Fe wnaethoch chi chwilio am dafydd ap gwilym
Yr oedd Dafydd ap Gwilym yn fab i Wilym Gam ap Gwilym ab Einion Fawr o'r Tywyn ap Gwilym ap Gwrwared ap Gwilym ap Gwrwared Gerdd Gymell ap Cuhelyn Fardd. Enw ei fam oedd Ardudful, ac mae'n bosibl mai brawd iddi hi oedd y Llywelyn ap Gwilym ap Rhys ap Llywelyn ab Ednyfed Fychan a alwyd yn ewythr gan y bardd. Yr oedd hynafiaid Dafydd yn uchelwyr llewyrchus a fu'n gwasanaethu arglwyddi Normanaidd yn y de-orllewin, a theulu Fitzmartin yn arglwyddiaeth Cemais yn enwedig, ers y ddeuddegfed ganrif, ac awgryma rhai o'r enwau eu bod yn noddwyr beirdd a hyd yn oed yn medru'r gelfyddyd farddol eu hunain.
Plwyf Llanbadarn Fawr yng ngogledd Ceredigion oedd cynefin Dafydd, ac yn ôl traddodiad fe'i ganwyd mewn tŷ o'r enw Brogynin ger Penrhyn-coch. Dengys rhai o'i gerddi gynefindra manwl â'r ardal honno, ac mewn un mae'n ei ddarlunio ei hun yn llygadu'r merched yn eglwys y plwyf. Roedd ganddo gysylltiadau teuluol âde Ceredigion hefyd, ac mae'n bosibl iddo dreulio cyfnod ar faeth yng nghartref ei ewythr, Llywelyn ap Gwilym, gŵr o gryn ddylanwad a fu'n gwnstabl Castellnewydd Emlyn. Mewn marwnad angerddol i Lywelyn pan gafodd ei lofruddio soniodd Dafydd amdano fel 'prydydd' ac 'ieithydd', a dichon i Ddafydd ddysgu crefft cerdd dafod ganddo. Lle arall y gallai Dafydd fod wedi cael peth addysg yw Abaty Ystrad-fflur. Mae traddodiad cryf bod bedd Dafydd ap Gwilym dan un o'r coed yw ym mynwent Ystrad-fflur, ond y brif dystiolaeth dros y traddodiad hwnnw yw cywydd gan ei gyfoeswr Gruffudd Gryg yn cyfarch yr ywen, a dylid cofio am arfer beirdd y cyfnod hwnnw o ganu ffug-farwnadau a'r gwrthrych yn dal yn fyw. Lle arall sy'n hawlio ei fedd, ond ar sail tystiolaeth dipyn gwannach, yw Abaty Talyllychau yn Sir Gaerfyrddin.
Dengys cerddi mawl Dafydd ap Gwilym fod ganddo noddwyr mewn sawl rhan o Gymru a'i fod yn arfer teithio ar hyd a lled y wlad. Byddai galw mawr am gael clywed ei ganu serch, ac mae'n berffaith bosibl ei fod wedi ennill ei fywoliaeth fel bardd wrth ei broffes fel llawer o'i gyfoeswyr. Ei noddwyr pwysicaf yng Ngheredigion oedd teulu Glyn Aeron, llys a fu'n ganolbwynt i fwrlwm o weithgarwch llenyddol newydd. Canodd Dafydd awdl farwnad i Angharad, gwraig Ieuan Llwyd, a ffug-farwnad i'w mab Rhydderch. Ac mewn llyfr a fu ym meddiant y teulu, Llawysgrif Hendregadredd (casgliad o gerddi Beirdd y Tywysogion a luniwyd yn ôl pob tebyg yn Ystrad-fflur), ceir copi o englynion Dafydd i'r Grog yng Nghaerfyrddin. Mae'n dra phosibl mai copi yn llaw'r bardd ei hun yw hwn, ac yma y ceir y ffurf lawnaf ar ei enw, Dafydd Llwyd fab Gwilym Gam.
Bu Dafydd yn clera yng Ngwynedd yn ogystal, fel y dengys cerddi mawl ganddo i Ddeon Bangor ac i dref Niwbwrch ym Môn. Lleolir un o'i gerddi digrif yn Niwbwrch hefyd, a sonia mewn cerdd arall am y profiad ysgytwol o weld merch brydferth yng Nghadeirlan Bangor. Ond uchelwr o Forgannwg oedd ei noddwr enwocaf, sef Ifor ap Llywelyn o Fasaleg, gŵr y rhoddodd Dafydd yr enw Ifor Hael arno. Mewn saith o gerddi dyfeisgar i Ifor mae Dafydd yn darlunio cyfeillgarwch arbennig rhwng y ddau, a daeth Ifor Hael yn batrwm o noddwr i feirdd diweddarach.
