MEREDITH, JOHN ELLIS (1904-1981), gweinidog (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) ac awdur

Enw: John Ellis Meredith
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1981
Priod: Elizabeth Meredith (née Jones)
Plentyn: Ruth Wyn Meredith
Plentyn: Margaret Wyn Meredith
Plentyn: David Wyn Meredith
Plentyn: John Wyn Meredith
Rhiant: Margaret Meredith
Rhiant: James Meredith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd J.E. Meredith ar y 7 Awst 1904 yn nhref Dinbych, yn un o ddau fab James a Margaret Meredith. Bedyddiwyd ef yng Nghapel y Fron, Dinbych gan y Parchedig Tom Roberts, Is-olygydd Y Faner. Roedd ei dad yn flaenor yng Nghapel y Cricor, Pentrecelyn a chysylltiad rhwng teulu ei fam a theulu'r Parchedig Henry Rees, Lerpwl. Yn bedair oed symudodd ei rieni, oherwydd swydd ei dad ar y rheilffordd, i fyw i Padeswood ger Bwcle yn Sir y Fflint. Derbyniodd y mab ei addysg yn Ysgol Gynradd Bwcle ac yna'r Ysgol Sir yn Alun, Yr Wyddgrug. Ar derfyn y Rhyfel Byd Cyntaf symudodd y teulu i fyw i bentref Gwyddelwern, ger Corwen lle cafodd James Meredith ei apwyntio'n orsaf feistr. Ymaelododd y mab yn Ysgol Tandomen, y Bala gan deithio bob dydd ar y trên. O'r Bala fe'i derbyniwyd i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor i astudio am ei radd BA.

Amlygodd dddiddordeb a gallu o fewn gwleidyddiaeth a rhwydwaith y myfyrwyr. Etholwyd ef yn Llywydd y Myfyrwyr am 1925-6, ac yn 1926-27 ef oedd y Cymro cyntaf i fod yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a Lloegr (NUS). Daeth i gysylltiad â phobl adnabyddus megis Bertrand Russell, yr Arglwydd Beveridge a'r Fonesig Nancy Astor. Bu'n arwain dirprwyaeth o fyfyrwyr i gynadleddau ar y Cyfandir, a phan oedd yn ymweld â Rhufain derbyniodd fendith y Pab Pius XI. Ysgrifennodd yn ddifyr am y digwyddiad hwn yn Y Ford Gron (Ionawr 1931) o dan y teitl ‘Cusannu Modrwy'r Pab’. Bu yn ystafell bersonol Unben yr Eidal, Mussolini, yn y Palazzo Chigi, a chael sgwrs ag ef.

Graddiodd mewn athroniaeth ym Mangor yn 1928 ac yna ei dderbyn i astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen lle y daeth yn aelod o Goleg yr Iesu gan rannu llety gyda T. Rowland Hughes, a ddaeth yn ffrind oes iddo. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, a gwnaeth gyfraniad pwysig i fywyd Cymraeg y dref a'r Brifysgol. Graddiodd yn 1930 gyda'r gymeradwyaeth uchaf [distinction] mewn diwinyddiaeth a chymerodd ei radd MA yn 1934. Treuliodd flwyddyn yn dilyn cwrs bugeiliol yng Ngholeg y Bala.

Ordeiniwyd ef yn 1931 ar dderbyn galwad i Gapel Bethania, Aberdâr, un o gapeli enwocaf Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg yr adeg honno. Priododd yr un flwyddyn ag Elizabeth Jones, Blaen-y-Cwm, Cynllwyd, Llanuwchllyn, un a gyfarfu yn Ysgol y Bala. Yr oedd hi wedi graddio ym Mhrifysgol Lerpwl a threulio cyfnod yn athrawes yn y ddinas ac yn Southport.

Mewn cyfnod o ddirwasgiad enbyd rhoddodd y gweinidog ieuanc arweiniad gan ysbrydoli gobaith ieuenctid ei eglwys. Fe fu'n ffodus yng nghwmni dau weinidog Presbyteraidd yng Nghwm Cynon, y Parchedigion J. R. Evans, Aberpennar a D. O. Calvin Thomas, Eglwys y Trinity, Aberdâr, y tri ohonynt yn heddychwyr di-ildio, a pharhaodd ei gyfeillgarwch â'i gyd-efrydwyr o Brifysgol Rhydychen, yn arbennig T. Rowland Hughes, yr Athro Alun Moelwyn Hughes a'r Parchedig Glyn Parry Jones. Cafodd wersi golff, yng nghyfnod Aberdâr gan Dai Rees, goruchwyliwr proffesiynol y clwb, er na ellir maentumio iddo dreulio oriau hir yn chwarae'r gêm. Yn ddiweddarach yn ei fywyd bu'n hoff iawn o bysgota.

