PHILLIPS, THOMAS BEVAN (1898-1991), gweinidog, cenhadwr a phrifathro coleg

Enw: Thomas Bevan Phillips
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1991
Priod: Menna Phillips (née Jones)
Rhiant: Mary Catherine Phillips (née Williams)
Rhiant: Daniel Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog, cenhadwr a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd Thomas Bevan (Tommy, T. B.) Phillips, mab cyntaf o saith o blant Daniel a Mary Catherine Phillips yn 239 Bridgend Road, Maesteg ar 11 Ebrill 1898. Fe'i bedyddiwyd yn Libanus, capel y Methodistiaid Calfinaidd, y Garth, Maesteg gan y Parchedig H. W. Thomas. Treuliodd bum mlynedd cyntaf ei fywyd yn y gymdogaeth honno gan ddechrau ei addysg yn Ysgol y Garth. Symudodd gyda'i deulu yn y flwyddyn 1903 o'r Garth i'r Cornydd, yn agos i'r Coity, ac yno y buont am dair blynedd cyn symud yn ôl i Faesteg. Yna bu ef yn mynychu ysgol Pwll Dafis, Oakwood yn Ewenny Road, Maesteg. Tra oedd yn byw yn y Cornydd cafodd brofiad dwfn a chwbl arbennig o bwerau Diwygiad 1904-5 dan ddylanwad a chyfeiriad ei fam. Roedd clywed y glowyr yn mynd a dychwelyd o'u gwaith dan ganu emynau Cymraeg yn peri iddo holi pam, a'i fam dduwiol yn ceisio esbonio dylanwad yr Ysbryd Glân ar y gymuned lofaol. Aeth ef gyda'i dad a'i fam i nifer o'r cyfarfodydd yn yr awyr agored, a thystiodd lawer gwaith i'r awyrgylch cyfeillgar, ac i ddylanwad y diwygwyr a welodd, sef Evan Roberts, Seth Joshua, R. B. Jones a Joseph Jenkins.

Yn ysgol Pwll Dafis, cafodd wobr gan yr ysgolfeistr, R. J. Jones, am ysgrif ar y pwnc 'De Affrica'. Y wobr oedd cofiant i David Livingstone, a chafodd hanes y cenhadwr bydenwog ddylanwad dirfawr arno. Yn ddeng mlwydd oed pasiodd arholiad a chael mynediad i ysgol yr Higher National yn y Plasnewydd. Un o'i gyfeillion agos yno oedd Idris Cox a ddaeth yn ddyn blaenllaw iawn gyda'r Blaid Gomiwnyddol ym Mhrydain. Yn y flwyddyn 1911, gadawodd T. B. Phillips yr ysgol a dechreuodd weithio ym Mhwll Dafis Oakwood ar y ffas lo. Yna cwrddodd â chymeriadau oedd yn weithgar iawn gyda mudiadau fel Urdd Sant Ioan yn y Mudiad Ambiwlans. Un o'r gwyr da hyn oedd Bob Welsher - un o'r Samariaid fu'n gweithio yn y tanchwa yn nglofa Senghennydd yn 1913. Mudiadau eraill a enillodd sylw'r glöwr ifanc oedd y Mudiad Dirwest a'r Dosbarthiadau Nos i Oedolion yn ysgol Pwll Dafis a Phlasnewydd. Gan fod ei fam yn pryderu am y perygl o groesi'r afon i fynd i'r cwrdd yng nghapel Libanus, fe drefnwyd i gymydog o'r enw Freddie Locke a oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr Cymraeg yng nghapel Carmel fynd ag ef a dau o'i frodyr, David John ac Eddie, i fyny i Gapel y Presbyteriaid Cymraeg Tabor, Maesteg i'r ysgol Sul, lle buont yn ffyddlon iawn. Bu dylanwad yr ysgol Sul yn y Coity, un o dan nawdd yr Eglwys Anglicanaidd, ac ysgolion Sul capel Libanus a Tabor, Maesteg, yn sail gadarn i'r holl deulu. Yr oeddynt fel ieuenctid yn cael eu hadnabod wrth eu henwau bedydd, yn wahanol i'r arfer yn yr ysgol elfennol. Wedi dilyn cyrsiau Ysgol Nos, safodd T. B. Phillips arholiad dirprwy Fireman yn un ar bymtheg mlwydd oed, a llwyddodd. Yr oedd ef felly yn un o'r ieuengaf i basio'r arholiad hwn ym maes glo Morgannwg. Cymerodd ran hefyd yng ngweithgareddau y Fed. sef Undeb Glowyr De Cymru gan gael ei ddewis yn ifanc iawn yn aelod o bwyllgor Llyfrgelloedd Cwm Llyfni. Bu'n dadlau'n frwd dros hawliau Llyfrgell y Garth, a dros sefydlu llyfrgell i gymdogaeth Cwmdu. Enillodd sylw'r Aelod Seneddol Llafur Vernon Hartshorn, a bu iddo annog Tommy, fel y'i hadnabyddid, i ymddiddori gymaint ag a fedrai yn y bywyd politicaidd, gan ddweud wrth nifer o bobl flaenllaw y Blaid Lafur yn etholaeth Ogwr, 'We have a leader of men here.'