Prin yw'r dystiolaeth dros ddyddiadau einioes Dafydd ap Gwilym. Mae'r ychydig gyfeiriadau yn y cerddi y gellir eu dyddio o gwbl yn crynhoi yn y 1340au. Mae gennym dystiolaeth Iolo Goch yn ei farwnad i Ddafydd mai byr oedd ei fywyd, ac nid yw'r darluniau o'r bardd yn ei henaint mewn ambell gerdd yn groes i hyn o reidrwydd, gan fod modd eu hesbonio fel ffrwyth direidi neu ddychymyg byw. Rhesymol, felly, yw tybio i Ddafydd farw tua 1350, a gosod dyddiad ei eni oddeutu 1315, fel y cynigiodd R. Geraint Gruffydd. Ond rhaid cyfaddef ei bod yn bosibl iddo fyw tan tua 1360 neu hyd yn oed yn ddiweddarach.
Yr oedd Dafydd ap Gwilym yn un o nifer o feirdd a fu'n canu ar fesur newydd y cywydd yn ail chwarter y 14eg ganrif. Ei gyfoeswyr amlycaf oedd Madog Benfras, Gruffudd Gryg, Gruffudd ab Adda, Iorwerth ab y Cyriog ac Iolo Goch. Er bod y rhain i gyd yn arddangos yr un doniau creadigol ym maes y canu serch a natur, mae llawer mwy o gerddi wedi goroesi o waith Dafydd na'r un o'i gymheiriaid, sef yn agos i gant a hanner, a theg yw casglu mai ef oedd yn bennaf cyfrifol am boblogeiddio'r cywydd, ac efallai hefyd ei gymhwyso'n gyfrwng ar gyfer canu mawl yn ei bedwar cywydd i Ifor Hael. Mae nifer o gerddi cellweirus yn tystio i gyfeillgarwch clòs rhwng y beirdd hyn, ond mwy difrifol yw'r wyth cywydd ymryson rhwng Dafydd a Gruffudd Gryg lle mae'r bardd o Fôn yn collfarnu defnydd Dafydd o ystrydebau gormodieithol serch cwrtais. Er gwaethaf safbwynt traddodiadol Gruffudd Gryg ar y pwnc hwn, roedd confensiynau llenyddol Ewropeaidd yn hen gyfarwydd yng Nghymru erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, fel y tystia'r defnydd creadigol a wnaeth Dafydd ap Gwilym ohonynt.
Er bod rhai cerddi mawl a pheth canu crefyddol cywrain ganddo, serch oedd prif bwnc Dafydd ap Gwilym. Gan fod caru'n rhydd yn y goedwig yn thema lenyddol boblogaidd yn y cyfnod, mae byd natur yn cael llawer o sylw yn ei waith hefyd fel cefnlen ddelfrydol i'w anturiaethau. Dathlodd yr haf fel tymor i garu a'r deildy fel y lle perffaith i'r cariadon ddod ynghyd. Rhai o'i gerddi mwyaf deniadol yw'r cerddi llatai sy'n anfon creadur o fyd natur yn negesydd at ei gariad, gan ei ddisgrifio'n fanwl drwy dechneg 'dyfalu', sef cyfres o gymariaethau dychmygus lle gwelir sylwgarwch a dyfeisgarwch y bardd ar eu mwyaf trawiadol. Ond mae byd natur yn amharu ar y garwriaeth weithiau, a gwelir y bardd yn bwrw ei lid ar rwystrau fel y niwl neu'r lleuad lawn ac yn cwyno am ddiflastod tymor y gaeaf. Roedd deuoliaeth yn hanfodol i weledigaeth Dafydd ap Gwilym ar fywyd, ac un o'i ddoniau mawr fel bardd oedd ei allu i ganfod deunydd i'w awen mewn pynciau negyddol. Ei ymwybyddiaeth o fyrhoedledd a breuder harddwch a ysbrydolodd rai o'i gerddi mwyaf ingol fel 'Yr Adfail'. Ac er bod ei ganu serch yn mawrygu godineb a thor priodas, nid oes rheswm i amau diffuantrwydd ei honiad cyson bod serch cnawdol yn fendithiol yng ngolwg Duw.
