WILLIAMS, HUGH (1722? - 1779), clerigwr ac awdur

Enw: Hugh Williams
Dyddiad geni: 1722?
Dyddiad marw: 1779
Rhiant: Catherine Williams
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llanengan, Llŷn, yn 1722 neu 1721 (bedyddiwyd 18 Ionawr 1721/2) yn fab i William Williams (neu ' Jones ') a'i wraig Catherine - awgryma William Morris (Letters, i, 308) eu bod o deulu Bodfel, ond 'pleb.' sydd gan Foster am y tad. Addysgwyd ef yn y Friars ym Mangor, meddai ef ei hun yn ei lythyr at Richard Morris yn 1764, gan chwanegu iddo fod yno gyda Goronwy Owen. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen (ymaelodi Fehefin 1740 'yn 18 oed'), a graddiodd yn 1744. Bu'n gurad Llanengan (1745-51), yn rheithor Llanfrothen a churad parhaol Beddgelert (1751-4), ac yn rheithor Aberffraw o 15 Chwefror 1754 (dyna'r achlysur yr oedd y Morysiaid wedi gobeithio cael y fywoliaeth honno i Oronwy) am weddill ei fywyd. Yr oedd Hugh Williams a Goronwy 'n gyfeillion 'annwyl,' chwedl y bardd; y mae amryw gyfeiriadau ato, heblaw un llythyr ato, yn y casgliad o lythyrau Goronwy; ond ar wahân i lythyr diwethaf Goronwy at Richard Morris (1767), sy'n holi a oedd Hugh Williams yn fyw, y maent i gyd yn perthyn i'r blynyddoedd 1752-5; fel y dangosodd J. H. Davies copi o lythyr ' 1751 ' Goronwy at William Elias a anfonwyd at Hugh Williams ganddo (yn 1754, i bob golwg) yw'r llythyr a restrir yn gyffredin fel llythyr at Hugh Williams yn 1751 Nid ymddengys chwaith fod Hugh Williams yng nghylch mewnol y Morysiaid, â barnu oddi wrth y fynegai i'w llythyrau - gwelir (o chwilio'r fynegai dan 'Aberffraw') fod Hugh Williams a William Morris ar delerau 'galw' ar ei gilydd wrth basio; ond llythyr dyn dieithr at ddyn dieithr yw'r eiddo Hugh Williams at Richard Morris (Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-86) , t. 624) yn 1764. Nid yw'n hawdd gweld sut y gallasai William Elias fod yn athro barddol i Hugh Williams, fel yr awgrymodd J. H. Davies - y cwbl a wyddom yw bod Elias wedi beirniadu rhyw brydyddiaeth o eiddo Williams, a Goronwy Owen wedi amddiffyn ei gyfaill; nid oes fawr ddim o brydyddiaeth Williams ar gael. Anghywir, drachefn, yw'r dywediad mynych fod Hugh Williams yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion yn 1751 - yn rhestr 1759 yr ymddengys ei enw am y tro cyntaf. Cyhoeddodd yn 1773 drosiad Cymraeg o bregeth Saesneg, ac yn 1776 Rhannau Detholedig o'r Salmau Cân gyd â'r Ystyr o honynt o flaen pob Salm. Dywed traddodiad ei fod yn bregethwr da, ac y mae'r llythyr at Richard Morris yn arddangos cryn ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg. Bu farw yn 1779 - claddwyd 3 Gorffennaf, yn Aberffraw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.