MOSTYN, AMBROSE (1610 - 1663), pregethwr Piwritanaidd y bu'r achyddwyr yn esgeulus ohono;

Enw: Ambrose Mostyn
Dyddiad geni: 1610
Dyddiad marw: 1663
Priod: Elizabeth Mostyn (née Broughton)
Priod: Jane Mostyn
Rhiant: Henry Mostyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Piwritanaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Thomas Richards

gallasai Lewis Dwnn fod wedi cynnwys ei enw yn ei Heraldic Visitations, ond ni wnaeth; ceir llawer iawn o fanylion yn Powys Fadog am deulu Mostyn, ond dim gair am y Mostyn hwn; cafodd T. A. Glenn gyfle i gyfeirio ato yn ei Mostyns of Mostyn, ond collodd ef. Fel mater o ffaith un o Fostyniaid Calcot oedd Ambrose Mostyn, cangen o Fostyniaid Talacre, mab i Dr Henry Mostyn, Canghellor Bangor, ac ŵyr i Syr Pirs Mostyn o Dalacre, hynny yw, mab i Eglwyswr digymrodedd ac ŵyr i Babydd. Derbyniwyd ef i goleg y Trwyn Pres, yn Rhydychen, 16 Mai 1627, fel doctoris filius, graddiodd yn B.A. yn Ionawr 1630, ac yn fuan iawn datblygodd, yn erbyn holl draddodiadau ei deulu, yn Biwritan diamheuol. Ar 19 Ebrill 1642 cafodd ei enwi gan Dŷ'r Cyffredin yn 'ddarlithydd' Piwritanaidd yn Pennard yn Sir Forgannwg; ar 20 Gorffennaf 1644, gorchmynnwyd iddo weithio yng ngogledd Cymru; yn ddiweddarach, ar 27 Gorffennaf 1646, gorchmynnwyd ef gan Bwyllgor y Gweinidogion Llwm i bregethu yn Abertawe a'r cylch, ac mor effeithiol oedd ei waith fel mai iddo ef y rhoddir y clod (gan Henry Maurice yn ei adroddiad am gynulleidfaoedd Cymru yn 1675) am drefnu'r eglwys 'gynulledig' gyntaf yn y rhanbarth hwnnw, cnewyllyn a wnaeth Abertawe yn un o brif gadarnleoedd Anghydffurfiaeth Cymru. Heb fod yn hir, ar 7 Mehefin 1648, cafodd alwad eto o'r de i'r gogledd, canys gorchmynnwyd iddo gan yr un pwyllgor fyned ar deithiau pregethu yn siroedd y gogledd yng nghwmni Morgan Llwyd a Vavasor Powell, y tri i dynnu eu swcwr o ddegymau chwe plwy yn Arwystli. Yn ddiweddarach enwyd ef yn un o'r 25 profwyr o dan Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650-3) ac ymddengys iddo dreulio cyfnod ym Maldwyn; yn 1654 ef oedd un o'r gweinidogion a benodwyd i fod wrth benelin y comisiynwyr a oedd i droi Anglicaniaid ystyfnig ac ysgyfala allan o'u lleoedd; ar 25 Medi 1655, ef a bregethai o flaen barnwyr y frawdlys yn Wrexham. Er na roddodd ei enw wrth y brotest siarp yn erbyn Diffynwriaeth Cromwell, y Word for God, y mae lle cryf i gredu nad oedd yn hollol fodlon ar y datblygiadau newydd a chymerodd hyd Hydref 1656, cyn penderfynu gofalu am saint Holt o dan fendith y Triers. Ar farwolaeth Morgan Llwyd yn 1659 penodwyd ef (yn ôl cofnod yn y Lambeth MS 987) yn fugail ar gynulleidfa Wrexham, er nad oes neb yn hollol sicr beth oedd rhychwant y fugeiliaeth honno, na pha le yr oedd yr aelodau yn cwrdd. Ar ôl dyfod Adferiad 1660 a'r troi allan a'i dilynodd, arhosodd Mostyn am beth amser yn Wrexham a'r cylch; yn niwedd Ebrill, 1661, cafodd loches gan yr Arglwydd Piwritanaidd Saye a Sele yn sir Rhydychen gan wasanaethu fel caplan i'r teulu; yn ddiweddaf oll, ymadaw odd am Lundain, lle y bu farw yn nyddiau olaf 1663

Yr oedd Mostyn yn ŵr cyfrifol a dibynadwy, a'i olygiadau yn gymedrol uniongred (er iddo unwaith amlygu syniadau ar fedydd plant a barodd dipyn o syndod i Philip Henry. Yr oedd Piwritaniaid mawr, mwy nag ef, yn falch o'i air da, ac yn barod i ymddiried iddo eu pethau mwyaf cysegredig: enwyd ef gan Walter Cradock fel goruchwyliwr ei ewyllys olaf; ef oedd un o'r ddau sgutor ar ewyllys Morgan Llwyd. A phan fu farw ei wraig gyntaf, Jane, 26 Gorffennaf 1651, cafodd air caredig oddi wrth y Piwritan gwreiddiol ond annosbarthus hwnnw, William Erbery. Goroeswyd ef gan ei ail wraig, Elisabeth ferch Syr Edward Broughton, barwnig, Marchwiail (?1610 - 1665)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.