Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.

RHYS ap TEWDWR (bu farw 1093), brenin Deheubarth

Enw: Rhys ap Tewdwr
Dyddiad marw: 1093
Priod: Gwladys ferch Rhiwallon ap Cynfyn
Plentyn: Nest ferch Rhys ap Tewdwr
Plentyn: Hywel ap Rhys ap Tewdwr
Plentyn: Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr
Rhiant: Tewdwr ap Cadell
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Thomas Jones Pierce

Wyr Cadell ab Einion ab Owen ap Hywel Dda. Cymerth lywodraeth Deheubarth i'w ddwylo yn 1075 ar farw ei gyfyrder, Rhys ab Owain ab Edwin. Yn 1081 cymerwyd y llywodraeth oddi arno gan Garadog ap Gruffydd, eithr yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, gyda chymorth Gruffydd ap Cynan, fe'i cadarnhawyd mewn meddiant ohoni ar ôl brwydr bwysig Mynydd Carn. Yn yr un flwyddyn aeth William y Concwerwr ar daith trwy dde Cymru gan ddangos ei awdurdod yn y rhan honno o'r wlad, a theithio cyn belled â Thyddewi; y mae'n weddol sicr i'r ddau frenin ddyfod i gyd-ddealltwriaeth ar yr achlysur hwn ynglyn â'r telerau da a gâi ffynnu rhyngddynt ac a barhaodd hyd ddiwedd teyrnasiad William. Ymhen ychydig flynyddoedd cofnodir fod Rhys yn talu i'r brenin £40 y flwyddyn am Ddeheubarth a thrwy hynny yn dyfod yn fasal i Goron Lloegr ac yn gosod i lawr gynreol a oedd i gael effeithiau parhaol ar gysylltiadau Lloegr a Chymru â'i gilydd.

O hynny ymlaen, ar wahân i drasiedi ei funudau olaf, nid oedd raid i Rys namyn gwrthweithio effeithiau eiddigedd ei gyd-dywysogion. Yn 1088 ymosodwyd arno gan reolwyr ieuainc Powys a bu raid iddo fyned i Iwerddon am loches. Eithr nid hir y bu cyn dychwelyd, a chyda chymorth Daniaid gorchfygodd ei wrthwynebwyr Madog, Rhiryd, and Cadwgan ap Bleddyn yn llwyr. Drachefn, yn 1091, fe'i gwrthwynebwyd gan rai o'i wyr ei hunan yn Nyfed; ceisiai y rhain ddychwelyd y frenhiniaeth i linach hyn Hywel Dda, ym mherson Gruffydd ap Maredudd ab Owain. Gorchfygwyd y gwrthryfelwyr yn Llandudoch ar aber Teifi, a lladdwyd Gruffydd. Yn y cyfamser yr oedd y goncwest Normanaidd yn y de wedi ennill nerth newydd wedi marw'r brenin William yn 1087 ac ymysg yr hen diriogaethau a gymerasid yr oedd hen frenhiniaeth Brycheiniog. Wrth wrthwynebu cyrchoedd y Normaniaid yn y rhan bwysig honno o'r wlad - yr oedd yn oll-bwysig yng ngolwg Rhys am ei bod ar y ffordd i'w diriogaethau ef ei hun - y cyfarfu Rhys â'i ddiwedd, o dan amgylchiadau na ellir bod yn sicr yn eu cylch, yn ymyl Aberhonddu.

Ef, mewn gwirionedd, oedd y diwethaf o hen frenhinoedd y Deheubarth; pan ailosodwyd y llinach mewn awdurdod, yn nes ymlaen, gan ei wyr, Rhys ap Gruffydd, yr oedd yr awyrgylch politicaidd yn gwbl wahanol. Gwraig Rhys ap Tewdwr oedd Gwladus, merch Rhiwallon ap Cynfyn. Goroeswyd ef gan ddau fab - Gruffydd a Hywel - a merch, Nest.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.