MORGAN, RHYS (c. 1700 - c. 1775), bardd

Enw: Rhys Morgan
Dyddiad geni: c. 1700
Dyddiad marw: c. 1775
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

a oedd yn byw yn ffermdy Pencraig-nedd ym mhlwyf Llangatwg yng Nglyn Nedd. Y mae'n bosibl, er na ellir profi hynny'n bendant, ei fod yn un o ddisgynyddion Tomas Llywelyn o Rigos. Dywaid ' Iolo Morganwg ' ei fod yn saer, yn wehydd, yn delynor, ac yn bregethwr gyda'r Ymneilltuwyr. Y mae'n weddol sicr ei fod yn aelod yn yr ' Hen Dŷ Cwrdd ' ym Mlaengwrach. Digwydd enw dau ' Rees Morgan ' ymhlith yr aelodau yn 1734, y naill yn henuriad a'r llall yn ddiacon. Ond fel bardd yr enillodd ei le yn hanes Morgannwg. Diau ei hyfforddi yn y gelfyddyd farddol gan rai o ddisgyblion Edward Dafydd o Fargam, ond y gŵr a gafodd fwyaf o ddylanwad arno, yn ôl pob tebyg, ydoedd Dafydd Lewys o Lanllawddog, ficer Llangatwg o 1718 hyd 1727, gŵr a adwaenai 'Iaco ab Dewi' a Moses Williams. Felly y daeth Rhys Morgan i gysylltiad â dilynwyr Edward Lhuyd, a dyna un eglurhad ar yr adfywiad barddol a welwyd ym Mlaenau Morgannwg yn hanner cyntaf y 18fed ganrif. Daeth hefyd i gysylltiad â Sion Rhydderch, a hyn, yn ddiau, a barodd iddo ef a'i gymheiriaid ddechrau cynnal eisteddfodau tebyg i'r rhai a drefnid yn y Gogledd. Gyrrai ei waith i'r almanaciau. Ymroes i feistroli gramadeg y beirdd, a phan chwiliai Siôn Rhydderch am awdl enghreifftiol o waith bardd cyfoes i'w chynnwys yn ei Ramadeg, 1728, fe'i cafodd gan Rys Morgan. Er hynny, ychydig o'i gynhyrchion sydd ar glawr, ac nid oes ryw lawer iawn o gamp arnynt; ond eto, y mae Rhys Morgan yn ffigur gweddol bwysig yn hanes yr adfywiad llenyddol ym Morgannwg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.