Ganwyd 31 Mawrth 1773, yn fab i Thomas a Lowri Jones, Dolgellau, Meirionnydd; yr hynaf o dri ar ddeg o blant. Gŵr busnes ac ariannwr oedd Thomas Jones, sefydlydd y banc cyntaf yn Nolgellau a pherthynas i David Richards ' Dafydd Ionawr '. Addysgwyd John Jones yn Nolgellau, ysgol ramadeg Rhuthun a Choleg Iesu, Rhydychen lle graddiodd yn B.A. yn 1796 (M.A. yn 1800). Bu wedyn yn gurad yn Nhremeirchion rhwng 1797 ac 1799 ac yna yn Llanyblodwel ger Croesoswallt. Tra oedd yno, cyfarfu â Walter Davies, ' Gwallter Mechain ', John Jenkins, ' Ifor Ceri ' a rhai eraill o gylch y 'personiaid llengar' ac o hyn ymlaen bu'n un o'r cylch hwnnw. O Lanyblodwel aeth yn gurad i Wrecsam ond yn 1811 fe'i hurddwyd yn ficer plwyf Llansilin. Yn 1819, fe'i penodwyd yn ysgrifennydd Cambrian Society talaith Powys ond oherwydd symud i gymryd ficeriaeth Rhuddlan yn 1820, gwrthododd y swydd. Ond o hyn ymlaen bu'n amlwg fel noddwr a beirniad yn yr eisteddfodau taleithiol. Yn 1819, priododd â Margaret Morris, aeres Plas a stad Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Sir Ddinbych. O Ruddlan symudodd i reithoraeth Llandderfel yn 1828 a bu yno hyd 1840 pryd y symudodd drachefn i blwyf Llanaber, Meirionnydd. Ymddeolodd yn 1843 a mynd i fyw i Borthwnog ger Penmaen-pŵl lle treuliodd weddill ei oes. Bu farw 6 Ebrill 1853 a chladdwyd ef ym mynwent Llanelltud.
Yr oedd yn ddyn cyfoethog a hael ac ef oedd Maecenas yr offeiriaid llengar. Rhoes gymorth ariannol a chefnogaeth hefyd i gychwyn gyrfa Evan Evans, ' Ieuan Glan Geirionydd ' a John Blackwell, ' Alun '. Yr oedd hefyd yn ysgolhaig ac yn 1834 cyhoeddodd ail argraffiad o British antiquities revived Robert Vaughan, Hengwrt (1662). Oddi wrth ambell gyfeiriad yn ei lythyrau, gwelir ei fod hefyd yn bur feirniadol o ysgolheictod John Williams, ' Ab Ithel ' a'i dderwyddaeth Ioloaidd. Talodd am gofgolofn ' Dafydd Ionawr ' yn hen fynwent Dolgellau ac iddo ef y cyflwynwyd argraffiad 1851 o Gwaith Dafydd Ionawr.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.