WALTERS, DAVID (EUROF) (1874-1942), gweinidog (A) a llenor

Enw: David Walters
Ffugenw: EUROF
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1942
Priod: Catherine Eleanor Walters (née Thomas)
Rhiant: Ann Walters (née Dyer)
Rhiant: John Walters
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A) a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 27 Mai 1874 yr hynaf o bum plentyn John ac Ann (ganwyd Dyer) Walters yn Nhy'n-y-coed, Betws, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Gof oedd y tad a symudodd y teulu pan oedd ef yn bump oed i'r Glais ger Clydach, Cwm Tawe. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol fwrdd leol a bu'n ddisgybl-athro yno. Yr oedd y teulu'n aelodau yn Seion, y Glais, a gofalai ei fam ei dywys i holl gyfarfodydd yr eglwys honno. Dylanwad cryf arall arno oedd ei ewythr

Job Richards, ‘Eilab’,

a fu'n ysgolfeistr yn ysgol y gwaith copr yn Llanelli ac ym Mhontfathew (Bryn-crug heddiw) ger Tywyn, Meirionnydd, cyn dilyn cwrs yng Ngholeg Bodiwan, y Bala, dan hyfforddiant Michael Daniel Jones a John Peter (ibid., 706), a dod yn weinidog cyntaf Moreia (A), Ty-croes.

Bu Eurof Walters am beth amser yn glerc dan Gwmni Rheilffordd Merthyr-Aberhonddu, cyn cymryd ei brentisio yn siop Tracy, gemydd ac eurof yn Nhreforus. Hynny sy'n egluro ei enw barddol. Aeth i Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman (gweler Watkin Hezekiah Williams) am hanner blwyddyn. Cerddai yno o gartref ei gefnder John Dyer Richards mab hynaf Job a Mary (ganwyd Dyer) Richards, y Waun-lwyd, Saron, Llandybïe. Aeth y ddau gefnder i'r Coleg Coffa yn Aberhonddu a dilynodd Eurof gwrs gradd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a chael dosbarth I mewn Hebraeg a Groeg. Dair blynedd yn olynol dyfarnwyd ysgoloriaeth iddo. Gydag ysgoloriaeth Dan Isaac Davies am ddwy fl. bu'n cymryd cwrs anrhydedd yn y Gymraeg. Derbyniodd nifer o alwadau ond penderfynodd orffen cwrs B.D. ac yr oedd ymhlith y Cymry cyntaf i gael y radd honno.

Ordeiniwyd ef yn Salem, Llanymddyfri, lle y bu am 5 mlynedd. Yna yn eglwys Saesneg Sgwar y Farchnad, Merthyr Tudful, 1905-10. Wedyn bu'n gynrychiolydd Cymd. y Beiblau, 1910-15, a theithiodd yn helaeth drwy'r Iseldiroedd, gwlad Belg a Ffrainc. Ar ddechrau Rhyfel Byd I derbyniodd alwad i eglwys Stryd Henrietta yn Abertawe a llafurio am 11 mlynedd (1915-26) a dyblu rhif yr aelodaeth yno. Ei fugeiliaeth nesaf oedd Christ Church, Croesoswallt. Yn 1931 symudodd i eglwys Gymraeg y Tabernacl, Belmont Road, Lerpwl, lle yr ymfwriodd i fywyd crefyddol a diwylliannol Cymreig Glannau Merswy. Enillodd radd M.A. Prifysgol Lerpwl am draethawd ar Vavasor Powell yn 1933. Ymddiddorai mewn llyfryddiaeth ac yr oedd yn aelod o Gymdeithas Lyfryddol Cymru a chyfrannwr i'w chylchgrawn. Yr oedd hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd. Yr oedd yn un o sefydlwyr yr Ysgolion Haf Cymraeg o dan Undeb y Cymdeithasau a bu'n hyfforddwr mewn llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd. Enillodd chwe chadair eisteddfodol a gwobrau lawer yn yr Eisteddfod Genedlaethol, e.e. traethawd ar Stephen Hughes (Penbedw, 1917), nofel hanes Pwerau'r Deufyd (Aberafan, 1932). Ysgrifennodd ar y meysydd llafur yn Y Tyst a'r Dysgedydd a nifer o esboniadau. Ef oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1940-41.

Priododd Catharine Eleanor (Kate), merch William Thomas, gweinidog (A) Gwynfe, a Mary ei wraig, a bu iddynt 3 o blant. Amharwyd ar ei iechyd yn ei flynyddoedd olaf gan effeithiau'r cyrchoedd awyr ar Lerpwl a hefyd yn Abertawe gan iddo golli llawer o ffrwyth ei ysgolheictod a'i awen lenyddol pan ddinistrwyd siop lyfrau Morgan a Higgs. Bu farw yn ei gartref 12 Hampstead Road, Elm Park, Lerpwl, 29 Medi 1942, ac amlosgwyd ei gorff yn amlosgfa Lerpwl.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/