Adroddir y rhan fwyaf o gerddi Dafydd yn y person cyntaf ac mewn dulliau dramatig, a cheir argraff gref o bersonoliaeth y bardd, ond camgymeriad fyddai tybio bod y cwbl yn ffrwyth profiad personol. Gellir adnabod sawl persona yn ei waith a'i weld yn chwarae rôl i ddifyrru ei gynulleidfa, megis y merchetwr cyfrwys sy'n llwyddo i ddwyn gwraig ifanc y Gŵr Eiddig, ac ar y llaw arall y carwr selog ond trwsgl sy'n methu'n druenus. Un o brif nodweddion gwaith Dafydd yw ei barodrwydd i wneud hwyl am ei ben ei hun mewn cerddi am ei helyntion digrif megis 'Trafferth mewn Tafarn', ei gerdd enwocaf ond odid.
Merched dienw yw gwrthrychau nifer o'r cerddi, a diau fod rhai'n gymeriadau dychmygol sy'n cyfateb i deipiau llenyddol. Ond canodd Dafydd i ddwy yn arbennig y gallwn fod yn sicr eu bod yn ferched o gig a gwaed. Un oedd Dyddgu, merch i uchelwr o'r enw Ieuan ap Gruffudd ap Llywelyn o'r Tywyn ger Aberteifi. Canodd Dafydd naw cywydd iddi hi, gan ei darlunio fel y math o ferch fonheddig anghyraeddadwy sy'n nodweddiadol o ddelfryd serch llysaidd. Y llall oedd Morfudd, gwrthrych yn agos i ddeugain o gerddi gan Ddafydd. Darlunia'r cerddi hyn berthynas dymhestlog a barhaodd am nifer o flynyddoedd, cyn ac ar ôl iddi briodi a chael plant. Sonnir am ei gŵr wrth ei lysenw, y Bwa Bach, a dengys cyfeiriadau at ddyn o'r enw hwnnw mewn dogfennau cyfoes ei fod yn fasnachwr yn nhref Aberystwyth. Mae Morfudd yn debyg i'r wraig fwrdais nwydus a welir yn y fabliaux Ffrangeg, ond nid yw'r ffaith ei bod hi a Dyddgu'n cyfateb i deipiau llenyddol adnabyddus yn lleihau angerdd y cerddi hyn. Yn wir, eu cuddiad cryfder, efallai, yw'r cyfuniad sydd ynddynt o ddelfrydau llenyddol a phrofiad go-iawn.
Dafydd ap Gwilym yw bardd mwyaf Cymru erioed, ym marn llawer, a hynny ar gyfrif ei grefft farddol, ei iaith gyfoethog, ei ddychymyg creadigol, a dwyster ei olwg ar brofiadau dynol. Oherwydd ei statws arbennig yn y traddodiad barddol fe gambriodolwyd llawer o gerddi iddo dros y canrifoedd dilynol, a gwaith anodd bellach yw gwahaniaethu rhwng ei gerddi dilys a gwaith rhai o'i gyfoeswyr a feddai ar ddoniau tebyg iawn. Mae'r casgliad printiedig cynharaf o'i waith, Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789), yn cynnwys llawer o gerddi annilys, yn ogystal âchwedlau ffansïol am fywyd Dafydd, a bu'n rhaid aros nes cyhoeddi golygiad beirniadol Thomas Parry yn 1952 cyn cael golwg glir ar hyd a lled ei gamp fel bardd.
Dyddiad cyhoeddi: 2018-01-17
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Ei gartref oedd Bro Gynin, plwyf Llanbadarn Fawr, Ceredigion. Ei dad oedd Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion, ac yr oedd y teulu yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol yn y Deheubarth yn y 14eg ganrif, ac wedi bod ar du brenin Lloegr ers cenedlaethau. Cantref y Cemais yn Nyfed oedd cartref y teulu, a gwyddys eu bod yno er dechrau'r 12fed ganrif. Tua 1195 crybwyllir un o hynafiaid y bardd, Gwilym ap Gwrwared, fel gwr a gosbwyd gan Dduw am ymosod ar eiddo Gerallt Gymro. Yr oedd wyr i hwnnw o'r un enw ag yntau, gorhendaid y bardd, yn gwnstabl Cemais yn 1241. Yn 1244 cynorthwyodd y Saeson i ymosod ar Faredudd ab Owain o Geredigion, ac yn dâl am hynny cafodd dir yn y wlad honno, ac erbyn 1252 yr oedd yn feili dros y brenin yn yr ardal o gwmpas Llanbadarn Fawr. Yn 1260 yr oedd yn gwnstabl Aberteifi. Ceir enw ei fab Einion yn dyst i weithred gyfreithiol yn 1275. Yr oedd ei fab yntau, Gwilym, taid y bardd, yn dal tir gan y brenin yn Emlyn yn 1302. Un arall o'r teulu y gwyddys rhywfaint amdano oedd Llywelyn ap Gwilym, ewythr Dafydd o frawd ei dad, a oedd yn gwnstabl Castellnewydd Emlyn yn 1343. Y mae'r ffeithiau hyn yn esbonio pam, er geni Dafydd ym Mro Gynin, y mae'r beirdd yn son amdano fel ' eos Dyfed ' a ' bardd glan Teifi.' Y tebyg yw iddo dreulio llawer o'i oes, ac efallai ymgartrefu, yn Emlyn gyda'i ewythr Llywelyn ap Gwilym.
