RICHARD ap JOHN, o Sgorlegan, plwyf Llangynhafal, sir Ddinbych (fl. 1578-1611), gŵr bonheddig, prydydd, noddwr bardd, a chopïydd llawysgrifau

Enw: Richard ap John
Priod: Sian ferch James
Priod: Alis wraig Richard ap John
Plentyn: Blaens ferch Richard ap John
Plentyn: Margred ferch Richard ap John
Plentyn: Dorithi ferch Richard ap John
Plentyn: Simwnt ap Richard ap John
Plentyn: John Llwyd ap Richard ap John
Plentyn: Thomas ap Richard ap John
Plentyn: John Wyn ap Richard ap John
Plentyn: Edwart ap Richard ap John
Plentyn: Robert Wyn ap Richard ap John
Rhiant: Margred ferch Gruffudd ab Edwart
Rhiant: John Wyn ap Robert ap Gruffudd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr bonheddig, prydydd, noddwr bardd, a chopïydd llawysgrifau
Cartref: Sgorlegan
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Dyngarwch; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan David Jones

Olrheiniai ei ach drwy Edwin ap Grono i Hywel Dda a Rhodri Mawr. Yr oedd ei dad, John Wyn ap Robert ap Gruffudd, yn waetiwr yn Ewri'r Frenhines, ond bu farw o'r pla cyn i'r plant, Richard, John Wyn, a Chatrin, ddyfod i'w hoed; canwyd ei farwnad gan Lewis ab Edwart a Gruffudd Hiraethog. Ymddengys i'r plant, a'u mam, Margred ferch Gruffudd ab Edwart o Blas y Bwld, ddychwelyd i Sgorlegan. Bu'r taid, Robert ap Gruffudd, farw yn 1572 (marwnad gan Simwnt Fychan), a dilynwyd ef yn Scorlegan gan ei ŵyr, Richard ap John. Priododd yntau Alis ferch y Richard Thelwall o Blas y Ward a fu farw yn eisteddfod Caerwys, 1568. Bu hi farw 25 Tachwedd 1584, gan adael naw o blant, Robert Wyn, Edwart, John Wyn, Thomas, John Llwyd, Simwnt, Dorithi, Margred, a Blaens (marwnadau gan Simwnt Fychan ac Edwart ap Raff). Yn ôl Robert Vaughan priododd Richard ap John eilwaith, â Sian ferch James, a bu iddo blant ohoni hithau. Priodolir i Richard ap John drosiad mydryddol Cymraeg yn 1586 o The Boke of John Maundeville. Ceir copïau ohono yn llawysgrifau NLW MS 1553A a Peniarth MS 218 . Y mae carol o'i waith yn B.M. Add. MS. 9817. Yr oedd traddodiad prydyddu yn y teulu, ac yr oedd ei ewythr, Edward Wyn, un o aldramyn Rhuthyn, a fu farw yn 1578, yn fardd da yn ôl marwnad a ganodd Edwart ap Raff iddo. Erys copïau Richard ap John o ramadegau'r beirdd (Peniarth MS 159 -Peniarth MS 160 ), Brut y Tywysogion, gydag ychwanegiadau o ffynonellau Seisnig (Llanstephan MS 172 ), a chasgliadau o farddoniaeth (Llanstephan MS 36 a Chaerdydd 63). Ysgrifennwyd y llawysgrifau hyn rhwng 1578 a 1611. Y mae ganddo nodiadau mewn llawysgrifau eraill. Bu'n glaf yn 1590, a chanodd Edwart ap Raff englynion ar yr achlysur, a chywydd i ofyn sbectol drosto gan Huw Edwards o Ewri'r Tywysog Harri yn 1605.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.