HUGHES, HUGH JOHN (1912-1978), athro ysgol, awdur, golygydd ac adolygydd

Enw: Hugh John Hughes
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 1978
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro ysgol, awdur, golygydd ac adolygydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Arwyn Lloyd Hughes

Ganwyd 18 Awst 1912 ym Mwlch-gwyn, Garndolbenmaen, Sir Gaernarfon, yr hynaf o ddau fab Thomas Hughes, ffermwr, a'i wraig Mary Jane (gynt Jones). (Roedd y brodyr John Roberts, Llangwm, a Robert Roberts, Clynnog, pregethwyr amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn eu dydd, ymhlith ei hynafiaid).

Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Brynengan (1917-25), ysgol sir Pen-y-groes (1925-31; (enillodd y gadair yn nwy eisteddfod genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yng Nghorwen, 1929, a Chaernarfon, 1930); Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1931-36; BA, 1934 gydag anrhydedd yn y Gymraeg; diploma mewn addysg, 1935).

Cychwynnodd ymchwilio i fywyd a gwaith Thomas Price ('Carnhuanawc') yn ystod sesiwn 1935-36 ar gyfer gradd MA nas gorffennodd, er mawr siom iddo, oherwydd galwadau swydd ac ati ar ei amser. Bu'n athro Cymraeg a Lladin (a gwaith coed am gyfnod byr yn unig) yn ysgol sir Abermaw, 1936-57, ac yn bennaeth adran y Gymraeg a dirprwy brifathro ysgol Ardudwy, Harlech, o 1957 hyd ei ymddeoliad yn 1976. Yn berson hynaws a thra dibynadwy, bu'n athro ysgol ymroddgar a chydwybodol trwy gydol ei yrfa. Gwasanaethodd yn y Fyddin (gyda'r Royal Engineers) yn ystod Tachwedd 1940 - Mawrth 1946.

Cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru ei gyfrol Gwerthfawrogi Llenyddiaeth (1959), sy'n cynnwys 'cyfres o ddetholion mewn barddoniaeth a rhyddiaith a fyddai'n addas i'w defnyddio fel ymarferion … gan ddisgyblion hynaf yr ysgolion uwchradd a myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn y colegau'. Heblaw bod yn arf hynod ddefnyddiol i'r athro, mae'r gyfrol hon yn adlewyrchiad amlwg hefyd o ddysg, diwylliant a chwaeth lenyddol arbennig yr awdur. Diwygiodd nofel hanesyddol Annie Harriet Hughes ('Gwyneth Vaughan'), O Gorlannau y Defaid (1905), ar gyfer argraffiad newydd a gyhoeddwyd gan Wasg Gee yn 1969 ac a fwriadwyd ar gyfer llyfrgelloedd yn unig. Hefyd, golygodd a chyfrannodd i'r gyfrol Gwr wrth Gerdd: John Hughes 1896-1968 (1973). Cafwyd cyfres fanwl ganddo yn Yr Athro rhwng Tachwedd 1955-Rhagfyr 1956 yn dwyn y teitl: 'Nodiadau [ieithegol] ar rai o'r cerddi yn Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif' ar gyfer disgyblion y Chweched Dosbarth. Cyhoeddodd lu o adolygiadau crefftus yn Barddas, Barn, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, Genhinen a Taliesin yn ystod 1967-78.

Dywedodd D. Tecwyn Lloyd am H. J. Hughes: 'Adolygu fu ei gyfraniad mwyaf ac yn y gwaith hwnnw yr oedd bob amser yn drylwyr ac yn gwbl deg; …bu glendid a safon cyson ei waith yn batrwm i bob un ohonom sy'n ysgrifennu Cymraeg…yr oedd ei orau ef yn orau yn wir'. Ymhlith ei gyfraniadau olaf yr oedd ysgrif-bortread gynnes o'r bardd gwlad Morris Jones ('Morus Cyfannedd'; 1895-1982) o Arthog, a gyhoeddwyd yn Barddas, 20 (Mehefin, 1978), 1-2. Gwasanaethodd fel cadeirydd yr is-bwyllgor a fu'n gyfrifol i Bwyllgor Addysg Meirionnydd am gynhyrchu Atlas Meirionydd (1974) dan olygyddiaeth Geraint Bowen.

Urddwyd ef yn 'Aelod er Anrhydedd' o Orsedd y Beirdd (Urdd Derwydd) yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1967. Bu'n aelod o Gyngor Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd o 1967 hyd ei farw. Dan nawdd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr cynhaliodd ddosbarthiadau nos poblogaidd yn Ardudwy ar y cynganeddion. Roedd ganddo wybodaeth eang o gyfrinion cerdd dafod, a chan ei fod yn athro wrth reddf câi bleser arbennig mewn trosglwyddo'r wybodaeth honno i eraill. Prawf pellach o hyn oedd iddo gymryd rhan mewn cyfres o raglenni teledu, 'Swyn y Glec', a ddarlledwyd gan BBC Cymru rhwng Hydref 1970 a Mawrth 1971, lle cyflwynodd wersi ar y cynganeddion. Cynhwyswyd tair cerdd o'i eiddo yn Awen Meirion (1961) a thalodd Emlyn Evans, y golygydd cyffredinol, deyrnged arbennig iddo yn y rhagair am ei waith trylwyr yn gysylltiedig â'r gyfrol hon. Cynhwyswyd cyfieithiad ganddo o emyn Saesneg gan berson anadnabyddus yn Caneuon Ffydd (2001) (rhif 128).

Câi fwynhad hefyd o olrhain enwau lleoedd a tharddiad geiriau, ond nid yw hynny yn syndod o wybod iddo fod yn gyn-fyfyriwr ac edmygydd brwd o Syr Ifor Williams. Afraid dweud iddo fod yn noddwr i bopeth Cymraeg a Chymreig yn ei ardal megis Eisteddfod Talsarnau a'r Cylch o'r cychwyn a chymdeithasau diwylliannol eraill. Yn ôl John Ieuan Jones, bardd lleol a chyfaill iddo, roedd H. J. Hughes yn 'sgwrsiwr diddan a ymgorfforai gefn gwlad Eifionydd yn ei osgo a'i bersonoliaeth ddiymhongar'.

Priododd 10 Chwefror 1940 Ann(ie) Laura Jones, Dyffryn Ardudwy (bu hi farw 28 Hydref 1977); ganed pedair merch ac un mab iddynt. Bu farw yn ddisymwth yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg ar 13 Tachwedd 1978 yn 66 mlwydd oed pan oedd ar ymweliad â Chaerdydd. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-y-traethau, Ynys, Talsarnau, Gwynedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-02-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.