Yr unig wybodaeth ddilys yw'r hyn a geir mewn achau (e.e. Peniarth MS 178 ), sef bod gwr o'r enw hwn yn wyr i Einion ap Collwyn a oedd yn byw ym Morgannwg adeg y goresgyniad Normanaidd, a'i fod yn un o hynafiaid Rhys Brydydd o Lanharan a'r beirdd enwog eraill o'r un llinach, megis Lewys Morgannwg. Yn y Iolo MSS., 1848, 228-51, priodolir iddo 20 o gerddi, a honnai ' Iolo Morgannwg ' iddo eu cael mewn ysgriflyfr ym meddiant Siôn Bradford. Maentumiai ' Iolo ' i Rys Goch lynu wrth yr hen ' gysefin fesurau,' a chan i'r Normaniaid (meddai ' Iolo ') ddwyn dylanwad y trwbadwriaid i Gymru, i ysgol ramant godi ym Morgannwg tua dechrau'r 12fed g. (gweler Llanover MSS. C21 (134), C30 (121), a C36 (246)), a bod Rhys Goch felly yn flaenrhedegydd Dafydd ap Gwilym. Taflwyd amheuon ar hyn, yn eu tro, gan Thomas Stephens, J. H. Davies, Glyn Davies, a Syr Ifor Williams, a chwalwyd y chwedl yn derfynol gan G. J. Williams yn Y Beirniad, viii, 211-26, lle y dangosir mai'r hyn a wnaeth ' Iolo ' oedd ailwampio pump o hen gerddi a ffugio'r lleill. Y maent i gyd yn frith o'i eiriau a'i ffurfiau nodweddiadol ef. Nid oes dystiolaeth i Rys Goch ap Rhiccert sgrifennu llinell o farddoniaeth erioed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.