LLOYD, WILLIAM (1717 - 1777), clerigwr a chyfieithydd

Enw: William Lloyd
Dyddiad geni: 1717
Dyddiad marw: 1777
Plentyn: William Lloyd
Rhiant: Elizabeth Lloyd (née Hughes)
Rhiant: William Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ceir at ei dras a'i yrfa gynnar trwy gymathu Morris Letters, ii, 158; J. E. Griffith, Pedigrees, 93; a'r recordiau eglwysig yn Ll.G.C. Un o deulu'r Merddyn Gwyn, Pentraeth, Môn, oedd ef, er i Lewis Morris ei gymysgu â William Lloyd o'r Trallwyn yn Eifionydd (Griffith, op. cit., 212). Enw ei dad oedd William Lloyd, ecseismon, a oedd yn 'gantor' (h.y., mae'n debyg, yn canu yn y côr yn yr eglwys gadeiriol) ym Mangor; ei fam oedd Elizabeth (Hughes) o Dre'r-dryw; yr oedd ganddo (meddai William Morris eto) frawd cyfan yn gapten llong - efallai mai hwn oedd yr 'Owen' a fedyddiwyd yn nhre'r Fflint flwyddyn union o'i flaen ef; yr oedd ganddo hanner-brawd; yr oedd yn nai i Owen Lloyd, canghellor Bangor; ac yr oedd yn gefnder i William Jones o Drefollwyn, un o Fethodistiaid cynharaf Môn. Er mai 'Caernarfon' a rydd rhestrau'r Cymmrodorion fel sir ei enedigaeth, yn nhre'r Fflint y ganed ef, a'i fedyddio yno 4 Rhagfyr 1717. Yn ôl Venn (Alumni Cantabrigienses), bu yn ysgol ramadeg Biwmares, aeth oddi yno i Goleg y Drindod, Caergrawnt, yn 1736, a graddio yn 1740. Trwyddedwyd ef, ar adeg anhysbys, i guradiaeth Llanrhuddlad ym Môn (yr oedd wedi ei urddo er 1740) - yr oedd yno yn 1743 fan ddiweddaraf, a thebyg ei fod yno cyn hynny, oblegid synnai William Morris nad oedd Lewis Morris yn ei gofio yno. Offeiriad y plwy oedd Edward Bennett, meistr ysgol Friars ym Mangor. Yr oedd perthynas ddeublyg (trwy ddwy briodas) rhwng Bennett a Lloyd; naturiol felly fu i Lloyd ar 4 Chwefror 1748, gael swydd is-athro yn y Friars, gyda churadiaeth Llandygai (4 Awst 1748 - '1747' gan A. Ivor Pryce) a âi gyda'r swydd honno. Y mae llythyr ganddo o Landygai yn Welch Piety, 1750-1, 54. Yno, yr oedd ar un adeg yn gymydog agos, ac yn gyfaill, i ' Ieuan Fardd' (Evan Evans), y mae yn llyfrgell Coleg y Gogledd gerpyn o lythyr gan Evan Evans yn gofyn i Lloyd gymryd ei le am ddau Sul yn Llanllechid - rhwymwyd y cerpyn gyda chyfrol lawysgrif o bregethau Lloyd yn Llandygai (Bangor MS. 5322). Flynyddoedd wedyn (1767) tystia'r bardd mewn llythyr at Edward Richard (ffotostat yn NLW MS 11729E ) fod Lloyd yn brydydd Groeg, Lladin, a Saesneg (ac yn wir y mae prydyddiaeth ganddo, gan gynnwys hunangofiant ar gân, yn Panton MS. 2), yn gerddor medrus ar sbined a ffliwt, ac yn 'Gristionarwrol.' Am ryw reswm, fe'i cymer William Morris ef braidd yn ysgafn; llysenwa ef yn 'Wil Bo-pîp,' a'i alw'n 'ddynan diniwaid cywraint.' Yn 1760, cyhoeddodd Lloyd Y Sacrament a'r Aberth Cristionogol, cyfieithiad o lyfr gan Daniel Brevint, Ffrancwr a fu'n gymrawd (1637) o Goleg Iesu, Rhydychen, ac wedyn yn ddeon Lincoln; ensynia Richard Morris (Morris Letters, ii, 538) fod Cymraeg y llyfr yn gymaint rhagorach na Chymraeg llythyrau Lloyd ag i awgrymu mai William Morris biau'r clod amdano. Yn niwedd 1761 cafodd Lloyd reithoraeth Cowden yng Nghaint; yr oedd bellach ar drothwy'r Cymmrodorion ac yn aelod gohebol (1762); ac yn llythyrau Richard Morris y clywir amlaf amdano o hyn ymlaen. Daliodd ei gyfeillgarwch ag Evan Evans (gweler Gwaith Ieuan Brydydd Hir, 231, y fynegai i'r Additional Morris Letters, a'r llythyr gan 'Ieuan' yn NLW MS 11729E ); cafodd flwydd-dâl bychan i'r bardd (1766), a churadiaethau iddo yng Nghaint a Sussex (1767), a chroesawodd ef yn ei reithordy. Bu Lloyd farw yn Cowden, 18 Rhagfyr 1777 (nodyn gan reithor Cowden yn Bangor MS. 5322).

Yn ôl J. E. Griffith, ni adawodd Lloyd blant ar ei ôl. Ond yr oedd ganddo wyth yn 1760, meddai William Morris, a'r wyth eto'n fyw yn 1767 meddai 'Ieuan Fardd.' Yn sicr, fe fu un beth bynnag fyw ar ei ôl, sef WILLIAM LLOYD, a fedyddiwyd (yn un o efeilliaid) ym Mangor 1 Ebrill 1749. Aeth i University College yn Rhydychen; sonia 'Ieuan Fardd' a Richard Morris (Additional Morris Letters, 722) amdano'n copïo Nennius yn 1767 yn y Bodleian; a rhydd Foster (Alumni Oxonienses) iddo'r graddau B.A. (1769), M.A. (1773), B.D., a D.D. (1802). Yn ôl A. Ivor Pryce, cafodd ysgol Biwmares ddiwedd Gorffennaf 1774 ('1773' meddai llyfr John Williams ar hanes yr ysgol); trwyddedwyd ef yn gurad Llandegfan a Llansadwrn, 17 Gorffennaf 1775, ddiwrnod ar ôl cael ei urdd offeiriad. Ymddeolodd o'r ysgol yn 1778 (John Williams, 26). Collir golwg arno ar ôl hynny.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.