Yr oedd yn un o wyth o frodyr o leiaf, ac yr oedd Hywel ab Owain Gwynedd yn frawd maeth i saith ohonynt. Pan laddwyd Hywel ym mrwydr y Pentraeth, Môn (1170), gan lu Dafydd a Rhodri, ei hanner-brodyr, meibion Cristin, yr oedd y saith yno gydag ef. Lladdwyd rhai ac ni ddihangodd mwy na thri ohonynt yn ddianaf. Lladdesid Ithel, y brawd arall, cyn hynny, yn Rhuddlan, lle'r oedd yn ymladd tros Owain Gwynedd, a chanwyd englynion marwnad iddo gan Gynddelw (The Myvyrian Archaiology of Wales , 174a). Ar dud. 346 o'r The Myvyrian Archaiology of Wales ceir cyfres o englynion marwnad gan Beryf i Hywel, ac yn llawysgrif Hendregadredd 126a, a The Myvyrian Archaiology of Wales , 28 1b, ceir cyfres arall, ddienw, sy'n amlwg yn waith un o'r saith brawd maeth. Y mae pob achos dros dderbyn barn Thomas Price (Hanes Cymru, 584-7) a Thomas Stephens (Literature of the Kymry, 39-41) fod yr englynion gwych hyn ('Tra fuam yn saith trisaith ni'n beiddai') hefyd yn waith Peryf.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.