Ganwyd 16 Gorffennaf 1887 yn Rhiwlas, ym mhentref y Rhiw (plwyf Llanfaelrhys), ger Aberdaron, Sir Gaernarfon, y chweched o'r saith plentyn - pum mab a dwy ferch - a aned i Thomas Rowlands, teiliwr a dilledydd, a'i wraig Ann (née Williams). Hanai ei rieni o'r Rhiw, ei dad yn fab Congl Cae Hen a'i fam yn ferch Bwlch Garreg - dau dyddyn yn yr ardal. Collodd ei fam ym Mai 1889 cyn bod yn ddwyflwydd oed.
Cafodd ei addysg gychwynnol yn ysgol fwrdd y Rhiw (1891-1901) ac yn hen ysgol Botwnnog (1901-05) a sylfaenwyd yn ôl ewyllys yr Esgob Henry Rowland yn 1616. Treuliodd y ddwy flynedd (1905-07) yn athro didystysgrif gerllaw yn Llaniestyn cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn Hydref 1907. Graddiodd yn B.A. yn 1910 gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn y dosbarth cyntaf. (Ef oedd y trydydd person i gyflawni hyn ym Mangor a chyd-bedwerydd o fewn Prifysgol Cymru ers i'r radd gael ei dyfarnu am y tro cyntaf yn 1899.) Daliodd Ysgoloriaeth Meyrick am y sesiwn 1910-11 ac enillodd ei radd M.A. yn 1912 am draethawd ar y testun 'Barddoniaeth Tomos Prys o Blas Iolyn'.
Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr israddedig daeth dan gyfaredd yr Athro John Morris-Jones, a daeth yn gyfeillgar iawn ag Ifor Williams, a oedd yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr adran Gymraeg ar y pryd. (Mae'n fwy na thebygol mai ei hoffter a'i edmygedd o'i gyfaill a barodd iddo enwi ei fab yn Ifor.) Bu'n athro ysgol yn sir Fynwy - yn Nhredegar Newydd (1911-14) ac Abersychan (1915-20 (treuliodd oddeutu 1917-18 yn y fyddin); ac yna yn ysgol ramadeg Abertawe (1920-24) a sylfaenwyd gan yr Esgob Hugh Gore yn 1682. Yn 1924 fe'i penodwyd yn olynydd i Rhys Evans yn brifathro ysgol sir Porthmadog; arhosodd yn y swydd hyd ei ymddeoliad yn Rhagfyr 1949.
Bu William Rowland yn addysgwr ymroddedig a diwyd. Heblaw ei waith dysgu beunyddiol gyda phlant, a chynnal dosbarthiadau nos ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg i oedolion yn ystod ei gyfnod yn y de, bu hefyd yn gynhyrchiol fel awdur. Bu'n aelod o bwyllgor ymgynghorol a gyfarfu yng Ngwasg Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn 1923 gyda'r bwriad o amlinellu anghenion llenyddol plant yn yr iaith Gymraeg ac i geisio llenwi'r bylchau. Yn dilyn hyn cyhoeddodd nifer o gyfrolau ar eu cyfer, yn bennaf yn ystod y 1920au a'r 1930au. Yng ngeiriau Elis Gwyn Jones, cyn-ddisgybl iddo ym Mhorthmadog: 'At wasanaeth ysgolion, yn bennaf, yr ysgrifennai, a hynny am mai hyfforddi disgyblion i ysgrifennu Cymraeg cywir a pharatoi deunydd darllen iddynt oedd ei wir alwedigaeth … Yr oedd glendid Cymraeg a Chymreigrwydd naturiol y chwedlau a gyhoeddodd yn gyfraniad amhrisiadwy. Ac ym mhopeth a wnaeth, y mae osgo'r hanesydd, y chwilotwr, a'r ysgolhaig yn amlwg ddigon'. (Mae'r casgliad o'i bapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ategiad i'r gosodiad olaf.) Dyma fanylion am ei gyhoeddiadau: Cawr yr Ogo a Straeon Eraill i Blant (1921, arobryn yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon y flwyddyn honno); Chwedlau Gwerin Cymru (1923); Y Llong Lo (1924, 'Ystori i Blant', arobryn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1922); Llawlyfr dysgu Cymraeg (1924 a 1927, dwy gyfrol); Bywyd ac Anturiaethau Robinson Crusoe (Rhan 1) (1928, cyfieithiad o'r 'rhan fwyaf hysbys a phoblogaidd o waith Defoe, sef penodau i-xxvii yn ôl argraffiad Bohn (1893), a thalfyrrodd [W.R.] y rheini yn ôl esiampl y rhan fwyaf o olygyddion Seisnig yr hanes, gan adael allan lawer darn diflas o foeswers…'); Llyfr V, VI a VII (1928-30, yn y gyfres 'Priffordd Llên'); Ymarferion Cymraeg (1934); Straeon y Cymry: Chwedlau Gwerin (1935); Gwyr Eifionydd (1953) a Tomos Prys o Blas Iolyn (1564?-1634) (1964, llyfryn dwyieithog i ddathlu Gwyl Ddewi yn yr ysgolion). (Fel y mynegodd yn ei ragair i Straeon y Cymry cafodd lawer o gymorth llyfryddol gan ei gyfaill Robert (Bob) Owen, Croesor pan oedd yn ymchwilio i ffynonellau'r straeon gwerin a gynhwysodd yn y gyfrol. Cyflwynodd hon i goffadwriaeth ei dad, a fuasai farw ddwy flynedd ynghynt, am 'ei lafur maith a'i ofal diflino'. Diolchodd i Bob Owen drachefn yn ei ragair i Gwyr Eifionydd 'am lawer o ffeithiau ynghylch amryw o'r cymeriadau'.) Cyfrannodd i'r Bywgraffiadur Cymreig a chyhoeddodd erthyglau achlysurol ar bynciau addysgol, hanesyddol a llenyddol yn Cymru, Lleufer , Y Beirniad, Y Drysorfa, Y Genhinen, Y Goleuad, Yr Athro (y Gyfres Gyntaf) a'r Haul.
