WILLIAMS, JOHN JOHN (1884 - 1950), athro, gweinyddwr addysg, cynhyrchydd a beirniad drama

Enw: John John Williams
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1950
Priod: Elsie May Williams (née Evans)
Rhiant: Anne Williams (née Jones)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, gweinyddwr addysg, cynhyrchydd a beirniad drama
Maes gweithgaredd: Addysg; Perfformio
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 12 Gorffennaf 1884, yn Stryd Fawr Caernarfon, unig blentyn John Williams ac Anne (ganwyd Jones). Chwarelwr oedd y tad. Cadwai'r fam westy trafaelwyr a bu farw pan nad oedd y plentyn ond wyth mlwydd oed. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol fwrdd y dre ac wedyn yn ysgol Frytanaidd Llanrug. Un o'i gyfoedion yn ysgol ganolradd Caernarfon (c. 1896-98) oedd Robert Williams Parry a buont yn gyfeillion oes gyda J. J. yn was priodas i'r bardd. Cyfoedion eraill oedd H.D. Hughes, gweinidog (MC) a Dr Arthur Owen. Ar ôl ysbaid fel disgybl-athro ymaelododd yng Ngholeg Normal Bangor yn 1905. Enillodd dystysgrif athro yn 1907 yn y dosbarth cyntaf. Aeth yn athro cynorthwyol yn ysgol elfennol Granby Street, Lerpwl, yn yr un fl. ac aros yno tan 1915 pan benodwyd ef yn brifathro ysgol ganol y Cefnfaes, Bethesda, fel olynydd i John Elias Jones. Treuliodd bymtheng mlynedd ffrwythlon yn y swydd hon gan ymdaflu i bob agwedd ar fywyd y fro a denu cenedlaethau o fechgyn a merched i ymddiddori mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddyd gain. Sefydlodd Glwb Awen a Chân llewyrchus a deuai llenorion, cerddorion a haneswyr amlycaf y genedl i annerch ynddo. Cymerai Syr Walford Davies gryn ddiddordeb yng nghôr plant ysgol y Cefnfaes. Cynhelid yno gyngherddau o safon a pherfformiadau o operetau a dramâu. Ond yr oedd J.J. hefyd yn athro rhagorol — yn gymaint felly fel yr aeth J. Glyn Davies mor bell â chymharu ei ddull o ysbrydoli plant ag eiddo Sanderson o Oundle. Yn 1917 dechreuodd weithio ar draethawd M.A. ym Mhrifysgol Lerpwl dan gyfarwyddyd John Glyn Davies. Ei destun oedd ‘The political elements in Welsh Literature, 1788-1840’, a dyfarnwyd y radd iddo yn 1923. Yr oedd eisoes wedi troi i fyd y ddrama, gan bori yng ngweithiau dramodwyr fel Ibsen, Galsworthy, Stindberg a Shaw, heblaw gwaith awduron Cymreig. Astudiai bob agwedd ar dechneg y theatr, ac fe'i cysylltodd ei hun â chwmni drama Coleg y Brifysgol, Bangor, gan weithredu fel cynhyrchydd am saith mlynedd. Ysgogodd do o actorion, dramodwyr a chynhyrchwyr (yn eu plith Dr John Gwilym Jones) a ddaeth ymhen amser yn flaenorwyr y ddrama Gymraeg. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi yn 1927 ef oedd swyddog cyswllt y noddwr, yr Arglwydd Howard de Walden pan berfformiwyd cyfieithiad J. Glyn Davies a D. E. Jenkins o Yr Ymhonwyr (Ibsen) gyda Theodore Komisarjevsky, cyngyfarwyddwr gweinyddol a chynhyrchydd Theatr Opera a Ballet Moscow, yn cynhyrchu. Bu'n beirniadu droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ysgrifennai erthyglau beirniadol, yn bennaf ar bynciau addysgol, i newyddiaduron y dydd. Trafododd ddramâu Ibsen yn y wasg Gymraeg a nofelau Daniel Owen yn Y Traethodydd. Edmygid ei eiddgarwch dros bob agwedd ar ddiwylliant gan wyr fel J.O. Williams, Ernest Roberts a Syr Idris Foster . Credai'n ddiysgog yn nelfrydau Syr Owen M. Edwards, eithr ni fanteisiodd Cymru ar syniadau blaengar yr addysgwr anghyffredin hwn ac yn 1930 aeth yn arolygydd ysgolion i Benbedw a'i benodi yn 1932 yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg y dref, gan aros yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1949. Ef oedd yn gyfrifol am drefnu nodded i gannoedd o blant ysgolion y dref yn siroedd Meirionnydd a Threfaldwyn yn ystod Rhyfel Byd II. Gweithredodd ar y Comisiwn Brenhinol a fu'n gwneud arolwg ar addysg yn ardaloedd gwledig Cymru, 1928-30. Un o'i gyfeillion mynwesol oddi ar eu cyfnod fel cyd-fyfyrwyr yn y Coleg Normal oedd Fred Attenborough, Is-ganghellor Prifysgol Caerlyr, a thad yr actor a chyfarwyddwr ffilmiau, Syr Richard Attenborough. Cydnabu Syr Richard iddo elwa llawer ar gynghorion J.J. ar ddechrau ei yrfa yn y theatr. Cyfrannodd erthyglau i Yr Athro, Y Brython, Y Genedl Gymreig, North Wales Observer a'r Liverpool Daily Post. Gwr bregus ei iechyd ydoedd ond meddai ar asbri a hiwmor. Yr oedd ganddo bersonoliaeth gyfareddol, yn ymgomiwr diddan, a darlledwr difyr. Ymhlith ei gyfeillion eraill yr oedd William Garmon Jones, ysgrif gan J.J.), E. Morgan Humphreys a Gwilym R. Jones perthynai iddo urddas a syberwyd. Fe'i disgrifiwyd fel sosialydd Cristionogol Cymreig. Hoffai grwydro ardaloedd cefn gwlad Cymru a Lloegr. Ar gymeradwyaeth Syr Wynn Wheldon cafodd gyfweliad am swydd cyfarwyddwr cyntaf rhanbarth gorllewin Cymru y B.B.C., ond Syr Rhys Hopkin Morris a ddewisiwyd. Priododd, 3 Gorffennaf 1937, ag Elsie May Evans o Lanystumdwy, athrawes Saesneg yn ysgol St. Helens ar y pryd. Ni bu ganddynt blant. Bu farw 26 Rhagfyr 1950, yn 17 Ashburton Avenue, Claughton, Penbedw a chl. ef yn Landican.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/