LEWIS, BENJAMIN WALDO (1877 - 1953), gweinidog (B)

Enw: Benjamin Waldo Lewis
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1953
Priod: Enid Mari Lewis (née Wheldon)
Rhiant: Anne Lewis (née Williams)
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 7 Medi 1877 yng Nghaergybi, Môn, yn fab i John (felly ar lafar y teulu, ond David yn ôl y bywgraffwyr) Lewis (ganwyd 29 Awst 1829) o Fridell, ac Anne Lewis (ganwyd Williams, Chwefror 1848 neu 49) o Abergwaun, y ddau wedi priodi yng Nghasnewydd-ar-Wysg, 31 Ionawr 1871, y tad yn ôl traddodiad o linach brawd i Titus Lewis, a'r fam yn nith ferch chwaer i Benjamin Davies. Saer maen oedd y tad a welodd gyfnod o lwyddiant yng Nghaerdydd c. 1850-75, ond wedi i'w fasnach ddirywio fe'i gorfodwyd i symud i fannau eraill i chwilio am waith, i ddechrau i Gaergybi ac yna c. 1880 i Bentre Broughton ger Wrecsam. Yn 1887 penderfynodd y tad ymweld â T.U.A., lle'r oedd mab iddo o'i briodas gyntaf yn byw, hynny yn y gobaith o gychwyn bywyd newydd yno, ond cymerwyd ef yn wael ar y fordaith a bu farw yn fuan wedi cyrraedd, yn Danville, Pa., 27 Mai 1887. Bedyddiwyd y mab yn Salem, Moss, o fewn wythnos i'w 11 mlwydd oed, ac ymhen tair blynedd symudodd y teulu yn ôl yn nes at dylwyth yn y De, i Tylorstown, ac ymaelodi Gorffennaf 1891 yn Hermon, Pont-y-gwaith, lle y cymhellwyd y mab i ddechrau pregethu, yr un pryd â James Thomas Evans, prifathro Coleg y Bedyddwyr, Bangor. Dechreuodd ennill ei fywoliaeth mewn glofa, yn ei dro dan y ddaear ac yn efail y gof, ac ar ôl dilyn ysgol nos am tua 7-8 mlynedd fe'i derbyniwyd am tua blwyddyn i 18 mis i Academi Pontypridd (eto gyda J. T. Evans, a chyfaill arall iddo, Ben Bowen), ac wedi hynny 1900-05 i Goleg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd, lle y graddiodd yn B.A. yn 1905, ac 1905-08 i'r Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, lle y torrodd ei iechyd ar ganol ei gwrs B.D. Ordeiniwyd ef 21 Ionawr 1909 yn weinidog eglwys Penuel, Caerfyrddin, lle'r oedd eisoes wedi ymaelodi yn ystod ei dymor coleg, a hwn fu ei unig faes hyd ei ymddeol yn 1946 a'i godi'n weinidog anrhydeddus. Yn ystod Rhyfel Byd I, c. Mai 1915 - Tachwedd 1916, rhyddhawyd ef gan ei eglwys i weithio gyda'r Y.M.C.A., i ddechrau am rai misoedd yn Dover ac wedi hynny am tua blwyddyn ym Malta, lle y codwyd ef yn ' arweinydd rhanbarth ' ac felly'n gyfrifol am holl waith y Gymdeithas ar yr ynys. Bu farw yn ei gartref yn Briarleigh, Longacre Road, 31 Rhagfyr 1953, ar ôl cystudd yn dilyn damwain fis Medi cynt yn y Borth, a chladdwyd ef 4 Ionawr 1954 ym mynwent gyhoeddus y dref. Priododd 14 Mehefin 1922 yn eglwys Bresbyteraidd Saesneg Zion, Caerfyrddin, Enid Mari Wheldon (ganwyd 14 Mawrth 1892), brodor o Grucywel, merch Pierce Jones Wheldon a Louisa Arnaud Wheldon (ganwyd MacKenzie), ei thad yn rheolwr banc y National Provincial, yn frawd i Thomas Jones Wheldon (1841 - 1916), ac wedi ymsefydlu yng Nghaerfyrddin yn 1900. Bu hi farw 2 Mai 1963 yn ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Ganed un mab o'r briodas.

Bu am gyfnod maith yn weithgar dros amrywiaeth o fudiadau ac achosion da yn nhref Caerfyrddin a'r cylchoedd, e.e. aelod am 35 mlynedd a hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Rheoli Ysbyty Caerfyrddin; wedi dyfod y Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol i rym yn 1947, aelod o Fwrdd Ysbytai Rhanbarth Cymru, a chadeirydd Pwyllgor Rheoli Ysbyty Gorllewin Cymru o'r Bwrdd; aelod o reolwyr ysgol ramadeg y Frenhines Elisabeth o 1917 ymlaen, a chadeirydd 1944; aelod hyd 1944 o Bwyllgor Addysg Bwrdeistref Caerfyrddin; aelod o bwyllgor Llyfrgell y Sir; aelod o gangen De-Orllewin Cymru o'r Gymdeithas Hanes a sefydlwyd yn 1931, a chadeirydd o ddiwedd Rhyfel Byd II hyd Fawrth 1950; cadeirydd Cyngor Cymuned a sefydlwyd yn y dref yn 1932 i liniaru cyni diweithdra; cadeirydd cyntaf Cyngor Eglwysi Cristionogol Caerfyrddin; aelod o Glwb Celfyddyd Caerfyrddin; cadeirydd pwyllgor myfyrwyr Bedyddiedig y Coleg Presbyteraidd, ac aelod o'r bwrdd Ymddiriedolwyr. Bu ar hyd ei oes yn fyfyriwr ac yn gasglwr llyfrau; bu'n cynnal dosbarthiadau allanol dan nawdd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a darlithio yn y Coleg Presbyteraidd yn ystod salwch J. Oliver Stephens yn 1928-29; a chyfrannodd yn sylweddol i lenyddiaeth yr enwad, e.e. gyfres o ysgrifau ar ' Y Bedyddwyr ymhlith yr Enwadau ' yn Seren Cymru 1930, a gwersi ar faes llafur yr Ysgol Sul i'r Hauwr a'r Arweinydd Newydd yn ysbeidiol o 1911 hyd 1937. Codwyd ef yn llywydd Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin ac Aberteifi yn 1946-47, a thestun ei anerchiad oedd ' Yr Hyn a Erys '. Yn wleidyddol, yr oedd ar y cyntaf yn Rhyddfrydwr, ond yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1923 troes yn gyhoeddus at y Blaid Lafur, a daeth yn arloeswr y mudiad yn y dref ac o hynny ymlaen yn gyfaill agos i Daniel Hopkin (1886 - 1951) a etholwyd Mai 1929 yn aelod seneddol y sir.

Yr oedd ei briod yn gantores ddawnus, a bu hithau fel ei gŵr yn amlwg mewn cylchoedd cyhoeddus, e.e. llywydd a chadeirydd y Clwb Celfyddyd; aelod o Gwmni Opera Amatur y dref; aelod o Bwyllgor Ymgynghorol De Cymru o'r Bwrdd Cymorth Cenedlaethol; aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Nyrsio'r Sir; aelod o bwyllgor tŷ Ysbyty Kensington yn Sir Benfro; ac yn flaengar gyda gwaith y W.V.S.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.