Mae o ddiddordeb i nodi mai'r ffurf 'Rowland' yn hytrach na 'Rowlands' a welir ar y mwyafrif o'i gyhoeddiadau. Ymgais ganddo i Gymreigio ei gyfenw oedd gollwng yr 's' ond odid. Sut bynnag, y ffurf fwy Seisnig 'Rowlands' a geir ar ei dystysgrif geni ac ar ei garreg fedd.
Roedd Cymru - ei hanes, ei hiaith a'i llenyddiaeth - yn hollbwysig iddo. Ei nod fu diogelu'r safonau addysgol gorau a throsglwyddo ei ddysg mor effeithiol a diddorol ag y gallai i eraill, yn blant ac oedolion fel y'i gilydd. Yn ôl Marged Pritchard (gynt Thomas), un arall o'i gyn-ddisgyblion ym Mhorthmadog, roedd yn 'athro dawnus a dysgedig, yr un pryd yn ddynol a dymunol'. Meddai ar lais tenor swynol a chanai'r hen alawon Cymreig, hen gerddi'r môr a'r hen faledi hwyliog ar dro yn ei wersi ag yn arbennig yn sosials blynyddol yr ysgol sir ym Mhorthmadog er mawr bleser i'w ddisgyblion. Recordiwyd ef deirgwaith gan Amgueddfa Werin Cymru, ac yn ddiweddarach cyhoeddwyd, yn gyntaf ar gaset ac wedyn ar gryno-ddisg, rai o'r caneuon (nifer ohonynt yn ganeuon llofft stabal) a ganwyd ganddo. Fel brodor o Ben Llŷn ymfalchïai William Rowland yn niwylliant a threftadaeth wledig a morwrol yr ardal honno. Bu ei ddarllediadau ar chwedlau gwerin Cymru yn ystod y 1930au yn gymeradwy iawn, ac yn ddiweddarach, yn ystod ei ymddeoliad hir, câi bleser arbennig o rannu ei atgofion am Lyn a'i wybodaeth am ganeuon gwerin, hen faledi ac ati yn achlysurol mewn sgyrsiau radio difyr. Daeth yn awdurdod hefyd ar draddodiad llenyddol Eifionydd, yn arbennig o tua diwedd y 18g. hyd at ddyddiau Eliseus Williams ('Eifion Wyn'). Roedd ganddo gryn ddiddordeb yn y ddrama Gymraeg yn ogystal, ac ef oedd cynhyrchydd cyntaf Cwmni Drama Dyffryn Madog a enillodd y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1929.
Fel y gellid disgwyl, roedd ymhlith aelodau cynharaf Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon pan sylfaenwyd hi yn 1938. Roedd hefyd ymhlith sylfaenwyr Clwb Dafydd y Garreg Wen, clwb diwylliannol Cymraeg anenwadol ac amhleidiol ym Mhorthmadog yn 1943; bu'n llywydd sefydlog o'r cychwyn hyd ei farw. Gweithredodd fel cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1955. Roedd yn un o sylfaenwyr Cyngor Gwlad Sir Gaernarfon yn niwedd y 1930au hefyd, ac ar ôl blynyddoedd o wasanaeth i'r sefydliad hwnnw (bu'n ysgrifennydd cyffredinol mygedol am gyfnod gyda Bob Owen, Croesor, yn drefnydd), gwnaed ef yn un o lywyddion anrhydeddus y Cyngor Gwlad Gwynedd newydd yn 1974. Gwasanaethodd fel aelod o bwyllgor addysg sir Gaernarfon yn ystod 1946-74 a chafodd Archifdy'r Sir ei gefnogaeth selog ers ei sefydlu yn 1947. Bu'n llywydd Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd yn ei dro ac yn llywydd Clwb Rotari Porthmadog am gyfnod. Rhoddodd wasanaeth ffyddlon i eglwys Tabernacl (M.C.), Porthmadog, fel blaenor (o 1934 hyd ei farw), trysorydd ac athro ysgol Sul am flynyddoedd. Heblaw ei ddiddordebau ysgolheigaidd, llenyddol a cherddorol, dylid crybwyll hefyd iddo fod yn arddwr a physgotwr brwd; bu'n un o lywyddion anrhydeddus Clwb Garddio Porthmadog ac o Gymdeithas Bysgota Glaslyn.
Priododd ar 7 Ebrill 1923 Grace Williams (bu hi farw 16 Mai 1990) o Donpentre, Morgannwg, a fu'n athrawes mewn gwyddor cadw tŷ yn Abersychan. Ganed mab a merch iddynt, Ifor a Menna. Bu William Rowland yn fawr ei barch yn lleol a thu hwnt; roedd yn ŵr hynaws a phoblogaidd. Bu farw ar 29 Rhagfyr 1979 yn 92 oed yn Ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, ac amlosgwyd ei weddillion ym Mangor ar 2 Ionawr 1980 yn dilyn gwasanaeth cyhoeddus yn eglwys Tabernacl, Porthmadog. Claddwyd ei lwch ym mynwent Minffordd, ger Penrhyndeudraeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2010-08-26
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.