Ymunodd T. B. Phillips yn y fyddin (14th Welsh Regiment) yn 1916 yn ddeunaw oed a bu ym maes y gad hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918. Dewiswyd ef yn Number One Gunner gyda'r Lewis gun yn y ffosydd, cydnabyddiaeth o'i gywirdeb a'i allu fel milwr. Ond daeth yn ôl gartref o'r fyddin yn heddychwr argyhoeddiedig fel eraill a aeth i'r Weinidogaeth Gristnogol ymhlith yr Ymneilltuwyr Cymraeg fel J. W. Jones, Tom Nefyn Williams, Lewis Valentine a J. H. Griffiths, ar ôl bod ar faes y gad.

Ar ôl y Rhyfel, dychwelodd i'r pwll glo yng Nghwmdu. Yn fuan cafodd ofal heading. Roedd un dosbarth yn y pwll yn cael yr enw Tommy Phillips' District. Enillodd enw da fel glöwr cydwybodol. Ceisiodd nifer o'r swyddogion ei berswadio i gymryd awenau swyddog, ond gwrthododd bob cais. Yn y diwedd cafodd gais gan Brif Swyddog cwmni'r North sef Rees Rees. Ateb y glöwr diwylliedig oedd 'I have another job which will need my full attention.' Yna daeth cais gweddol siarp iddo roi mwy o wybodaeth am y swydd arall a dyma ef yn ateb gan ddweud 'If Mr Rees Rees had been attending Sunday School he would have known that I was elected Superintendant of the Sunday School a short while ago.' Ni fu rhagor o wasgu arno i gymryd swydd weinyddol yn y lofa ar ôl yr ateb nodweddiadol o'i onestrwydd.

Dilynodd ddosbarthiadau nos o dan arweiniad y Parchedig William Edwards, Gweinidog Capel MC Caerau, ac o dan ei gyfarwyddyd aeth i Goleg Paratoawl Trefeca yn y flwyddyn 1924. Safodd y Mature Age Matriculation yn 1925, ac yna symudodd ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Yn ystod y cyfnod yno daeth Streic fawr 1926 a galwadau cryf ar y myfyrwyr yn y colegau i ymuno â'r llywodraeth i gadw'r gwasanaethau cyhoeddus i redeg. Cymerodd Thomas Bevan Phillips ran flaenllaw i berswadio'r myfyrwyr yng Nghaerdydd i wrthod pob cais felly. Bu'n hynod o lwyddiannus. Enillodd radd BA mewn athroniaeth gydag anrhydedd yn 1931 a symudodd ymlaen i Goleg Diwinyddol Aberystwyth. lle'r enillodd radd BD (gradd uwch yr adeg honno) yn 1933 cyn mynd i gwrs addysg yn Ngholeg y Crynwyr yn Selly Oak, Birmingham, a chael y Diploma Addysg yno. Cafodd ei ordeinio i lawn waith gweinidog yr Efengyl yn y flwyddyn 1934 a hwyliodd yn fuan i'r Maes Cenhadol yn Assam. Gwelir iddo dreulio deng mlynedd yn paratoi ar gyfer gwaith mawr ei fywyd.