Ni wyddys dim o hanes Dafydd ei hun ond yr hyn y gellir ei gasglu oddi wrth ei waith, ac ychydig iawn yw hynny. Tebyg ei fod wedi crwydro pob rhan o Gymru. Yr oedd yn adnabod Gruffudd Gryg o Fôn a Madog Benfras o Faelor. Canodd i Rosyr (Niwbwrch), a dywaid iddo fod yn eglwys gadeiriol Bangor. Canodd i Hywel ap Goronwy, a fu'n ddeon ym Mangor. Canodd hefyd i rai o wyr a gwragedd bonheddig Ceredigion. Y gwr y canodd fwyaf iddo, yn ôl y dyb gyffredin, oedd Ifor ap Llywelyn o Fasaleg ym Morgannwg, a elwir yn Ifor Hael. Eithr erbyn hyn ni ellir bod yn sicr o gwbl mai Dafydd ap Gwilym a ganodd y cerddi i'r gwr hwnnw. Claddwyd Dafydd yn Ystrad Fflur, a chanodd Gruffudd Gryg gywydd i'r ywen uwchben ei fedd.
Fel llawer uchelwr arall, yr oedd Dafydd ap Gwilym wedi dysgu celfyddyd y beirdd, a'i dysgu'n drwyadl, ac y mae crefft ei gerddi yn ei gydio wrth y traddodiad barddol cywrain a ddatblygodd yng Nghymru yn oes y Tywysogion. Lluniodd rai awdlau tra chymhleth eu gwead. Ar y mesur cywydd, a ddaeth mor gymeradwy gan feirdd y 14eg ganrif, y canodd helaethaf, ond hyd yn oed ar y mesur hwnnw y mae crefft astrus y Gogynfeirdd yn yr holl gerddi sicraf eu hawduriaeth. Ceir ynddynt y geiriau cyfansawdd, y torymadroddi, y ffurfiau gramadegol hynafol, a'r hen eirfa a brisid y pryd hwnnw fel anhepgorion barddoniaeth fedrus ac urddasol. Y mae'n wir iddo ganu rhai cerddi symlach, cerddi llac eu cynghanedd y rhan amlaf, ond pan fo'n canu cywyddau cwbl gyflawn eu cynghanedd, yr arddull draddodiadol sydd ganddo. Priodolwyd ugeiniau o gywyddau i Ddafydd ar gam, ac argraffwyd llawer o rai felly yn Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789), ond wedi bwrw'r rheini heibio fe welir fod cnewyllyn iach o gerddi graenus yn aros.
Arbenigrwydd Dafydd yw ei hoffter o ganu i natur ac i serch. Canodd fwy na neb o'i gyfoeswyr i'r ddau bwnc hyn, a chanodd yn fwy awenyddol. Profwyd fod ar ei waith ddylanwad barddoniaeth boblogaidd gwledydd eraill, a mwy na thebyg iddo ymgynefino â barddoniaeth felly drwy droi yn y gymdeithas gymysgryw a ymgasglai yn y bwrdeisdrefi, fel Niwbwrch a Castellnewydd Emlyn. Ond cwyd ymhell goruwch pob dylanwad. Y mae ganddo arolwg bardd ar y byd o'i gwmpas, a chwaeth bardd i fynegi'r hyn a wêl mewn delweddau diriaethol. Ceir ganddo hefyd fwy o syniad am gerdd fel cyfanwaith, fel cynnyrch trefnedig un agwedd feddwl, na chan neb o feirdd Cymru hyd y cyfnod diweddar. I drosglwyddo hyn i gyd i eraill yr oedd yn feistr rhonc ar yr iaith Gymraeg, ei geirfa a'i holl gystrawennau cynnil, ac yn feistr hefyd ar holl gymhlethdod cerdd dafod ei gyfnod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.