Ganwyd 20 Mai 1870, yn ferch i Hugh (Thomas) (1841 -?) a Margaret Parry (ganwyd Roberts). Yr oedd y teulu'n byw yn y Trallwng, Trefaldwyn, ar y pryd, ond symudasant oddi yno pan oedd Winnie yn ychydig fisoedd oed. Ar un adeg yr oedd ei thad yn arolygwr gyda chwmni yswiriant, ond dywedir fod ganddo hefyd ddiddordebau llenyddol. Cyhoeddodd ei mam rai cerddi cynganeddol dan y ffugenw 'Gwenfron ': (gweler, e.e., Baner ac Amserau Cymru, 19 Medi 1860). Yn ystod Cyfrifiad 1871, yr oedd Winnie, ei mam a'i chwaer yn aros gyda'i thaid, John Roberts, yn y Felinheli : ac y mae'n ymddangos nad oedd gan y teulu gartref sefydlog yn ystod y cyfnod hwn. Bu farw Margaret Parry yn Croydon, pan oedd Winnie yn chwech oed, ac aeth y plentyn i fyw yn barhaol at John Roberts a'i wraig, Ellen. Gwahanwyd hi, felly, oddi wrth ei thad, ei brawd a'i thair chwaer.
Er bod tystiolaeth mai Saesneg oedd ei hiaith gyntaf, buan y daeth yn rhugl yn iaith lafar y Felinheli. Ni ddarganfuwyd cofnod iddi fod yn ddisgybl yn yr ysgol Frytanaidd yn y pentref, nac yn yr ysgol elfennol eglwysig; ond dywedir iddi fod yn gyfeillgar gyda merch prifathro'r ysgol olaf, a'r tebygrwydd yw mai yno y'i haddysgwyd. Ni dderbyniodd addysg uwchradd ffurfiol, ond dywedir fod John Roberts yn wr diwylliedig, a'i fod wedi dylanwadu ar feddylfryd ei wyres.
Anhapus ac unig, mae'n debyg, fu ei blynyddoedd cynnar. Ailbriododd ei thad gyda Martha Darroll yn Abertawe yn 1877, ac erbyn 1882 yr oedd ef a'i holl deulu, ac eithrio Winnie, wedi ymsefydlu yn Ne Affrica, gan ei gadael hi yn y Felinheli. Yn fuan wedyn, bu farw ei nain, Ellen Roberts : a dywed Winnie, mewn llythyr at J. Glyn Davies, iddi fyw ei hunan gyda'i thaid er pan oedd yn dair ar ddeg oed, hyd nes daeth ei modryb i fyw atynt pan oedd hi'n bedair ar bymtheg.
Yn 1893 dechreuodd gyfrannu'n achlysurol i Cymru, Cymru'r Plant, Y Cymro a hyd yn oed The Cambrian (Utica) a Wales ar anogaeth O. M. Edwards ac Edward Ffoulkes. Detholiadau allan o'r cylchronau yw'r rhan fwyaf o gynnwys ei thri llyfr, Sioned (1906), Cerrig y rhyd (1907, ail argraffiad 1915) a Y ddau hogyn rheiny (1928). Cyhoeddodd un nofel-gyfres yn Y Cymro yn 1896, sef ' Catrin Prisiard ', nad ymddangosodd yn llyfr yn ddiweddarach.
Am gyfnod yn 1895-96, bu'n llythyru â J. Glyn Davies, Lerpwl, yn trafod llenyddiaeth yn bennaf. Arferai ef alw i'w gweld yn y Felinheli ar ei fordeithiau rhwng Lerpwl a Llyn; benthyciai hithau lyfrau ganddo, a chafodd ei gymorth i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg.
Pan fu farw John Roberts yn 1903, symudodd Winnie am gyfnod byr at ei hewythr, Owen Parry, gweinidog (MC) Cemaes, Môn. Erbyn dechrau 1908, yr oedd ei thad wedi dychwelyd am gyfnod i Thornton Heath, Croydon, ac ymddengys fod Winnie wedi symud ato i fyw.
O Croydon y bu hi'n golygu Cymru'r Plant rhwng dechrau 1908 a chanol 1912, yna tueddodd i ysgrifennu llai (er i Cerrig y rhyd gael ei ail-argraffu yn 1915, ac i Foyle's gyhoeddi Y ddau hogyn rheiny yn 1928). Ni phriododd erioed, ac yn Llundain gweithiai fel ysgrifenyddes, yn gyntaf i gwmni o beirianwyr, ond hefyd am gyfnod i Syr R. J. Thomas (1873 - 1951), Aelod Seneddol Môn rhwng 1922 ac 1928. Bu'n un o feirniaid y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol 1932, ond erbyn hynny yr oedd wedi torri pob cysylltiad, bron, â Chymru. Ar ddechrau Rhyfel Byd II yn 1939, yr oedd E. Morgan Humphreys yn pwyso arni i gyhoeddi ail-argraffiad o Sioned, ac yr oedd y B.B.C. yn ceisio addasu peth o'i gwaith ar gyfer ' Awr y Plant '. Mor ddiweddar ag 1949, yr oedd yn dal i geisio cael cyhoeddwr i ymddiddori yn Sioned, ond yr oedd amgylchiadau'n anodd, a hithau, erbyn hynny, yn hen a musgrell. Bu farw mewn cartref henoed yn Croydon ar 12 Chwefror 1953, a threfnodd ei chyfeilles, Hilda Alice Moore, i'w chladdu yn Croydon.
Sioned yn ddi-os oedd campwaith Winnie Parry, ac enillodd y gyfrol ganmoliaeth uchel o bryd i'w gilydd (gweler E. M. Humphreys, Yr Herald Cymraeg, 9 Mawrth 1953). Dywedir i'r llyfr ennill edmygedd R. Williams Parry, hefyd, ac iddo gyfeirio ato yn ystod rhai o'i ddarlithoedd gyda'r W.E.A. : (ond gweler hefyd Kate Roberts, Baner ac Amserau Cymru, 29 Ebrill 1953).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.