Ganwyd Rhiannon Davies Jones ar 4 Tachwedd 1921 yn Llanbedr, Meirionnydd, yn ail ferch i Hugh Davies Jones (1872-1924), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a'i wraig Laura (ganwyd Owen, 1887-1977), athrawes. Roedd ganddi un chwaer, Annie Davies Evans (ganwyd Jones). Brodor o ardal Croesoswallt oedd Hugh Davies Jones, ond o fferm Derwen Fawr, Corwen yn wreiddiol; bu'n rhaid i'r teulu symud i ardal y gororau pan gafodd ei dad yntau ei daflu allan o'i fferm yn y 1880au, am bleidleisio yn groes i ddymuniad y meistr tir. Etifeddodd Rhiannon Davies Jones werthoedd rhyddfrydol ei theulu, a bu ei chefndir o ochr ei thad ar y gororau, ac o ochr ei mam yn Ardudwy, yn ddylanwad cryf ar ei gwaith.
Daeth Hugh Davies Jones i Ardudwy yn weinidog dros gapel Salem Cefncymerau, Llanbedr, ac ef oedd y gweinidog pan fu'r artist Vosper yno'n peintio'r darlun enwog o Siân Owen. Yn dilyn marwolaeth Hugh Davies Jones yn 1924 pan oedd Rhiannon yn blentyn dwyflwydd oed symudodd y teulu i Penbont, Llanbedr at nain i Rhiannon o ochr ei mam, a mynychodd Rhiannon Ysgol y Cyngor, Llanbedr am gyfnod byr, ac yna Ysgol Gynradd Llanfair, ger Harlech, lle'r oedd ei mam yn athrawes. Mynychodd Ysgol Ramadeg Y Bermo, lle cafodd gyflwyniad i hanes 'gwledydd Cred' gan y Prifathro E. Pugh Parry, a daeth y gwersi hynny yn ddiweddarach yn sbardun i waith ymchwil ar gyfer nifer o'i nofelau. Yno hefyd y cafodd ei chyflwyno gan ei hathro Cymraeg, Aneurin Owen, i weithiau llenyddol a fu'n ddylanwad ar ei gwaith. Aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Bangor yn 1940 ac yno daeth i gyswllt â nifer o bobl ddylanwadol megis yr Athro Ifor Williams, yr Athro Thomas Parry a'r Athro R.T. Jenkins.
Yn 1945, wedi gadael y coleg ac ennill Tystysgrif Addysg, aeth yn ei blaen i fod yn athrawes yn Ysgol Ramadeg Brynhyfryd, Rhuthun. Yno yr aeth ati i ysgrifennu, gan fanteisio ar gwmnïaeth nifer o bobl lengar y cylch. Yno hefyd y cyfarfu â Robert Clwyd Parry a ddaeth yn gyfaill agos, ond a fu farw yn ddyn ifanc yn 1960. Yn 1963 apwyntiwyd Rhiannon Davies Jones yn ddarlithydd yng Ngholeg Caerleon, Mynwy, cyn symud yn 1965 i'r Coleg Normal ym Mangor, eto fel darlithydd Cymraeg, gan aros yno hyd at ei hymddeoliad yn 1983. Ymgartrefodd ym Mhorthaethwy.
Tra yn yr ysgol a thra'n fyfyrwraig, barddoniaeth oedd cyfrwng Rhiannon Davies Jones, ond nid oes dim o'i gwaith cynnar ar gael ac eithrio'r gyfrol Hwiangerddi (Gomer, 1973) ar gyfer plant. Dywed iddi gael cyngor gan yr Athro Thomas Parry i ddewis rhwng barddoniaeth a rhyddiaith, ac i beidio â chymysgu'r ddwy. Mae'n bur debyg i Rhiannon Davies Jones wrando ar y cyngor, gan fynd ymlaen i ddod yn un o brif nofelwyr Cymraeg ei chyfnod. Enillodd wobrau am nofelau byrion yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952 ac Aberdâr 1956, ond ni chyhoeddwyd y nofelau hyn. Yna yn 1960 enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd gyda Fy Hen Lyfr Cownt, sef dyddiadur dychmygol yr emynyddes Ann Griffiths. Aeth ymlaen i ennill y Fedal Ryddiaith eto yn Eisteddfod Abertawe 1964, gyda'r nofel Lleian Llan Llŷr, nofel deimladwy wedi ei dylanwadu gan yr ergyd o golli ei chymar Clwyd Parry. Roedd yn nofel lwyddiannus ac ail-argraffwyd hi yn 1967 ac eto yn 1990.
Yr oedd Rhiannon Davies Jones yn genedlaetholwraig ac roedd ei daliadau a'i hegwyddorion ynghyd â digwyddiadau gwleidyddol y cyfnod yn dylanwadu'n gryf ar ei gwaith. Bu i'r digwyddiadau a amgylchynai'r Arwisgo yn 1969 ddylanwadu ar Llys Aberffraw, nofel am gyfnod y Tywysog Owain Gwynedd a enillodd Goron Eisteddfod Môn yn 1973 ac a gyhoeddwyd yn 1977. Yn yr un modd ei nofel Eryr Pengwern (1981), sydd wedi ei gosod yng nghyfnod Canu Heledd, dywed yr awdur iddi ysgrifennu'r nofel yn sgil bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio dros sianel deledu Gymraeg.
Yn 1985 cyhoeddwyd Dyddiadur Mari Gwyn, nofel a osodwyd yng nghanol yr erledigaeth ar Gatholigion yng nghyfnod Elizabeth 1 ac sy'n dilyn hynt yr awdur a'r diwinydd Robert Gwyn. Yna yn dilyn methiant yr ymgyrch dros ddatganoli yn 1979, ysgogwyd Rhiannon Davies Jones i greu'r drioleg nodedig Cribau Eryri (1987), Barrug y Bore (1989), ac Adar Drycin (1993), nofelau'n cwmpasu'r cyfnod rhwng teyrnasiad Llywelyn Fawr a chwymp Llywelyn ein Llyw Olaf.
Yn 2002 a hithau bellach yn dioddef o ran iechyd, a'i golwg yn pylu, cyhoeddwyd ei chyfrol olaf, Cydio Mewn Cwilsyn, lle mae'n dychwelyd at ffurf y dyddiadur, sef dyddiadur dychmygol Elizabeth Prys, merch-yng-nghyfraith yr Archddiacon Edmwnd Prys o gyfnod y Stiwartiaid. Yn y gyfrol hefyd mae nifer o ysgrifau wedi eu seilio ar atgofion Rhiannon Davies Jones, a'r dylanwadau a fu arni ac ar ei gwaith.
Roedd Rhiannon Davies Jones yn ddarlithydd ac athrawes ysbrydoledig, a'i hangerdd at ei thestunau yn amlwg o'r ymchwil drwyadl sy'n nodweddu ei gwaith, ac mae ei harddull unigryw yn ei chodi i blith prif awduron rhyddiaith Gymraeg yr ugeinfed ganrif.
Bu farw Rhiannon Davies Jones yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi, ar 22 Hydref 2014, ac fe'i claddwyd ym mynwent Salem, capel y Bedyddwyr yn Llansilin ger Croesoswallt.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-06-19
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.