Ganwyd D. Myrddin Lloyd ar 15 Ebrill 1909 yn 399 Heol Ganol, Fforest-fach (y Gendros), Abertawe, yr hynaf o ddau fab William Henry Lloyd, saer coed o Gaerfyrddin, a'i wraig Eleanor a oedd yn ferch i'r Parchg. David Davies, sef Dafi Dafis Rhydcymerau (1814-1891), y pregethwr adnabyddus hynod a ffraeth yr etifeddodd ei ŵyr lawer o nodweddion ei gymeriad.
Derbyniodd Myrddin Lloyd ei addysg yn ysgol ramadeg Abertawe ac yna yng Ngholeg Prifysgol Abertawe lle y graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1929. Yn Abertawe hefyd dilynodd gyrsiau mewn athroniaeth a dechrau magu diddordeb mewn maes y bu'n efrydu ynddo gydol ei fywyd. Enillodd radd MA ymchwil yn 1932 am draethawd nodedig ac arloesol ar farddoniaeth Cynddelw Brydydd Mawr o ran iaith a'i gwerth llenyddol. Yr oedd yn un o'r trafodaethau modern cyntaf nid yn gymaint ar iaith y beirdd llys ond ar arddull a syniadaeth eu cerddi. Yr oedd hyn cyn cyhoeddi golygiadau o fawr ddim o waith y Gogynfeirdd, fel yr oedd meistrolaeth Myrddin Lloyd ar iaith, mydryddiaeth ac arddull y beirdd, a Chynddelw ymhlith y mwyaf rhwysgfawr ohonynt oll, yn gryn orchest. Cyhoeddwyd peth o'i ymchwil yn Y Llenor, xi, xiii (1932, 1934), Études celtiques, 5 (1949) a nodiadau yn Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn 1932, 1933 ond yr oedd yn dal i gyhoeddi adolygiadau a gwaith newydd yn y maes yn y 1950au a'r 1960au yn Llên Cymru, 1 (1951), Studia Celtica, 3 (1967) ac yn fwyaf arbennig yn ei Ddarlith Goffa G. J. Williams, Rhai agweddau ar ddysg y Gogynfeirdd (1971) a'i erthyglau ar y beirdd llys unigol yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940.
Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn yn 1931 ac eto, wedi'i ethol i Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru, yn 1932-34 yn dilyn cyrsiau mewn Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Fodern. Gweler yr hanes a ysgrifennodd yn Heddiw, 3 (Mehefin 1939). Daliodd ei afael sicr ar yr iaith Wyddeleg a pharhaodd ei astudiaeth o'i llenyddiaeth a'i gariad ati weddill ei fywyd. Yn 1934 cyhoeddodd ar y cyd â Tomás Ó Cléirigh Pádraic Ó Conaire, Ystoriau byr o'r Wyddeleg. Bu'n diwtor dosbarthiadau allanol ym Morgannwg am gyfnod byr wedi dychwelyd i Gymru o Iwerddon ond penodwyd ef i swydd Cynorthwyydd yn adran y llyfrau printiedig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Ebrill 1935. Priododd Elizabeth Mary (May) Williams o Gaerdydd yn 1939 a bu un ferch o'r briodas.
Yn genedlaetholwr a heddychwr o argyhoeddiad, yn ystod Rhyfel Byd II gwasanaethodd yn y gwasanaeth tân yn Abertawe ac yna yn y swyddfa ym Mae Colwyn. Dychwelydodd i'r Llyfrgell ar derfyn y rhyfel, er iddo gael cynnig swydd yn Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Caerdydd. Cafodd ei ddyrchafu'n Ddirprwy Geidwad ac yn Geidwad Cynorthwyol yn adran y llyfrau printiedig, a bu'n gyfrifol am rai arddangosfeydd nodedig.
Yn 1953 penodwyd ef yn Geidwad llyfrau printiedig Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin, lle y bu iddo ran bwysig yn natblygiad y Llyfrgell ganol yr 20fed ganrif. Achubodd ar y cyfle a roddodd agor adeilad newydd yn 1956 a'r cynnydd mewn adnoddau cyllidol i sefydlu adrannau newydd i fapiau a cherddoriaeth a datblygu'r casgliadau hanesyddol mewn modd arwyddocaol. Dan ei arweiniad ef closiodd y Llyfrgell Genedlaethol at lyfrgelloedd eraill yr Alban a chydnabyddiaeth o hynny oedd ei ethol yn Llywydd Cymdeithas y Llyfrgelloedd yn yr Alban yn 1972. Ymdaflodd Myrddin Lloyd i bob agwedd o fywyd Cymraeg Caeredin, ac ymdrwythodd hefyd ym mywyd a diwylliant Gaeleg yr Ucheldir a'r Ynysoedd.
