Ganwyd Morgan Nicholas ar 4 Mehefin 1895 ym Mhen-y-cae, Port Talbot, yr ieuengaf ond un o saith plentyn Rhys a Margaret Nicholas. Saer oedd y tad, cerddor da ac arweinydd y gân yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Saron, Pen-y-cae. Hanai ef o deulu sefydlog yn yr ardal y dywedid amdanynt eu bod yn ddisgynyddion i deulu o seiri a cherddorion Groegaidd a longddrylliwyd ar arfordir de Cymru yn y ddeunawfed ganrif. Deuai Margaret Nicholas (gynt Jones) hithau o un o hen deuluoed yr ardal a fu'n ffermio Grugwellt Fach ar fynydd Margam, un o hen hafotai Abaty Margam, ers cenedlaethau. Yr oedd ei brodyr, John Morgan Jones, Merthyr a W. Margam Jones, Llwydcoed, yn weinidogion blaenllaw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.
Dangosodd Morgan Nicholas dalent gerddorol eithriadol yn ifanc iawn: yn ôl y sôn, gallai, yn blentyn bach, atgynhyrchu'n gywir ar y piano ddarnau a glywsai unwaith yn unig. Cyfeiliai i gôr Aberafan mewn cyngherddau ac eisteddfodau yn wyth mlwydd oed, ac yn ddeuddeg oed enillodd ganmoliaeth uchel beirniaid y gystadleuaeth biano yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1907, gan ddod yn fuddugol allan o 63 o gystadleuwyr. Ef hefyd oedd un o'r deuddeg a gyfeiliodd ar yr harmoniwm i'r canu yng nghymanfa ganu Methodistiaid Calfinaidd De Cymru a gynhaliwyd ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.
Daeth ei dalent eithriadol ag ef i sylw Miss Emily Talbot (1840-1918) o Fargam, a dalodd am ei addysg yn Ysgol Gorawl Eton. Oddi yno, yn un ar bymtheg oed, enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol. Yn 1916 ymunodd â'r fyddin, lle y gwasanaethodd yn y Gatrawd Frenhinol wrth gefn, ac yna yn y Gwarchodlu Cymreig a Gwarchodlu'r Grenadwyr. Pan oedd ei gatrawd yn Windsor bu'n gweithredu fel dirprwy i Syr Walter Parratt, organydd Capel San Siôr, Windsor, nes i'w fataliwn fynd i Ffrainc yn 1917. Yn ystod ei gyfnod yn Ffrainc darganfu biano heb ei niweidio yn adfeilion plasty, a bu wrthi'n ei ganu am oriau un min nos, nes darganfod bod uwch swyddog yn gwrando yn y cysgodion. Ailadroddwyd y profiad hwn sawl gwaith.
Yn 1920 fe'i penodwyd yn Drefnydd Cerdd Sir Drefaldwyn, swydd a gyllidwyd gan y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies o Gregynog, ac fe arloesodd ddatblygiad dysgu cerddoriaeth yn ysgolion y sir. Yna yn 1924 symudodd i Clwyd Hall, cartref Syr Crossland Graham, gan wasanaethu fel organydd eglwys ac arweinydd côr. Rhwng 1926 ac 1947 bu'n organydd a chorfeistr eglwys Sant Oswald yng Nghroesoswallt, ac yn dysgu cerddoriaeth yn yr ysgol ramadeg leol ac yng Ngholeg Ellesmere. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu hefyd yn dysgu yn ysgol Gordonstoun, a oedd yn lletya dros dro yn Llandinam.
Yn 1947 fe'i penodwyd yn swyddog gweithredol Cyngor Cerdd Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, a daliodd y swydd hyd ei ymddeoliad yn 1960. Yn rhinwedd y swydd honno cafodd ddylanwad mawr ar bob agwedd ar fywyd cerddorol Cymru, yn enwedig trwy gyfrwng yr ysgolion haf rheolaidd i athrawon cerdd a gynhelid yn Harlech. Yn 1951 sefydlodd ac arwain Côr Cymreig Gŵyl Prydain, a ganodd trwy Gymru benbaladr ac yn Neuadd yr Ŵyl yn Llundain, a gwneud record hir. Bu hefyd yn arwain y côr ar achlysur agor Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958. Wedi iddo ddychwelyd i Gaerdydd daeth yn organydd a chorfeistr capel y Methodistiaid Calfinaidd, Pembroke Terrace, lle'r oedd ei gefnder, Morgan R. Mainwaring, yn weinidog.
Cyfansoddodd mewn amryw o ffurfiau cerddorol, ond deil llawer iawn o'i waith heb ei gyhoeddi. Y mae ei gytgan i gorau meibion, 'Ysbryd yw Duw' a'r gân 'Y Dieithryn', a gyflwynwyd i'r tenor David Lloyd, yn enghreifftiau ardderchog o'i waith. Bu'n cyfeilio i David Lloyd ar ddwy o recordiau'r canwr. Lluniodd weithiau offerynnol hefyd, er enghraifft i'r sielydd Ffrancon Thomas, ac roedd rhai o'i weithiau yn repertoire yr oböydd enwog, Léon Goossens. Cyflwynodd ddau ddarn i obo a phiano, 'Rhapsody' a 'Melody', i goffadwriaeth ei ferch, a oedd yn oboydd addawol. Ei gyfansoddiad mwyaf adnabyddus yw ei glasur o emyn-dôn, 'Bryn Myrddin', a luniwyd i eiriau Titus Lewis, 'Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb'.
Priododd â Marion May Lloyd o Donpentre, Rhondda ar 27 Ebrill 1921, a chawsant ddwy ferch: Joan, a fu farw o polio yn 16 oed, a Meriel. Bu farw Morgan Nicholas ar 12 Awst 1963 a chynhaliwyd ei angladd yn amlosgfa Thornhill yng Nghaerdydd ar 15 Awst. Claddwyd ei lwch yng Nghroesoswallt.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-02-06
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.