Fe wnaethoch chi chwilio am nicander

Canlyniadau

OWEN, ELLIS (1789-1868), amaethwr, hynafiaethydd, a bardd

Enw: Ellis Owen
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1868
Rhiant: Ann Owen (née Thomas)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: amaethwr, hynafiaethydd, a bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: William Rowlands

Ganwyd yn Cefn-y-meysydd Isaf, plwyf Ynyscynhaearn, Eifionydd, Sir Gaernarfon, 31 Mawrth 1789. Yr oedd yn ddibriod, a threuliodd ei oes yng Nghefn-y-meysydd gyda'i fam a'i chwiorydd. Bu farw 27 Ionawr 1868 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Ynyscynhaearn, ger Pentrefelin, 31 Ionawr. Addysgwyd ef gyntaf mewn ysgol a gynhelid yn eglwys Penmorfa; yr oedd David Owen ('Dewi Wyn') yn gyd-ysgolor ag ef. Wedyn anfonwyd ef i ysgol yn Amwythig i ddysgu Saesneg, a threuliodd weddill ei oes fel amaethwr yng Nghefn-y-meysydd. Llanwai lawer o fân swyddau yn ei ardal, megis warden yr eglwys, arolygydd pwysau a mesur dros y sir, llywydd ac ysgrifennydd ysgolion Sul Methodistiaid Calfinaidd Lleyn ac Eifionydd, ysgrifennydd Cymdeithas y Beiblau yn nosbarth Tremadog, ac amryw gymdeithasau eraill. Fel hynafiaethydd cymerai ddiddordeb mawr yn hanes ei ardal a'i sir, ac ysgrifennodd lawer i gylchgronau, fel Seren Gomer, Y Drysorfa, Y Gwladgarwr, a'r Brython (Tremadog). Edrychid i fyny ato yn ei ddydd fel beirniad llenyddol a hynafiaethydd, a'r flwyddyn y bu farw etholwyd ef yn F.S.A. Yn ei oes ef yr oedd Eifionydd yn enwog am ei beirdd a'i llenorion, ac yn 1846 sefydlodd Ellis Owen Gymdeithas Lenyddol Eifionydd yng Nghefn-y-meysydd er hyrwyddo diwylliant ei ardal. Bu cryn fri ar hon am tua 12 mlynedd, ac yno casglai amaethwyr ieuainc y fro at ei gilydd i drafod pynciau llenyddol ac addysgol dan arweiniad Ellis Owen. Ysgrifennydd cyntaf y gymdeithas oedd Thomas Jones, Cefn-y-meysydd Uchaf, a fu'n weinidog ar eglwys Tabor (A.), Pentrefelin, a byddai beirdd fel Ebenezer Thomas ('Eben Fardd'), ' Dewi Wyn,' Morris Williams ('Nicander'), yn ymweld â'r gymdeithas yn fynych. Ystyrid Ellis Owen yn feirniad craff hefyd, a bu'n gydfeirniad ag Evan Evans ('Ieuan Glan Geirionydd') ar awdl y gadair yn eisteddfod Gordofigion Lerpwl, 1840, pan enillodd 'Eben Fardd' ar yr awdl 'Job'; yr oedd yn un o ysgrifenyddion eisteddfod Tremadog yn 1851. Fel bardd nid oedd mor enwog â'i gyfoedion 'Dewi Wyn' a Robert Williams ('Robert ap Gwilym Ddu '), ond cyfansoddodd lawer o englynion a cherddi byrion, a lluniodd ugeiniau o englynion-beddargraff ar gais ei gyfeillion ac ardalwyr Eifionydd. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth a'i ysgrifau o dan y teitl Cell Meudwy gan ei gyfaill Robert Isaac Jones ('Alltud Eifion') yn Nhremadog yn 1877. Y mae amryw o'i lawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Yr oedd ei fam, Anne (Thomas), yn chwaer i'r hynafiaethwyr John Thomas (1736 - 1769) a Richard Thomas (1753 - 1780); gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 359.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.