Ei swyddogaeth gyntaf ar ôl cyrraedd Gogledd Ddwyrain India oedd fel Prifathro Ysgol Uwchradd y Bechgyn yn Shillong, gyda gofal rhai eglwysi yn y cylch, tra oedd y Parchedig T. E. Pugh gartref yng Nghymru ar seibiant dros 1934-36 (bu yn Brifathro drachefn o 1945 i 1948). Wedi dychweliad T. E. Pugh yn 1936 symudodd y Parchedig T. B. Phillips i Cherrapunji a chanolbwyntio yn y Coleg Diwinyddol ar hyfforddi athrawon. Gweithiodd yn y Coleg Diwinyddol gyda phum diwinydd Casiaidd a'r Parchedig Sidney Evans a fuasai'n flaenllaw yn Niwygiad 1904-05. Bu T. B. Phillips yn bennaeth y Coleg o 1950 i 1961. Arhosodd yn Synod Casia-Jainta am yr wyth mlynedd nesaf, gan baratoi i drosglwyddo'r drefniadaeth genhadol a sefydlwyd gan y Presbyteriaid Cymreig, yn addysgol, yn feddygol ac yn grefyddol i'r arweinwyr lleol a'u Cymanfa Gyffredinol. Yr oedd llawer o'r rhain naill ai wedi eu hyfforddi ganddo neu wedi gweld neu glywed sôn am ei waith anghyffredin yn ystod rhai o flynyddoedd yr Ail Ryfel Byd (1942-1945), pan oedd yng nghwmni Syr Keith Cantlie (Presbyteriad fel ef ei hun), un o'r cadlywyddion Corfflu Cludwyr Sifil Assam. Yr oedd dros 1,000 o wyr o Gasiaid a Nepaliaid dan ei ofal ym Mryniau Chin a Dyffryn Kabaw yng Ngogledd Burma, lle buont yn ymwneud ag ymgyrchoedd Imphal a Kohima. Yn y flwyddyn 1943 daeth galwad i Phillips gynorthwyo Syr Keith Cantlie, mab Syr James Cantlie - y meddyg a ysgrifennodd y llyfr Cymorth Cyntaf cyntaf erioed, llyfr a fu'n ddefnyddiol iawn i waith y mudiad Cymorth Cyntaf yng nglofeydd Prydain. Bu T. B. Phillips gyda Syr Keith Cantlie ar y Burma Road hyd ddiwedd y Rhyfel, yn trefnu cludiant a chymorth i filwyr a anafwyd neu a oedd mewn afiechyd, yn ogystal â gofalu am ffoaduriaid o Burma. Anrhydeddwyd ef â'r MBE yn 1945 ar gyfrif ei ddewrder anhygoel, a bu ei wybodaeth ef o weithgarwch Ambiwlans Sant Ioan yn amhrisiadwy, fel yn wir ei ymdrech i gyfieithu llawlyfrau meddygol Syr James Cantlie i'r Gasieg. Yn rhugl yn Gymraeg, y Saesneg a'r Gasieg, a chyda gwybodaeth ymarerfol o'r iaith Hindi, ysgrifennodd y Parchedig T.B. Phillips erthyglau lawer yn y tair iaith gyntaf.

