Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.

HALL, BENJAMIN (1802 - 1867), Arglwydd Llanover

Enw: Benjamin Hall
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1867
Priod: Augusta Hall (née Waddington)
Plentyn: Augusta Charlotte Elizabeth Jones (née Hall)
Rhiant: Charlotte Hall (née Crawshay)
Rhiant: Benjamin Hall
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: David Williams

Mab Benjamin Hall (1778 - 1817). Ganwyd 8 Tachwedd 1802. Priododd Augusta Waddington 4 Rhagfyr 1823. Fe'i dewiswyd yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi sir Fynwy yn 1831 eithr collodd ei sedd ar ôl i betisiwn gael ei hystyried; fe'i hetholwyd eilwaith yn 1832 a pharhaodd yn aelod dros y bwrdeisdrefi hyd 1837 pryd y daeth yn aelod dros Marylebone. Fe'i gwnaethpwyd yn farwnig yn 1838. Ym mis Gorffennaf 1855 daeth yn Gomisiynwr Gwaith ('Commissioner of Works) a gelwir cloc mawr Westminster, a wnaethpwyd pan oedd Syr Benjamin Hall yn gomisiynwr, yn ' Big Ben.' Cafodd ei wneuthur yn farwn 29 Mehefin 1859 - yn ystod ail dymor Palmerston fel prif weinidog - a'i alw'n Baron Llanover ('of Llanover and Abercarn'). Bu farw 27 Ebrill 1867. Bu'n dadlau'n gryf gyda'r esgob Connop Thirlwall ar stad yr eglwys yn esgobaeth Tyddewi gan amdiffyn hawl pobl Cymru i gael gwasanaethau crefyddol yn eu hiaith eu hunain.

Eithr y mae ei wraig, yr arglwyddes Llanover , yn fwy pwysig yn hanes Cymru nag ydyw ef. Ganed AUGUSTA WADDINGTON ar 21 Mawrth 1802, yn ferch iau Benjamin Waddington, Ty Uchaf, Llanover, a Georgina Port, gor-nith Mrs. Delaney. Pan briodwyd Augusta Waddington a Benjamin Hall unwyd dwy stad gyfagos - Llanover ac Abercarn. Yr oedd ei chwaer hi wedi priodi y barwn Bunsen (a fu'n llysgennad yr Almaen ym Mhrydain yn ddiweddarach) ac felly yn byw ymysg pobl yn cymryd diddordeb mewn astudiaethau Celtaidd. Yn 1834, mewn eisteddfod yng Nghaerdydd, enillodd Augusta wobr am draethawd ar yr iaith Gymraeg, a thua'r adeg hon mabwysiadodd yr enw barddol, ' Gwenynen Gwent.' O dan ddylanwad Thomas Price ('Carnhuanawc') daeth yn aelod cynnar o Gymreigyddion y Fenni. Er mai ychydig o Gymraeg a siaradai hi fe drefnodd ei chartre ar linellau Cymreig a rhoes deitlau Cymraeg i'w gwasanaethyddion. Yr oedd yn noddwr i'r 'Welsh Manuscripts Society' ac i'r 'Welsh Collegiate Institution,' Llanymddyfri. Prynodd lawysgrifau Edward Williams ('Iolo Morganwg') gan ei fab Taliesin Williams ('ab Iolo') - y maent bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu'n cyd-weithio â Maria Jane Williams, Aberpergwm, a Brinley Richards, yn y gwaith o gasglu alawon gwerin Cymru; rhoes hefyd gymorth ariannol i'r canon D. Silvan Evans gyda'i eiriadur mawr. Yr oedd iddi ddau ddiddordeb arall - yr achos dirwestol a Phrotestaniaeth bybyr. Gwaddolodd ddwy eglwys Bresbyteraidd - capel Rhyd y Meirch ac Abercarn - lle yr oedd y gwasanaeth i fod yn Gymraeg. Golygodd, mewn chwe chyfrol, The Autobiography and Correspondence of … Mrs. Delaney (cyhoeddwyd yn 1861 a 1862), cyhoeddodd gymysgfa o'r enw Good Cookery … and Recipes communicated by the Hermit of the Cell of St. Gover … 1867, gyda darluniau wedi eu gwneuthur ganddi hi ei hunan, ac, yn fwy pwysig o'r safbwynt Gymreig, gasgliad o ddarluniau lliw o wisgoedd merched yn rhai o siroedd Cymru (c. 1843). Yr oedd wedi goroesi ei gŵr am dros 28 mlynedd pan fu farw 17 Ionawr 1896.

Yr unig blentyn o'r briodas a fu byw ydoedd Augusta, a briododd 12 Tachwedd 1846, Arthur Jones, Llanarth, aelod o hen deulu Pabyddol a fabwysiadodd y cyfenw Herbert yn ddiweddarach. Daeth eu mab hwy, Major General Syr IVOR CARADOC HERBERT (1851 - 1934), yn arglwydd Treowen yn 1917. Efe a drosglwyddodd y Llanover MSS. i'r Llyfrgell Genedlaethol (yn 1916).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.