertawe a'i gladdu ym mynwent plwyf Llanycil.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.