DAFYDD ap SIANCYN (SIENCYN) ap DAFYDD ap y CRACH (fl. tua chanol y 15ed ganrif), cefnogwr plaid y Lancastriaid, a bardd

Enw: Dafydd Ap Siancyn (Siencyn) Ap Dafydd Ap Y Crach
Rhiant: Margred ferch Rhys Gethin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cefnogwr plaid y Lancastriaid, a bardd
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Milwrol; Barddoniaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awduron: Ray Looker, Thomas Roberts

Disgynnai, ar ochr ei dad, o Marchudd (Peniarth MS 127 ; Powys Fadog, vi, 221), ac, ar ochr ei fam, o'r tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Peniarth MS 127 (105), Peniarth MS 129 (128,130); Dwnn, ii, 102, 132). Margred, merch Rhys Gethin, un o gefnogwyr Owain Glyn Dwr (gweler Lloyd, Owen Glendower, 66), oedd ei fam. Adroddir hanes ei gampau yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau gan Syr John Wynn yn ei The history of the Gwydir family . O'i glydfan ar Garreg-y-Gwalch (ger Llanrwst) cadwodd filwyr plaid Efrog allan o gwmwd Nanconwy hyd 1468, a gwnaeth lawer ymgyrch i'r wlad oddi amgylch. Cenir ei glodydd gan Ieuan ap Gruffydd Leiaf a Thudur Penllyn). Er fod Tudur, yn ei gywydd iddo, yn canmol medr Dafydd fel bardd, nid erys ond tri englyn o'i waith. Cyferchir Tudur Penllyn yn un o'r rhain. Ceir y ddau arall, a gyfansoddodd ar ei wely angau, yn llaw ' Syr ' Thomas Wiliems ar dudalen o Cardiff MS. 7. Ychwanega Thomas Wiliems fod Dafydd, adeg ei farw, yn gwnstabl castell Conwy, a'i fod wedi gorchfygu a lladd ei ragflaenydd yn y swydd. Awgrymir yn yr englynion i Ddafydd farw fel canlyniad i dri chlwyf a dderbyniasai mewn brwydr. Priodolir iddo ddau gywydd yn cyfarch Roger Kynaston a Morys Wyn o Foelyrch, ond amheus yw ei awduraeth o'r rhain, oherwydd ymddengys mai i gyfnod diweddarach y perthynai'r personau hynny.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.