FITZ ALAN, arglwyddi Croesoswallt, Clun, ac Arundel

Cawn fod y teulu mewn meddiant o ardal Croesoswallt ym mlynyddoedd cynnar y 12fed ganrif, ond heriwyd eu hawl gan Maredudd ap Bleddyn. Yn ystod teyrnasiad Steffan (1135-54) cynorthwyodd WILLIAM FITZ ALAN Matilda, a phan fu raid iddo ffoi cymerodd Madog ap Maredudd feddiant o'r ardal, i'w cholli wedyn rywbryd cyn ei farwolaeth yn 1160. Ymladdodd William Fitz Alan yn erbyn y Cymry yn 1157, a bu ei fab - a oedd o'r un enw ag ef - yn lletya Gerallt Gymro a'r archesgob Baldwin yng nghastell Croesoswallt yn 1188. Oddeutu 1200, oherwydd ei briodas ag Isabel, merch ac etifeddes Elias de Say, daeth tiroedd Clun i'w feddiant; ac yn y flwyddyn 1202 bu'n cynorthwyo Gerallt Gymro yn ei ymdrech am esgobaeth Tyddewi. Ymosododd y brenin John ar dref Croesoswallt yn 1216, a llosgodd hi am fod JOHN FITZ ALAN, un o'i wrthwynebwyr, yn gyfeillgar â Llywelyn Fawr hyd y flwyddyn 1217. John Fitz Alan oedd un o gynrychiolwyr y Goron yn yr anghydfod a fu rhwng Harri III a Llywelyn Fawr yn 1226; ac yn yr un flwyddyn bu'n gyfryngwr rhwng William Pantulf, arglwydd Wem yn Sir Amwythig, a Madog ap Gruffydd. Yn ystod y brwydro rhwng Harri III, Richard Marescal, a Llywelyn Fawr, yn 1233-4, yr oedd John Fitz Alan o blaid y Goron, ac ymosodwyd ar Groesoswallt gan y Cymry. Daeth y briodas rhwng John Fitz Alan ac Isabel, cyd-etifeddes Huw d'Aubigny, arglwydd Arundel, ag arglwyddiaeth Arundel a'r teitl o iarll i deulu Fitz Alan yn 1243.

Ceisiodd Gwenwynwyn gael cynhorthwy arglwydd Croesoswallt yn erbyn Llywelyn ap Gruffydd yn 1257, ac yr oedd John Fitz Alan yn un o'r llu Seisnig a orchfygwyd gan y Cymry yng Nghymerau yn yr un flwyddyn. Yn 1258 yr oedd John Fitz Alan yn un o arweinwyr Saeson y gororau; yn 1260 galwyd arno am wasanaeth milwrol yn erbyn y Cymry; yn 1278-82 yr oedd ei feibion yn flaenllaw ymhlith y rhai a ymosododd ar diroedd Llywelyn ap Gruffydd ap Madog.

Pan amgylchynwyd castell y Bere, ger Tywyn, yn 1294, RICHARD FITZ ALAN a oedd yn arwain y fyddin a anfonwyd i gynorthwyo'r rhai a warchaewyd, a bu hefyd yn flaenllaw mewn llawer brwydr arall yn erbyn y Cymry. Yn ystod blynyddoedd olaf Edwart II, bu EDMWND, mab Richard, yn Ustus Cymru, yn geidwad ar y gororau, yn gapten y lluoedd yng Nghymru, ac yn gwnstabl ar gastell Trefaldwyn. Yr oedd ei fab, RICHARD, yn gwnstabl yng nghastell Caernarfon, yn Ustus tywysogaeth y Gogledd, ac yn un o'r cynorthwywyr ffyddlonaf yng Nghymru i Edwart y Tywysog Du.

Yn nechrau y 15fed ganrif bu THOMAS FITZ ALAN yn un o'r comisiwn a enwyd i amddiffyn y gororau ar ôl brwydr Amwythig, 1403, ac yn y flwyddyn ddilynol bu'n arwain y fyddin frenhinol yng Ngogledd Cymru yn erbyn Owain Glyndwr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.