Fe wnaethoch chi chwilio am nicander
aelod o deulu hynod ddiddorol yn herwydd ei gysylltiadau â Mudiad Rhydychen. Enw ei dad oedd EVAN LEWIS, o Lanilar (un o deulu tiriog Lewisiaid Dinas Cerdin). Yr oedd gan hwnnw frawd hŷn, DAVID LEWIS (1778 - 1859), a aned yn Llanddeiniol (Ceredigion), ac a aeth o ysgol Ystrad Meurig i Magdalen Hall, Rhydychen (1807), lle y graddiodd yn 1812 (cymerth radd D.D. yn 1826); bu'n gwasnaethu plwyfi yn Llundain, ac wedyn yn cadw ysgol ramadeg yn Twickenham, lle y bu farw 4 Ionawr 1859 (' Glan Menai,' Enwogion Sir Aberteifi). Mab hynaf yr Evan Lewis a enwyd oedd DAVID LEWIS (1814 - 1895), clerigwr yn Eglwys Loegr ac wedyn yn Eglwys Rufain. Aeth ef i Goleg Iesu, Rhydychen, ym Mawrth 1834, yn 19 oed; graddiodd yn 1837; bu'n gymrawd o'r coleg (1839-46), yn ddeon (1843), ac yn is-brifathro (1845-6). Ond yr oedd hefyd yn gurad i Newman yn Eglwys Fair, ac aeth drosodd gydag ef i Eglwys Rufain (1846) a chael urddau ynddi. Ymdaflodd i astudiaethau ar y gyfraith ganonaidd ac ar fucheddau'r seintiau; ac o 1860 hyd ei farwolaeth, yn 1895, preswyliai yn Arundel.
Â'i frawd iau, Evan Lewis, y bydd a fynno'r gweddill o'r nodiadau hyn. Fe'i ganwyd (wedi marw ei dad) 18 Tachwedd 1818. Bu yn Ystrad Meurig, yna mewn ysgol yn Aberystwyth, ac yn ddiwethaf yn ysgol ei ewythr David (uchod) yn Twickenham. Yn Ebrill 1838 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen; graddiodd yn 1841; yn nyddiau ei goleg, yr oedd yn rhwyfwr nodedig, a than ei gapteiniaeth ef yr aeth cwch y coleg yn 'ben yr afon.' Urddwyd ef gan esgob Bangor (Bethell) yn 1842. Cafodd guradiaethau yn Llanddeusant (Môn), 1842-3; Llanfaes a Phenmon, 1843-5; Llanfihangel Ysgeifiog, 1845-6; a Llanllechid, dan J. H. Cotton, lle y bu o 1847 hyd 1859 - merch i Cotton oedd ei wraig gyntaf. Yn 1859, cafodd ficeriaeth bwysig Aberdâr, a bu yno hyd 1866, pan roddwyd iddo reithoraeth Dolgellau. Codwyd ef yn ddeon Bangor yn 1884 a bu farw yno 24 Tachwedd 1901; claddwyd yn Llandygai. Yr oedd Evan Lewis yn un o ffigurau pwysicaf ei esgobaeth, bron ar hyd ei yrfa faith. Gyda chefnogaeth yr esgob Bethell - yr unig esgob Cymreig ar y pryd a gymeradwyai'r Mudiad Tractaraidd - ac yng nghwmni gŵr fel Morris Williams ('Nicander') a Griffith Arthur Jones a Philip Constable Ellis, ymdrechodd yn egnïol ac yn llwyddiannus i ledaenu egwyddorion ac arferion Mudiad Rhydychen yn esgobaeth Bangor. Yn Llanllechid, diddymodd yr hen arfer yno o ganu emynau yn lle'r ' Te Deum ' a'r ' Magnificat,' mynnodd gael llafar-ganu i mewn i'r moddion, a chychwynnodd draddodiad o ganu corawl - yn yr un modd, yn Nolgellau, mynnodd le i'r siant 'Gregoraidd.' Pan nad oedd eto ond curad, bu'n dadlau'n frwd ('Dadl Bangor') mewn anerchiadau ac ysgrifau ym mhlaid egwyddorion ' Catholig,' yn erbyn Ymneilltuwyr fel John Phillips a William Davies; un o ffrwythau'r ddadl oedd ei lyfr, 1851, Yr Olyniaeth Apostolaidd. Darllenodd bapur ar ' Yr Eglwys yng Nghymru ' yng nghynhadledd eglwysig Abertawe, 1879. Yr oedd yn Gymreigiwr pybyr; cododd eglwys Gymraeg yn Aberdâr, a chyfieithodd nifer o emynau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.