Ymddeolodd o'i swydd yn 1974 a dychwelodd i Aberystwyth gan ailymuno'n llawn yn yr hen gymdeithas yn y dref ac ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru. Yn ogystal ag ennill safle yn un o arweinwyr ei broffesiwn yr oedd Myrddin Lloyd yn ysgolhaig eang ei ddiwylliant ac yn feirniad llên gwybodus ym mhob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Y mae'r detholiad a olygodd gyda'i wraig yn A Book of Wales (1953) yn arwydd eglur o'u chwaeth a'u barn. Dechreuodd gyhoeddi erthyglau safonol ac adolygiadau yn Y Llenor a'r Efrydydd pan oedd yn fyfyriwr ymchwil yn y 1930au ac y mae amrywiaeth pynciau'r llif a ddilynodd yn Heddiw, Yr Athro, Llên Cymru, Cylchgrawn y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig, Efrydiau Athronyddol, cyfres Pamffledi Heddychwyr Cymru, ac amrywiol symposia hyd ei farw annhymig, yn rhyfeddol: gwleidyddiaeth a syniadau gwleidyddol, heddychiaeth, y beirdd llys a'r cywyddwyr, llenyddiaeth Fethodistaidd a Williams Pantycelyn yn arbennig, Kate Roberts, golygiad o Atgofion am Sirhowy a'r Cylch Myfyr Wyn (1961). Ond y gwaith a lwyddodd i arddangos ehangder dysg ac aeddfedrwydd diddordebau Myrddin Lloyd orau oedd tair cyfrol ei ddetholiad o erthyglau a llythyrau Emrys ap Iwan ynghyd â'i drafodaethau arnynt yn 1937, 1939, 1940 a'i fonograff yn y gyfres Writers of Wales (1979). Y rhain efallai yw gwaith pwysicaf Myrddin Lloyd, yn gyfraniad allweddol i'r ymwybod cyfoes o le Emrys ap Iwan yn y cysyniad o genedlaetholdeb Cymru.
Cyhoeddodd erthyglau yn Cylchgrawn y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig ar 'The Irish Gaelic and Welsh Printed Book' (1948), 'Llyfryddiaeth Gymraeg' (1948), 'Four centuries of Welsh printed literature; an exhibition' (1947; cyhoeddwyd catalog Cymraeg yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1947) ac ar gyhoeddi yn Iwerddon (1936). Yn Efrydiau Athronyddol 1939 a 1940 cafwyd astudiaeth gynhwysfawr o Søren Kierkegaard, un o'r rhai cynharaf yn y Gymraeg, a dilynwyd hon gan nifer o adolygiadau ac erthyglau eraill gan gynnwys 'Y ddirfodaeth gyfoes yn Ffrainc' (1948), 'Meddwl Cymru yn y Canol Oesoedd' (1950) - ymddangosodd ei ddwy drafodaeth o dair cyfrol Edgar de Bruyne, Études d'ésthétique médiévale, yn Llên Cymru 1 yn 1950-51 - a 'Cymru ac Ewrop' (1964). Yr oedd yn hyddysg yn llên a diwylliant Ffrainc a'r Almaen a derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru trwy ei ewyllys ei gasgliad mawr o lyfrau Rwmaneg a llyfrau yn ymdrin â hanes, iaith a llên Rwmania. Yr oedd yn gyfieithydd medrus ac ef oedd y dewis naturiol i fod yn olygydd O erddi eraill (1961) yng nghyfres cyfiethiadau barddoniaeth yr Academi Gymreig.
Casglodd a golygodd waith ei frawd, Emynau a cherddi Islwyn Lloyd (Abertawe, 1977). Yr oedd Islwyn Lloyd (1916-1974) yn athro ysgol diwylliedig ac fel Myrddin yn genedlaetholwr pybyr er i'w heddychiaeth gael ei ysigo gan y rhyfeloedd a ddilynodd Ryfel Byd II. Gweler y rhagymadrodd onest a chytbwys i'r gyfrol, a hefyd werthfawrogiad J. Gwyn Griffiths o gyfraniad Islwyn Lloyd yn Y Goleuad 4 Medi 1974.
Bu Myrddin Lloyd yn is-ysgrifennydd y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig 1946-53 ac yn olygydd ei Chylchgrawn 1950-53, yn aelod o banel golygyddol (ac yn is-olygydd) Efrydiau Athronyddol 1948-70, ac yn llywydd adran athronyddol Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru, yn 1962-63. Gweithiodd yn ddiarbed yn enwedig yn y cylchoedd academaidd (yr oedd yn arholydd allanol tra manwl yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru yn y 1970au) a daliodd ati i gyhoeddi a darlithio er gwaethaf trawiad ar y galon yn 1975. Yr oedd Myrddin Lloyd yn ŵr ag argyhoeddiadau cadarn, ac fel ei frawd yr oedd difrifwch dwfn yn ei ymagwedd at fywyd a'i grefydd. Ond i fwy graddau nag Islwyn, cuddiai Myrddin yr ochr hon i'w gymeriad ac yn gyhoeddus yr oedd yn gwmnïwr hwyliog a chanddo ystôr dihysbydd o straeon doniol a ddiweddai yn ddi-ffael â slap ar ei glun a'r argae heintus o chwerthin yn torri dros y lle.
Bu Myrddin Lloyd farw'n annisgwyl 17 Awst 1981 yn 72 oed ym Morlaix, Llydaw tra oedd ef a'i wraig gyda grŵp o gyfeillion o Aberystwyth ar ymweliad â'r wlad. Bu'r gwasanaeth angladd yng nghapel Seilo Aberystwyth 26 Awst ac yna yn amlosgfa Treforys.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-10-14
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.