Fe wnaethoch chi chwilio am *
Mab Gruffydd ab Ednyfed Fychan. Mewn rhai achau disgrifir ei fam, Gwenllian, fel merch Rhiryd Flaidd; ar gyfrifon amseryddol, fodd bynnag, gellid yn rhwyddach gredu mai yr Howel ab Ifan ap Trahaearn ap Gwgan a enwir mewn achau eraill oedd ei thad. Ynghyd â'i frawd Rhys, tad Syr Gruffydd Llwyd, etifeddodd Howel stadau ei daid yn Deheubarth; yr oedd ei gyfran ef yn cynnwys Llansadwrn, lle yr oedd ei ddisgynyddion yn byw hyd ddyddiau Syr Rhys ap Thomas. Yn 1279 bu peth o'r tir a gymerwyd oddi arno gan Rhys ap Maredudd (cynrychiolydd teulu 'brenhinol' Dinefwr ar y pryd) yn destun ymholiad y gorchmynnodd y brenin Edward I ei gynnal. Y mae'r ffaith i'r brenin wneuthur hyn a bod Howel cyn hyn wedi cael rhoddi iddo bensiwn o £20 y flwyddyn dros ei oes yn profi bod y cydymdeimlad â llinell yr Angefiniaid a nodweddai genedlaethau diweddarach y teulu mewn bod eisoes. Eithr nid oes dystiolaeth o gwbl i'r gred a barhaodd yn gyndyn i Howel gael ffafr y brenin am ei fod yn frawd maeth i Edward II oblegid rhaid ei fod ef yn ŵr mewn cryn oedran pan anwyd y tywysog.
Y mae'n amlwg ei fod yn cael ei gyfrif yn ŵr cyhyrog a neilltuol o gryf. Profir hyn gan ei feddrod a oedd yn eglwys S. Pedr, Caerfyrddin, hyd 1790; arni yr oedd delw ohono, yn ei ddangos fel pe'n gweddïo ac yn dal yn dynn yn ei ddeuddwrn bedol ceffyl ac yntau fel pe'n unioni'r bedol honno. Bu farw cyn 1309; erbyn y flwyddyn honno yr oedd ei ŵyr, Syr Rhys ap Gruffydd, wedi llwyr ymsefydlu fel pennaeth y teulu. Trwy ei ŵyr yr oedd yn gyndad Rhysiaid Dinefwr, a thrwy ŵyr iau, Robert, yn gyndad Llwydiaid a Hollandiaid Cinmel.
Cymysgir weithiau rhwng Hywel a gŵr arall o'r un enw a oedd yn blodeuo, yn ôl pob tebyg, c. 1300; dywedir fod yr Hywel hwnnw yn disgyn o Hwfa ap Cynddelw ac yn hynafiad i amryw o deuluoedd llai pwysig ym Môn ac Arfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.