EVANS, WILLIAM (1869 - 1948), gweinidog a chenhadwr ym Madagascar

Enw: William Evans
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1948
Priod: Phoebe Joyce Evans (née Hall)
Priod: Margaret Evans (née Williams)
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: Thomas Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a chenhadwr ym Madagascar
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ieuan Samuel Jones

Ganwyd 31 Hydref 1869 yn Y Meysydd, Glandŵr, Abertawe, yn fab i Thomas a Mary Evans. Yr oedd ei dad yn berchennog ar waith glo bychan yn yr ardal. Perthynai ei fam i'r un ysgol Sul â Griffith John, Tsieina ac ar wasanaethu yn y wlad honno yr oedd ei fryd yntau. Ordeiniwyd ei frawd David yn weinidog yn Rehoboth (A), Brynmawr, yn 1871. Addysgwyd William mewn ysgol breifat a gynhelid gan W. S. Jenkins, ei weinidog. Wedi hynny bu yn ysgol fwrdd Heol Sant Helen, Abertawe. Ar ôl gweithio am ychydig fel pwyswr yng nglofa'i dad, fe'i prentisiwyd yn fferyllydd. Dechreuodd bregethu dan weinidogaeth G. Pennar Griffiths. Bu'n fyfyriwr yn Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman, dan ofal Watcyn Wyn, ac ar ôl hynny aeth i goleg Plymouth (a symudodd yn ddiweddarach i Fryste). Derbyniwyd ef gan Gymdeithas Genhadol Llundain i wasanaethu ym Madagascar yn 1898. Cafodd ei ordeinio yn Siloam, Pentre-estyll, Abertawe, 18 ac 19 Mehefin 1899. Priododd â Margaret, merch R. E. Williams, Ynys-lwyd, Aberdâr, gweinidog (B). Wedi glanio ym Madagascar ddiwedd 1899 cafodd ei apwyntio yn weinidog i eglwys Ambatonakanga yn y brifddinas. (Sefydlwyd hon gan David Jones, o'r Neuaddlwyd). Ar wahân i'w deithiau i'r gogledd ar ran y Gymdeithas, treuliodd ei yrfa yn gwasanaethu eglwysi yn y brifddinas, Antananarivo, a'r cylch, a gynhwysai ar un adeg 57 o eglwysi. Bu ei flynyddoedd cynnar ar yr ynys yn rhai anodd a pheryglus oherwydd y gwrthryfel (1900-01), pryd y lladdwyd llawer o Gristnogion a rhai cenhadon. Bu William Evans yn arbennig o lwyddiannus ar ôl i'r cyfnod blin hwn basio. Meistrolodd yr iaith mor dda nes iddo gael ei wahodd i hyfforddi pregethwyr mewn rhethreg yn y coleg unedig. Yr oedd hyn oll yn ychwanegol at wasanaethu Cymdeithas Genhadol Llundain fel cyfarwyddwr eglwysi Imerina. Cyflawnodd waith anhygoel wrth ddwyn trefn ar fywyd eglwysi oedd eto'n ieuanc yn y ffydd. Wedi marw ei briod ym Mehefin 1914, ymbriododd yn Awst 1918 â chenhades gyda Chymdeithas y Crynwyr o'r enw Phoebe Joyce Hall, genedigol o Benarth a nith Silvester Horne. Cyflawnodd waith mawr hefyd fel ysgrifennydd yr Intermissionary Congress of Protestant Missions o 1913 ymlaen. Cyhoeddodd gyfieithiad newydd o Taith y Pererin (Gwaith David Johns oedd y cyfeithiad cyntaf). Cyhoeddodd argraffiad wedi ei gywiro o'r Beibl yn y Falagaseg ar gyfer canmlwyddiant ymddangosiad y cyfieithiad cyntaf (1835). Ond ei gampwaith oedd cyhoeddi Geiriadur Beiblaidd yn y Falagaseg yn seiliedig ar Eiriadur Hastings. Cymerodd y dasg hon 21 mlynedd iddo ef a'i gyd-weithiwr, y Parch. Henri Randzavola. Un o'i broblemau gyda'r gwaith hwn oedd bathu geirfa ddiwinyddol mewn iaith heb y fath draddodiad. Bu'n olygydd cylchgronau yn y Falagaseg, megis Teny Soa (‘Geiriau da’) ac Impanolo Tsaina (‘Cynghorwr’). Dengys hyn, a gweithiau golygyddol eraill, gymaint meistr oedd ar yr iaith.

Ymddeolodd fel cenhadwr ddiwedd 1936. Bu farw yn Abertawe 1 Gorffennaf 1948, ac fe'i claddwyd ym mynwent Bethel, Sgeti, yn y ddinas honno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/