Hi a oedd â gofal magwraeth Elisabeth I, Edward VI a'r Frenhines Mari tra oedd hi'n byw gyda phlant iau y teulu. Hi felly oedd 'Lady Mistress' Elisabeth ac Edward, y teitl a roddir i'r foneddiges a oruchwyliai weision y Tŷ. Y mae ei marwnad gan Lewys Morgannwg yn cynnwys y llinellau:
Arglwyddes breninesau,
Gofrner oedd ban oedd yn iau.
Hi a wyddiad yn weddus
Wybodau iarllesau'r llys,
Gorcheidwad cyn ymadaw
Ty Harri Wyth a'i blant draw.
I Edwart Frenin ydoedd,
Uwch ei faeth, goruchaf oedd,
Waetio yr oedd at ei Ras,
Gywirddoeth wraig o urddas.
Arglwyddys plas a gladden',
Troe, a'i llew lletyai'r ieirll hen.
Bu i frenin, bu fawr unwaith,
Roeso, a'i ieirll, Harri Saith.
Gweddu y bu tra fu fyw
Hon sydd frenhines heddiw.
Un o 11 o gyd-etifeddion Simon Milborne a Jane (Baskerville) o Burghill swydd Henfordd oedd Blanche (bu farw mab a merch yn ifanc). Yr oedd gan y teulu gysylltiadau eang. Priododd Syr William Herbert, Iarll Penfro (y greadigaeth gyntaf) Ann Devereux, nith i fam Simon Milborne, sef Elizabeth Devereux. Trefnodd Simon briodasau i'w ferched gyda'r holl uchelwriaeth leol. Priododd ei ferch hynaf, Alice, Henry Myles o Bacton, rhieni Blanche Parry, a oedd yng nghyfrinach y frenhines Elisabeth I. Priododd Blanche Milborne James Whitney o Whitney a Phen-cwm; ei gwaddol oedd maenor Icomb yn swydd Gaerloyw a fu'n eiddo i'w thad ac a etifeddwyd gan ei mab hynaf. Bu farw James Whitney 30 Mehefin 1500 gan adael Blanche â Robert 13 blwydd oed a James, Watkin ac Elizabeth a oedd yn iau. (Priododd Ann Morgan o Arkstone, Swydd Henffordd, merch Elizabeth, â Henry Carey, yr Arglwydd Hunsdon yn ddiweddarach, trwy drwydded 21 Mai 1545; mab oedd hwnnw i Mary Boleyn ac felly'n gefnder i'r Frenhines Elisabeth, neu efallai'n hanner-brawd iddi gan i Mary fod yn wraig ordderch i Harri VIII. Disgynyddion Robert yw cangen hŷn teulu Whitney'r UDA).
Ailbriododd Blanche rywbryd rhwng Gorffennaf 1500 ac Awst 1502, yn ail wraig William Herbert o Troy Parva, mab i Syr William Herbert, Iarll Penfro, ac un o'i ordderchwragedd, sef Frond verch Hoesgyn. Aelwyd Gymraeg ydoedd; er mai Saesnes oedd Blanche, byddai'n medru'r Gymraeg. Dywed Lewys Morgannwg iddi hi a'i gŵr groesawu Harri VII, ei ieirll ac efallai ei frenhines i Troy House, ger Trefynwy yn Awst 1502. Yr oedd ganddynt ddau fab, Charles a Thomas; gwnaed y ddau'n farchogion a buont yn Siryfion sir Fynwy, ac yr oedd gan Syr William hefyd fab anghyfreithlon, Richard. Priododd Thomas Anne Lucy o Charlecote.
Disgynnai llinell yr Herbertiaid trwy Elisabeth, wyres ac etifeddes yr Iarll Penfro cyntaf (y greadigaeth gyntaf), yr hon a briododd Charles Somerset (mab anghyfreithlon Henry Beaufort, 3ydd Dug Somerset), a wnaed yn Iarll Worcester; mab iddynt hwy oedd Henry Somerset, ail Iarll Worcester a briododd yn ail wraig iddo Elisabeth, merch Syr Anthony Browne. Nai i Syr William Herbert o Troy fyddai'r Iarll Penfro cyntaf (o'r ail greadigaeth) yn 1551.
Yn 1505 ymrwymodd Syr Willam Herbert o Troy i gadw'r heddwch â'i hanner brawd, Syr Walter Herbert o Raglan, a chyda'i frawd-yng-nghyfraith, Henry Myles, tad Blanche Parry. Cofnodir ef yn dderbynnydd blwydd-dâl gan Edward Stafford, 3ydd Dug Buckingham yng nghastell Thornbury yn 1508, yn Siryf swydd Henffordd yn 1515 a gwnaed ef yn farchog rhwng y Pasg a Gŵyl Fihangel 1516; fel y Fonesig Troy yr adweinir ei wraig, Blanche Herbert, gan amlaf ar ôl hynny. Bu ef farw yn 1524; Blanche a'u mab Charles oedd ysgutorion ei Ewyllys a ddarparai'n helaeth ar gyfer Blanche. Yr oedd cymal ynddi'n hyderu y byddai Henry Somerset (yr Arglwydd Herbert ar y pryd ond ail Iarll Worcester yn 1526/7) yn 'arglwydd da i'm gwraig a'm plant'. Gofynnodd Syr William hefyd i Blanche ei chadw ei hun 'yn unig'. Y mae'n rhesymol casglu felly i'r Fonesig Troy, gyda'i nith (ac efallai ei merch fedydd) Blanche Parry, fynd i'r Llys frenhinol gyntaf gydag Elizabeth, Iarlles Worcester a oedd yn un o foneddigesau'r Frenhines Anne Boleyn a rhan ganddi yn ei gwledd Goroni.
