Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ail fab Gruffydd ap Llywelyn a Senena, ac ŵyr Llywelyn ap Iorwerth. Ni ellir olrhain ei yrfa ymhellach yn ôl na 1245 pan geir ef yn un o'r gwŷr mawr o gylch Dafydd II, ffaith sydd yn awgrymu ei fod ef, yn wahanol i'w dad a'i frawd hŷn, Owen, yn ffefryn gan ei ewythr, ac, efallai, yn cael ei ystyried fel ei aer. Ar ôl trychineb 1246 a threfnu cytundeb Woodstock â Harri III yn 1247, bu raid iddo am wyth mlynedd rannu gydag Owen y gwaith o deyrnasu ar diriogaeth i'r gorllewin o afon Conwy, tiriogaeth a oedd bellach yn llawer llai nag yr arferai fod. Oherwydd ei fuddugoliaeth ar Owen a brawd iau, Dafydd, ym Mryn Derwin, 1255, fodd bynnag, cymerodd y cam cyntaf i gyfeiriad ailgadarnhau'r awdurdod tiriogaethol cyfan a feddid ar un adeg gan Llewelyn I. Rhwng y blynyddoedd 1256 a 1267 cafodd fwynhau cyfnod o fuddugoliaeth ar ôl buddugoliaeth bron yn ddi-dor. Oblegid gwendid Coron Lloegr a'r diffyg undeb ymhlith arglwyddi'r gororau ar y pryd, gallodd aduno Gogledd Cymru o Ddyfi i Ddyfrdwy a chydio wrthi rannau helaeth o ganolbarth y mars cyn belled â ffiniau Gwent; yn y cyfamser yr oedd yn amddiffyn y tiroedd a goncweriodd trwy ddwyn cyfres o gyrchoedd didrugaredd ar Dde Cymru. Yn 1258 gorfu i'r tywysogion Cymreig eraill - ar wahân i Gruffydd ap Gwenwynwyn, a ymostyngodd yn 1263 - drosglwyddo eu gwrogaeth oddi wrth y brenin i Lywelyn a'r un flwyddyn fe'i cyhoeddodd ei hun yn dywysog Cymru. Yr oedd i'r cam pwysig hwn arwyddocâd cyfansoddiadol mawr iawn; fe'i cydnabuwyd yn swyddogol gan Harri III (yr oedd Llywelyn, serch hynny, i barhau i dalu gwrogaeth i'r brenin) yng nghytundeb Trefaldwyn, 1267, ac y mae'n gam a barodd godi Llywelyn i le ar ei ben ei hun ymhlith gwŷr mawr hanes Cymru fel y gŵr a wnaeth yr arbrawf cyntaf ar drefnu ei gwladwriaeth ei hunan i'r wlad.
Yn ystod y 10 mlynedd 1267-77 ceir newid yn y sefyllfa; bellach y mae'r berthynas rhwng Cymru a Lloegr yn canolbwyntio mwy ar dde-ddwyrain y wlad. Trefnodd Llywelyn i wneuthur y wlad y tu ôl i'w gefn yn ddiogel trwy wneuthur y defnydd helaethaf o adnoddau economaidd a milwrol y canolbarth. Adeiladodd gastell Dolforwyn, creodd fwrdeisdref Abermiwl, a dechreuodd ymosod ar ei gymdogion ymhellach i'r de, gan lwyddo i raddau yn ei ymwneuthur â theulu Bohun, eithr methu diorseddu teulu Clare yn eu castell newydd yng Nghaerffili. Yr oedd ei bolisi cartrefol y pryd hwn yn tueddu i fod yn ddidrugaredd - ceir enghraifft yn y modd y deliodd ag esgobion y gogledd - a daeth yn sgîl y polisi hwnnw gyfnewidiadau cymdeithasol a chyfreithiol ag iddynt bwysigrwydd cynhenid; yn eu dilyn hefyd daeth gelyniaeth amryw o'i ddeiliaid. Yr oedd gwrthgiliad Dafydd a Gruffydd ap Gwenwynwyn (1274), yn ddyrnod drom, ac yn ernes o'r llu mawr o wrthgiliadau a ddilynodd yn 1277.
