LLOYD, JOHN (1885 - 1964), ysgolfeistr, awdur a hanesydd lleol

Enw: John Lloyd
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1964
Priod: Nancy Lloyd (née Roden)
Rhiant: Catrin Lloyd (née Jones)
Rhiant: Evan Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, awdur a hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Arwyn Lloyd Hughes

Ganwyd 11 Gorffennaf 1885 yn Nhy Gwyn y Gamlas, Ynys, Talsarnau, Meirionnydd, yn seithfed plentyn i Evan Lloyd, ffermwr, a'i wraig Catrin (ganwyd Jones). Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Talsarnau; ysgol ganolradd Abermo; ysgol ramadeg Wigan (am flwyddyn yn unig) a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (B.A., 1906 gydag anrhydedd yn yr ail ddosbarth yn y Gymraeg; M.A., 1911). Bu'n athro yn ei hen ysgol yn Abermo dan Edmund D. Jones, 1907-19 ac yn ysgol sir Tregaron, 1919-20. Yn 1920 apwyntiwyd ef yn athro yn ysgol ramadeg Dolgellau ac yn brifathro yn 1925, swydd a ddaliodd hyd nes iddo ymddeol ym mis Awst 1946.

Cofir amdano fel cyd-gyfieithydd gyda T. P. Ellis o The Mabinogion (1929) mewn dwy gyfrol. Dyma'r ail gyfieithiad cyflawn o'r Mabinogion i ymddangos yn Saesneg er ymgais y Fonesig Charlotte Guest yn 1834-49. Cafodd eu cyfieithiad adolygiad beirniadol ar y pryd gan ysgolheigion fel W. J. Gruffydd a J. Lloyd-Jones ond serch hynny arhosodd yn waith defnyddiol nes i gyfieithiad newydd ymddangos yn 1948 gan Gwyn a Thomas Jones . Cyhoeddodd hefyd ddau werslyfr i ysgolion yn dwyn y teitlau: Detholiad o draethodau llenyddol Dr. Lewis Edwards (1910) a Llyfr darllen ac ysgrifennu (1913; arobryn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1912), yn ogystal â gwerslyfr at wasanaeth yr ysgol Sul, Yr Eglwys apostolaidd: Cenhadon cyntaf Crist (1922). Golygodd nifer o argraffiadau o The official guide to the Deudraeth Rural District. Yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn hanes lleol a chyfrannodd rhwng 1949-58 nifer o erthyglau ar ei hoff Ardudwy i Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd. Cyfrannodd hefyd i'r Bywgraffiadur Cymreig 1941-50. Darlithiodd lawer i ddosbarthiadau lleol y W.E.A. ac yn achlysurol, ar ôl iddo ymddeol, yng Ngholeg Harlech. Yr oedd yn brifathro ymroddedig ac yn ymchwiliwr manwl ym mhopeth yr ymgymerodd ag ef. Gwasanaethodd hefyd ar nifer dda o wahanol bwyllgorau a chyrff diwylliannol ym Meirionnydd megis y pwyllgor addysg, pwyllgor Eisteddfod Meirion a phwyllgor y sir Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd ymhlith sylfaenwyr Cymdeithas Hanes a Chofnodion y sir yn 1939 a gwnaed ef yn islywydd. Bu'n flaenor gyda'r MC yn olynol yn Nhalsarnau, Dolgellau a Llanbedr. Priododd 1925 â Nancy Roden, Aberystwyth, a ganed un ferch iddynt. Bu farw yn Nolgellau, 17 Ionawr 1964, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys S. Mihangel, Llanfihangel-y-traethau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.