NANNEY, RICHARD (1691 - 1767), clerigwr efengylaidd

Enw: Richard Nanney
Dyddiad geni: 1691
Dyddiad marw: 1767
Plentyn: Catherine Ellis (née Nanney)
Plentyn: Richard Nanney
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr efengylaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn 1691, yn un o deulu Cefndeuddwr ger Trawsfynydd, cangen o gyff hynafol Nannau. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1710, graddio'n B.A. yn 1714, M.A. yn 1719; penodwyd ef yn ficer Clynnog yn 1718, ac yn rheithor Llanaelhaearn yn 1725; tystia Foster ei fod hefyd yn un o ganoniaid Bangor. Yr oedd iddo elfen fawr o ryddfrydigrwydd ysbryd, nodwedd naturiol ddigon pan gofir bod ei fam yn ferch i Richard Edwards o Nanhoron, prif sgwïer Piwritanaidd y sir yn oes yr Adferiad, bod Catrin ei chwaer yn briod â'r meddyg Knight o Gaernarfon, teulu eto â llawer o gysylltiadau Ymneilltuol iddynt, a bod ei wraig hithau yn un o Wyniaid y Wern ger Penmorfa, teulu rhyddfrydig odiaeth mewn gwleidyddiaeth. Daeth Nanney yn un o brif gefnogwyr ysgolion Griffith Jones (yng Nghlynnog cynhelid yr ysgol yn aml yn eglwys y plwyf, ond weithiau mewn tai anghysbell yn y cyrion); y mae amryw o'i lythyrau yn Welch Piety, i gyd yn tystio i werthfawredd addysg a'r modd gorau i'w gyfleu, rai ohonynt yn fawr eu clod i'r hen ysgolfeistr Thomas Gough (gan fod Gough wedi hyfforddi Robert Jones, Rhoslan, yn ei dro, nid yw'n syn darllen teyrnged huawdl Robert Jones i Nanney yn Drych yr Amseroedd , geiriau a ddyfynnwyd yn Hanes Methodistiaeth Cymru, Cyff Beuno, a Hanes Meth. Arfon). Cyfranogodd yn bur helaeth o ysbryd y diwygiad - er na chyfrifid ef ymhlith y clerigwyr Methodistaidd fel Griffiths (Nanhyfer) a Jones (Llan-gan) - a darllenir am dyrfaoedd o bobl yn gwrando arno'n pregethu yn eglwys Clynnog, amryw ohonynt yn dod o'r plwyfi cylchynol, a delir yn wrthwyneb glaearineb dechrau'r yrfa ac ymroddiad duwiolfrydig ei flynyddoedd olaf. Nid oedd pethau'r byd hwn yn mennu fawr arno; diofal ydoedd o'i anifeiliaid - cofier ei fod yn dal tir Elernion ger Llanaelhaiarn (os nad y Fachwen hefyd am gyfnod), stad fechan yr oedd gafael cadarn ynddi gan deulu'r wraig - ac (meddai Robert Jones) nid adwaenai unrhyw geffyl ond yr un a farchogai ef ei hun. Yr oedd ganddo fab, yntau'n RICHARD NANNEY, mewn urddau eglwysig (bu farw 1812), gŵr pur wahanol iddo ef, ond tebyg iddo yn ei osgo Biwritanaidd at gysegredigrwydd y Saboth, fel y tystia llythyr llym o'i eiddo (ysgrifennwyd 21 Ionawr 1799) at un o gyfreithwyr Caernarfon. Priododd CATHERINE NANNEY, merch Richard Nanney, â Richard Ellis o deulu Bodychen, ef hefyd yn glerigwr, ac olynydd ei dad-yng-nghyfraith fel ficer Clynnog; ef oedd tad David Ellis Nanney, y cwnsler enwog, ac un o hynafiaid Syr HUGH J. ELLIS NANNEY o'r Gwynfryn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.