Bu anfodlonrwydd Llywelyn oblegid yr anawsterau cynyddol ar hyd y goror yn rheswm iddo wrthod dro ar ôl tro rhwng 1273 a 1277 gadw, fel un o 'weision' y brenin newydd Edward I, delerau cytundebau a wnaethai. Er na wyddys pa mor bwysig oedd natur ei gwynion, cafodd ei feio'n drwm am ei anghymodlonrwydd a'i ddiffyg doethineb, a dywedyd y lleiaf, yn herio felly awdurdod a gallu adferedig brenhiniaeth Lloegr, polisi a'i harweiniodd i gael ei orchfygu yn rhyfel 1277 a dymchwel holl waith ei fywyd. Wedi cytundeb Aberconwy nid oedd yn weddill iddo namyn Gwynedd i'r gorllewin o afon Conwy, serch caniátâu iddo ddefnyddio'r teitl (gwag bellach) - tywysog Cymru - a chanddo, ynglŷn â;r teitl hwnnw, benarglwyddiaeth ar bum arglwyddiaeth fach yn Edeirnion a Meirionnydd.
Yng Nghaerwrangon, ar 13 Hydref 1278, ac yng ngŵydd y brenin, priodwyd Llywelyn ag Eleanor de Montfort , merch yr iarll Simon de Montfort; yr oeddynt wedi eu dyweddïo cyn belled yn ôl â'r flwyddyn 1265, yn Pipton, pan gydymunasai Simon a Llywelyn yn ffurfiol i wrthwynebu'r Goron. Gohiriasid y briodas ei hun o'r flwyddyn 1275 oherwydd fod y briodasferch yn cael ei chadw, megis fel carcharor, yn Windsor gan Edward I.
Yn dilyn, cafwyd pum mlynedd dyngedfennol. Ymddug Llywelyn tuag at y brenin yn y modd mwyaf addas; o dan amgylchiadau annymunol dros ben bu'n amyneddgar y tu hwnt a dangos ei fod yn fedrus iawn fel diplomydd. Materion technegol a chyfreithiol ynglŷn â phenderfynu ystyr rhai pethau yn y cytundeb a wnaethpwyd ychydig cyn hynny a oedd wrth wraidd yr helynt - a chofio hefyd fod a fynnai Gruffydd ap Gwenwynwyn beth â'r helynt hwnnw; yr oedd hefyd achosion eraill nad oedd y naill ochr na'r llall yn gwbl gyfrifol amdanynt. O safbwynt Llywelyn yr oedd y brenin, heb os nac onibai, yn torri rhai o amodau'r cytundeb trwy drin y materion yr oeddid yn anghydweld yn eu cylch yn ôl cyfraith Lloegr yn hytrach nag yn ôl cyfraith Cymru - serch bod gwahaniaeth barn ymysg ysgrifenwyr ynglŷn â'r rhesymau paham y gweithredai felly. Hyd yn oed er hynny, ei orfodi i ymladd a gafodd Llywelyn; y tywysog Dafydd a achosodd y rhyfel diwethaf trwy ymosod ar Benarlâg ar Sul y Blodau, 1282, a thrwy hynny beri i ryfel cyffredinol dorri allan.
Lladdwyd Llywelyn ar 11 Rhagfyr 1282 pan oedd ar gyrch ymladd yng nghyffiniau Llanfair-ym-Muellt, amgylchiad a ddaeth ag annibyniaeth wleidyddol Cymru fwy neu lai i ben. Nid mewn brwydr fel y cyfryw y cwympodd Llywelyn, eithr ar lannau Irfon ar law rhywun na wyddai ar y pryd pwy oedd y gŵr yr oedd yn ei ladd. Anfonwyd ei ben yn ddiweddarach i Lundain i'w arddangos i'r cyhoedd; claddwyd ei gorff gan Sistersiaid Cwm Hir, un o abatai urdd yr oedd y tywysog yn hoff iawn ohoni ac y cafodd ohoni rai o'i gefnogwyr mwyaf teyrngar. Buasai Eleanor farw ychydig cyn hynny ar enedigaeth plentyn; gorffennodd Gwenllian, ei merch hi ac unig ddisgynnydd cyfreithlon Llywelyn, ei gyrfa fel lleian yn Sempringham.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.