LLOYD, LUDOVIC (fl. 1573-1610), gŵr llys, prydydd, ac awdur

Enw: Ludovic Lloyd
Rhiant: Gwenllian Lloyd (née Blayney)
Rhiant: Oliver Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr llys, prydydd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John James Jones

Pumed mab Oliver Lloyd, arglwydd maenor Marrington, Sir Amwythig, a Gwenllian, ferch Griffith ap Howel ab Ieuan Blayney, Gregynog, ac ŵyr i Ddafydd Lloyd Vychan, bwrdais etifeddol o Drallwng, a pherchen Nantcribba ym mhlwyf Ffordun (Forden), Sir Drefaldwyn. Nid yw blwyddyn ei eni yn hysbys, ond yr oedd yn ddigon hen yn 1587 i fod wedi ennill ffafr y frenhines Elisabeth a chael ganddi'r hawlfraint i ôlfeddiant capel a degymau Ffordun. Bum mlynedd yn ddiweddarach, cafodd gan y frenhines yr un hawlfraint yn rheithoraeth Llanfair-Caereinion am derm o 31 mlynedd. Er i Syr Edward Coke, y twrnai cyffredinol, ddod i wybod i Lloyd lygru'r ddogfen a newid 'vigint(i)' i 'trigint(a),' a thrwy hynny chwanegu 10 mlynedd at derm y ddaliadaeth, ni roddwyd cyfraith ar Lloyd - ffaith a amlyga ei safle poblogaidd yn y llys. Gwerthodd ei hawlfraint yn rheithoraeth a degymau y plwyf hwn i oruchwyliwr Richard Herbert, tad Edward, arglwydd Herbert o Cherbury, ond achosodd hynny gyfreithio hir yn y Trysorlys. Nid oes sicrwydd fod yr hanes mai Lloyd a dalodd dreuliau claddu'r bardd Edmund Spenser yn wir - amheuir cywirdeb yr hanes gan Grosart (gweler Life of Spenser, 239). Yn ôl yr hyn a ddywed ef ei hun, parhaodd i fod yn ' Sergeant-at-Arms ' ar ôl esgyniad Iago I. Ond ychydig a wyddys ynghylch blynyddoedd olaf ei fywyd, ar wahân i'r ffaith mai yn y cyfnod hwn y cyfansoddodd bron y cwbl o'i weithiau hysbys. Y mae'n debyg ei fod erbyn hynny wedi gadael y llys, naill ai o'i wirfodd neu trwy orfod; nid oes fodd darganfod yr amgylchiadau. At y rhestr o'i weithiau sydd yng nghatalog y B.M. chwanega'r D.N.B. waith o'r teitl: Hilaria, or the triumphant feast for the fifth of August (Llundain, 1607). Gan mwyaf, casgliadau o gywreinion ydyw ei weithiau, wedi eu dethol o hynafiaethau Beiblaidd, clasurol, a Saesneg. Yma a thraw ceir ynddynt brydyddiaeth o'i waith ef ei hun. Cyfrannodd benillion cymeradwyol i lawer un o weithiau ei gyfoedion, megis i gyfieithiad Twyne o Breviary of Britaine Humphrey Lhuyd, 1573; The Castle or Picture of Pollicy gan William Blandy, 1581; ac Egluryn Phraethineb Henry Perry, 1595. Yn yr un modd cyfrannodd beirdd cyfoes megis Thomas Churchyard ac Edward Grant benillion i waith Lloyd sydd yn dwyn y teitl, The Pilgrimage of Princes, 1573. Yn B.M. Add. MS. 14965 (6) y mae molawd hir, yn cynnwys 26 o benillion, i'r frenhines Elisabeth, ynghyd â nodyn, yn llaw Lewis Morris mae'n debyg, yn cyfleu mai Lloyd oedd yr awdur. Ond dywed nodyn arall, yn llaw W. Owen Pughe, mai Owen Tudor oedd yr awdur, ac iddo gyfansoddi'r penillion er clod i'r frenhines Catrin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.