Ar ôl seibiant ar ddiwedd y rhyfel cafodd Thomas Bevan Phillips waeledd mawr iawn - teiphoid a'r geri marwol. Wedi i'r afiechyd hwn gael ei drin dan ofal Dr R. Arthur Hughes a'r staff yn Ysbyty Shillong, priododd Tommy â'r Matron yno, sef Miss Menna Jones, merch Thomas Jones (1860-1932), bardd, awdur Pitar Puw a'i Berthnasau (1932), a fu'n byw yng Ngherrigellgwm, Ysbyty Ifan, sir Ddinbych. Dychwelodd y ddau adref am seibiant yn 1956. Y flwyddyn honno cafodd ei fam ym Maesteg ei tharo'n ddifrifol wael a chafodd ofal ei merch-yng-nghyfraith Menna a merch o gapel Tabor, Jennie Evans, dros y pum mis cyn iddi huno yn 1957.

Ar ôl i'r ddau ddychwelyd i'r India aethpwyd ati i drosglwyddo holl swyddi Coleg Diwinyddol a holl gyfrifoldebau'r Genhadaeth Gristnogol i frodorion yr ardal. Dewiswyd y Parchedig T. B. Phillips yn Drysorydd ar y Maes Cenhadol a throsglwyddwyd y cyfrifoldebau ynghyd â'r holl eiddo - capeli, ysgolion, ysbytai a thiroedd, i berchnogaeth yr Eglwys Frodorol. Teimlodd mai'r fraint fwyaf o'i holl weithgareddau oedd hyn. Gorffennodd y gwaith yn 1969, a dychwelodd adref i fyw yn Eglwysbach, Dyffryn Conwy ar bensiwn Eglwys Bresbyteraidd Cymru o ganpunt y flwyddyn. Roedd hynny i gadw'r ddau ohonynt, gyda phensiwn yr henoed gan y Wladwriaeth, yn gymorth mawr. Yn ôl ei frawd daeth pensiwn y Cyfundeb i ben yn ddirybudd yn 1985. Trist yw gorfod dweud i'r Parchedig T. B. Phillips a Mrs Menna Phillips fyw am yr ychydig o flynyddoedd oedd yn weddill iddynt ar y ddaear ar bensiwn y llywodraeth yn unig, er iddynt gael cymorth cymdogion, perthnasau a ffrindau, yn arbennig ffrindiau'r Maes Cenhadol. Yn 1971 anrhydeddwyd ei waith gorchestol trwy ei ethol yn Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, anrhydedd haeddiannol i un o benseiri eglwys Casia-Jaintia. Pregethai bob Sul a bu galw mawr am ei wasanaeth mewn cyfarfodydd cenhadol.

Bu farw ei briod Menna Phillips (1905-1988) o drawiad ar y galon ym mis Gorffennaf 1988, a bu yntau farw yn y flwyddyn 1991, ar ôl cystudd hir a ddechreuodd gyda phwl cas o'r eryr. Dioddefodd yn enbyd yn niwedd ei oes, yn enwedig yn y misoedd olaf, pan fu'n rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth ddwy waith mewn ychydig o wythnosau. Derbyniodd y cyfan yn rasol ac yn weddigar, gyda'r dewrder, yr amynedd a'r sirioldeb a'r addfwynder Cristnogol a fu'n nodweddiadol ohono ar hyd ei weinidogaeth gofiadwy. Cafodd gwmni'r Golomen Sanctaidd trwy gydol ei noson olaf ar y ddaear a bu farw'n dangnefeddus fore Llun, 7 Hydref 1991, yn Ysbyty'r Glowyr yn Nghaerffili, nid nepell o gartref ei frawd iau Gwyn Phillips, Ystrad Mynach, gwr a gyflwynodd swm haelionus er cof am ei frawd i sefydlu Ymddiriedolaeth Gogledd-Ddwyrain India/Cymru wedi ei lleoli yn Ystafell Gweinidog Eglwys Bethel, Heathfield Road, Lerpwl 15. Pendraw hyn oedd cyhoeddi tair cyfrol ar y gwaith cenhadol, a dwy ohonynt yn cynnwys cyfraniad T. B. Phillips a'i briod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-02-11

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.