Ganwyd 30 Medi 1878 ym Mhen-y-groes, Caernarfon, mab Urias Stephen, 'railway signalman', a'i wraig Anne. Cafodd Robert ei addysg gynnar ym Mhen-y-groes, Clynnog, ac ysgol uwchradd Croesoswallt. Aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, yn Hydref 1896. Yna bu'n dysgu yn ysgol elfennol y Gyffylliog yn 1899 a dychwelodd i Fangor, lle y graddiodd yn y Gymraeg yn 1903. Bu'n athro yn Llundain o 1903 hyd 1908. Yn 1907 enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru am draethawd yn dwyn y teitl 'The poetical works of Bedo Aerddrem, Bedo Brwynllys, and Bedo Phylip Bach'. Yn 1908 aeth yn athro i ysgol breswyl yn Taunton, ond gadawodd yno ymhen y fl. oherwydd iddynt fethu cynnig swydd iddo i fyw allan. Yn Ionawr 1909 fe'i penodwyd yn athro yn ysgol ramadeg Pont-y-pŵl (Jones's West Monmouthshire School) a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1948.
Yr oedd yn ŵr pur amryddawn. Dysgai Gymraeg, hanes, daearyddiaeth a mathemateg. Ym mis Awst 1913 aeth am gwrs mewn daearyddiaeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i'w alluogi ei hun i ddysgu hanes a daearyddiaeth fel pwnc cyfunol. Tystiai'r Athro H.J. Fleure fod ganddo agwedd meddwl ffres nas ceid ond yn anaml mewn athrawon a adawsai'r coleg ers dros ddeng mlynedd. Pan aeth yr athrawon cemeg a ffiseg i'r fyddin yn ystod Rhyfel Byd I ymgymerodd â'r gwaith o ddysgu'r pynciau hynny drwy'r ysgol, gan gymryd diddordeb arbennig mewn ffiseg.
Bu'n gystadleuydd eisteddfodol brwd ar hyd ei oes. Enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908 am gasgliad o waith Guto'r Glyn dan feirniadaeth O.M. Edwards . Cadwodd O.M. y gwaith gyda'r bwriad o'i gyhoeddi, ond nis gwnaeth. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1910, dan feirniadaeth O.M. Edwards drachefn, rhannodd y wobr gyda'r Parch. D.R. Jones, Caerdydd, am 'y casgliad gorau o weithiau anghyhoedd unrhyw fardd Cymreig yng nghyfnod y Tuduriaid, ynghyd â byr-hanes y bardd a nodiadau beirniadol ar ei waith'. Nid oes wybodaeth pellach am y gwaith hwn. Yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 1913, rhannodd y wobr gyda Peter Williams, 'Pedr Hir' am ddrama fydryddol ar fywyd a marwolaeth William Herbert, castell Rhaglan, Iarll cyntaf Penfro. Bu'n ymhél â phrydyddu, yn farddoniaeth gaeth a rhydd, ac yn ysgrifennu dramâu ar hyd ei oes. Yr oedd yn gerddor da hefyd, ac o'r un cyff ag Edward (Jones) Stephen ('Tanymarian') a Robert Stephen ('Moelwynfardd', 1828 - 1879), a oedd yn swyddog gyda'r Heddlu yng Nghonwy. Enillodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954, am drosiad i'r Gymraeg o libretto Princess Ju Ju. Perfformiwyd ei drosiad o The Bohemian girl yn ei bentref genedigol, Pen-y-groes, ar 11 Rhagfyr 1947. Cyhoeddodd oddeutu dwsin i ugain o ddarnau cerddorol ar ei gost ei hun. Ef oedd ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924, ac ysgrifennydd cyffredinol cyntaf gŵyl gerddorol Llandudno a gynhaliwyd yn Hydref 1945, a'i hysgrifennydd droeon ar ôl hynny. Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd dan yr enw 'Robin Eryri'.
Bu'n briod ddwywaith: (1) ag Alice Noel Jones, merch i gapten llong o Borth-y-gest. Bu iddynt dri o blant; (2) yn Caxton Hall, Llundain 8 Ionawr 1942 â Mary Elizabeth Owen (gweddw y Capt. Ralph D. Owen, swyddog yn y fyddin, a merch Edmund ac Elizabeth Thomas, - Edmund Thomas yn fab i Samuel Thomas, Gelli Haf, Maesycwmmer). Yr oedd teulu Gelli Haf yn bur adnabyddus ym Mynwy, a rhyw gysylltiad rhyngddynt a theulu William Thomas ('Islwyn').
Ar ôl ailbriodi dechreuodd ymddiddori yn y diwydiant lacar ym Mhont-y-pŵl. Yn 1947 cyhoeddodd erthygl ar y diwydiant hwnnw yn y cylchgrawn Apollo ac erthygl arall yn Antiques (Efrog Newydd) yn 1951. Cyfrannodd erthygl ar deulu Allgood i'r Bywgraffiadur.
Y mae ei lawysgrifau ar deulu Allgood a'r diwydiant lacar yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, a'r gweddill o'i lawysgrifau yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor, ac eithrio'i gasgliad o weithiau'r tri Bedo sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Bu farw yn ei gartref ym Mae Colwyn, 2 Ionawr 1966.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.