Ei enw ef yn sicr yw hwnnw a geir yn llyfrau achau Robert Vaughan o'r Hengwrt ac Edward ap Roger o Riwabon - Meredudd ap Rhys a briododd Angharad ferch Madog ap Robert o Gristionydd ym mhlwyf Rhiwabon. Olrheinir ei ach i Rys Sais a Thudur Trefor. Mewn llawysgrifau eraill cysylltir ei hendaid Madog Llwyd â'r Plas yn Nanheudwy ', cyndadau llawer o deuluoedd bonheddig yn y Maelorau a'r Mars : Meredudd ap Rhys ap Gruffudd ap Madog Llwyd [ap Gruffudd] ab Iorwerth Foel ab Iorwerth Fychan ab Iorwerth Hen … ap Rhys Sais … ap Tudur Trefor, cyndadau llawer o deuluoedd bonheddig hen daid Madog Llwyd â'r Plas yn Nanheudwy, a'i dad Rhys ap Gruffudd â phlas Halchdun - Halchdun Swydd y Waun yn ddiau. Ond yn Rhiwabon yng nghwmwd Maelor Gymraeg y trigai Meredudd. Efe oedd offeiriad y plwyf hwnnw - yn 1430 yn ôl hanesydd esgobaeth Llanelwy ond nid ydys wedi taro ar ddim tystiolaeth arall sydd yn ei osod yn ei ficeriaeth mor gynnar yn y ganrif. Nodir hefyd ei fod yn rheithor Meifod ac yn rheithor y Y Trallwng yn 1450 y ddwy reithoraeth yn segur-swyddi yn ôl pob tebyg.
Cafodd Meredudd oes hir. Yr oedd yn fyw yn 1483 pryd y canodd farwnad i'r brenin Edward IV. Ac yn y cyfnod hwn, rywbryd yn wyth degau'r ganrif ond odid, y cyhuddir ef gan Guto'r Glyn o genfigennu wrtho a chwenychu ei le yn abaty Glyn y Groes, lle y cartrefai yn ei henaint gyda'r abad Dafydd. Diau na byddem ymhell o'n lle pe gosodem gyfnod ei weithgarwch fel 1440-50 hyd 1485.
Enillodd Meredudd ap Rhys fri i'w enw am ei weithiau barddonol, ac am ei waith fel athro beirdd. Efe a fu'n hyfforddi Dafydd ab Edmwnd yn y gerdd dafod - y gwr a ddaeth yn ben awdurdod ar y mesurau caethion ac ar y gynghanedd yn y 15fed ganrif. Y mae 21 o gywyddau dilys o'i eiddo yn aros ynghadw yn y llawysgrifau - yn gywyddau serch a natur, yn gywyddau personol a chymdeithasol, yn gywyddau brud, a chywyddau i Dduw a Mair, ond rhyw bump yn unig sydd hyd yn hyn wedi eu hargraffu. Yr oedd yn wr o ddychymyg byw, a dengys ei gywyddau serch ffansi gyffelyb i'r eiddo ei ddisgybl enwog yn ei ganu serch yntau. Darllenasai lawer o waith y beirdd a'i rhagflaenodd. Gwelodd fawredd Dafydd ap Gwilym, a chanodd yntau fel y meistr gywydd i'r gwynt - cywydd sy'n enghraifft orchestol o'i gelfyddyd ar ei gwychaf. Cynhyrfwyd ei awen hefyd i ganu cywyddau telynegol o golli cymdeithas dau gyfaill o offeiriaid, lle ceir gogan i'r gaeaf a fu'n rhwystr i'r gyfeillach, a mawl i'r gwanwyn a fyddai'n hwylustod iddi.
Y mae cryn gamp ar ei gywyddau dyfalu, megis hwnnw i ddyfalu'r corwgl - sy'n llawn digrifwch ac arabedd. Cywydd rhagorol hefyd yw hwnnw i ofyn rhwyd bysgota - esiampl o'r cywydd gofyn ar ei orau. Hoffai Meredudd hela'r pysgod yn afon Alun, ac o ran ei hoffter o'r dyfroedd fe'i cymharai ei hun â Madog ab Owain Gwynedd 'na fynnai dir na da mawr ond y moroedd.' Dyma'r geiriau a gamddefnyddiwyd mor ddybryd gan Theophilus Evans yn Nrych y Prif Oesoedd fel ateg i'r traddodiad a honnai ddarganfod o Fadog America yn y 12fed ganrif.
Ac y mae Meredudd ap Rhys i'w rifo ymysg brudwyr y 15fed ganrif. Dug dystiolaeth i'r byd caled a'r amserau dyrys a ddaeth i ran y Cymry yn y cyfnod. Tueddai weithiau i amau dysgeidiaeth y llyfr brud y deuai tro ar fyd. Yr oedd wedi diflasu ar yr elyniaeth oesol a oedd yn bodoli: yr oedd anllywodraeth ar bob llaw, ac arglwyddi gwlad yn colli eu bywydau beunydd. Canodd am ansicrwydd bywyd, ond daliodd i obeithio yn y diwedd. Rhoes fawl i'r brenin Edward IV am y tybiai y medrai hwnnw roddi pen ar y terfysg a chadw'r heddwch. Marwnadodd ar ei ôl hefyd, canys onid oedd rhyw ychydig o waed y tywysogion Cymreig yn ei wythiennau, ac yntau'n hanfod o Gwladus Ddu, merch Llywelyn Fawr ?
Fel y gallesid disgwyl ceir gan Feredudd amryw gywyddau crefyddol. Ceisiodd ddysgu ar gân am Dduw fel Creawdwr y byd, am ddioddefaint Crist, ac am eiriolaeth Mair y Forwyn. Yr oedd yn gadarn ei gred yng ngallu gwyrthiol y delwau a'r creiriau a addolid yn yr eglwysi, canys tystia am y feddyginiaeth a gafodd i'r gwayw yn ei glun trwy firagl y Ddelw Fyw yn Eglwys y Grog yng Nghaerlleon : a dywed yr adferid eu clyw i'r byddariaid yno, a bod y mudion yn dywedyd, y deillion yn gweled, a'r meirw yn cyfodi. Rhybuddiodd ei bobl rhag cybydd-dod a balchder, rhag gwanc am dir a chyfoeth, ac anogodd hwynt i barchu Duw a rhoddi cardod i dlawd er ennill nef i'w henaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.