Dichon i'r Fonesig Troy gynorthwyo ei gor-nai, John Vaughan, mab i chwaer hynaf Blanche Parry, yn ei yrfa pan oedd yn Facwy'r Siambr i Harri VIII yn 1533 ac yn Ddistain erbyn 1538. Gwelir fod y Fonesig Troy yn y Tŷ yr adeg honno gan adroddiad diweddarach dienw (sy'n trafod gweithredoedd bradwrus Iarll Essex a Roger Vaughan yn 1601) sy'n agor, 'My mother was chosen and brought to the Court by my Lady Herbert of Troy, to have been her Majesty's (y Frenhines Elisabeth I) nurse and had been chosen before all other had her gracious mother (y Frenhines Anne Boleyn) had her own will therein...' (Dewiswyd rhyw Mrs Pendred / Pendryth). Crybwyllir y Fonesig Troy ym medydd y Tywysog Edward yn 1537 pan nodir mai'r Fonesig Elizabeth aeth gyda'i chwaer y Fonesig Mary a'r Fonesig Herbert i gludo godre'r wisg (Letters and Papers of Henry VIII).
Y Fonesig Bryan a oedd â gofal y Dywysoges Elisabeth yn fabi ond trosglwyddwyd ei chyfrifoldebau at y Tywysog Edward pan gafodd ef ei eni. Dengys y dystiolaeth i'r Fonesig Troy olynu'r Fonesig Bryan, a rhoddwyd y Tywysog Edward yntau yn ei gofal pan oedd yn hŷn yn ôl yr hyn a ddywed Lewys Morgannwg. Canlyniad ei hyfforddi oedd sylw canmoliaethus y gŵr llys Thomas Wriothesley yn 1539 am fagwraeth ac addysg y Fonesig Elisabeth. Cadarnheir safle'r Fonesig Troy gan y rhestri o bersonél y Fonesig Elisabeth yn Letters and Papers of Henry VIII yn y cyfnod cyn 1536 hyd 1545. Enw'r Fonesig Troy sydd ar frig y rhestri cynharach, o flaen enw Kate Champernon (priod John Ashley) a benodwyd yn ddysgodres yn 1536. Yn 1545 ysgrifennodd Roger Ascham (dichon fod ei facwy John Whitney yn berthynas i'r Fonesig Troy) at Kate Champernon yn ceisio ei chael i'w gymeradwyo i'r Fonesig Troy 'and all that company of gentlewomen'. Ond nid yw'r rhestr o weision y Tŷ i'r Fonesig Elisabeth tua 1546 yn enwi'r Fonesig Troy, arwydd iddi ymddeol yn hwyr yn 1545 neu'n gynnar yn 1546, pan oedd Elisabeth tua 12 mlwydd oed.
Ysgrifennodd Syr Robert Tyrwhitt yn 1549 fod 'Ashley... was made her mistress (y Fonesig Elisabeth) by the king her father... But four of her gentlewomen confess that Ashley first removed Lady Troy... and then her successor (Blanche) Parry...'. Yr oedd y Fonesig Troy, y mae'n amlwg, wedi bwriadu i'w nith Blanche ei holynu ond i Kate Ashley y rhoddwyd swydd 'Lady Mistress', efallai am ei bod yn briod, ac arhosodd Blanche yn yr ail safle nes iddi olynu Kate Ashley pan fu hi farw yn 1565. Tebyg fod y Fonesig Troy, yn ei 60au yn awr, yn ddigon bodlon ymddeol. Yr oedd ganddi ei hystafelloedd dodrefnedig yn Troy House (gweler Ewyllys Syr Charles Herbert yn 1552) lle y gofalwyd amdani gan ei mab Charles a'r wraig Cicill. Dengys Cyfrifon Tŷ'r Dywysoges Elisabeth (1551-1552, Hatfield) i Elisabeth anfon iddi yn rheolaidd trwy warrant a thrwy law un o weision y Knights Marshall bensiwn hanner blynyddol, gwerth tua hanner ei chydnabyddiaeth yn ei swydd. Bu farw yn uchel ei pharch, tebyg yn 1657, yn sicr cyn esgyniad y Frenhines Elisabeth fis Tachwedd 1558. Tebyg iddi gael ei chladdu, fel y bwriadai ei hail ŵr, yn y bedd, nawr ar goll, yn eglwys y plwyf Trefynwy gyda thair corffddelw o'r Fonesig Troy, Syr William a'i wraig gyntaf.
Yr oedd Blanche Herbert, y Fonesig Troy, yn gymeriad allweddol ym mhlentyndod Edward VI ac Elisabeth I. Tra phwysig hefyd oedd ei pherthynas agos â'i nith Blanche Parry. Dichon i weddillion dylanwad lolardaidd gyfrannu at syniadau crefyddol plant iau teulu'r Tuduriaid. Yn sicr rhoes fagwriaeth sefydlog i'r ddau blentyn. Gwraig rasol, fwyn a diwylliedig ydoedd hi a gerid ac a edmygid yn gyffredinol - 'gwraig ddoeth ag urddas ganddi'.
Dyddiad cyhoeddi: 2009-12-03
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.