Yn 1937 derbyniodd J.E. Meredith alwad i Gapel y Tabernacl, Aberystwyth, ac Ebeneser, y gangen ym Mhenparcau, lle y cyflawnodd waith mawr ei fywyd. Yn Aberystwyth rhoddodd bwyslais ar weinidogaeth oedd yn cwmpasu bywyd y capel, y dref, y colegau a'r diwylliant Cymraeg. Yn ddyn trwsiadus ei ddiwyg bob amser, gosodai bwyslais ar urddas oedfaon, yn arbennig y gwasanaeth priodas a sacramentau'r eglwys. Roedd yn areithydd ac yn bregethwr sylweddol yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Byddai'n trafod ei bregethau ar yr aelwyd yn Elm Bank, Heol Llanbadarn, gyda'i briod, gan fod ganddi hithau ddiddordeb byw mewn tarddiad ac ystyr geiriau a'u swyn. Yn ei ddarlithiau bugeiliol yn y coleg anogai ei fyfyrwyr bob amser i gyflwyno cysuron yr efengyl i'w cynulleidfaoedd a meddai ar ddawn i gynnal Seiat. Bu'n gaplan yn Ysbyty Aberystwyth ac yn haelionus tuag at anghenion yr ysbyty. Cynrychiolodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar y Pwyllgor a fu'n paratoi'r cyfieithiad newydd o'r Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1988. Yn ogystal â nifer o erthyglau, cyhoeddodd Ffordd y Bywyd, llawlyfr i bobl ieuainc yn 1937 a Hanes yr Apocryffa yn 1942, yr unig lyfr Cymraeg ar y pwnc. Traddododd y Ddarlith Davies yn 1970 a dewisodd yn destun ‘Gwenallt, Bardd Crefyddol’, ymdriniaeth a estynnwyd ac a gyhoeddwyd yn gyfrol dan yr un teitl yn 1974. Fel atodiad, ailargraffwyd ysgrif hunangofiannol Gwenallt a ymddangosodd gyntaf yn Credaf (1943), cyfrol a olygwyd gan J. E. Meredith a gasglodd ynghyd dystiolaeth deg o leygwyr o Aberystwyth a'r cyffiniau a arferai drafod gyda'i gilydd y gwerthoedd Cristnogol Cymraeg. Lluniodd lyfryn yn 1962 ar Thomas Levi, un o'i ragflaenwyr yn y Tabernacl, a chyfrannodd i gyfrol goffa i Gwilym Davies a olygwyd gan Ieuan Gwynedd Jones yn 1972. Roedd yr enwad yn bwysig iawn iddo, a dyrchafwyd ef yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1970-71. Cyhoeddwyd ei araith ymadawol, Keeping pace with tomorrow in Wales, yn 1971 lle yr wynebodd yr hyn a ystyriai'n fygythiad dogmatiaeth geidwadol gan bwysleisio pwysigrwydd addoli ac efengyl gobaith.

Bu J. E. Meredith yn ffyddlon i Gyngor Eglwysi Rhyddion Aberystwyth, yn Llywydd arno, a hefyd yn Gaplan ar chwe achlysur i'r Maer. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Lleol y Coleg Diwinyddol ac yn gefn mawr i'r Prifathrawon W. R. Williams (aelod yn y Tabernacl) ac S. Ifor Enoch. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Cydwladol Urdd Gobaith Cymru, yn aelod o Lys Coleg Prifysgol Aberystwyth (1939-1981) ac yn aelod o Cyngor y Coleg (1952-1981). Cynorthwyai pan fyddai angen yn Uned Addysg Grefyddol Adran Addysg Coleg y Brifysgol a chynhaliai ddosbarthiadau yn yr Adran Allanol. Roedd hefyd yn aelod brwdfrydig o Gymdeithas y Bedol, cymdeithas lenyddol, ac yn mwynhau'n fawr gwmni a chyfraniad deallusion fel yr Athro Idwal Jones a'r Athro R. I. Aaron.

Rhoddodd o'i orau i'r diwylliant Cymraeg ac argyhoeddiadau cadarn am ei genedl a'r iaith. Pan benderfynodd Ifan ab Owen Edwards yn sydyn un wythnos y cychwynnai Ysgol Gymraeg annibynnol y dydd Llun canlynol, cafodd gefnogaeth barod rhieni pedwar o blant. Un o'r pum plentyn cyntaf a fynychodd yr ysgol oedd ei fab hynaf, John Wyn, a dilynodd tri phlentyn arall y teulu, Margaret Wyn, Ruth Wyn a David Wyn, yr un llwybrau addysgu. Ymhen tair blynedd pan etholwyd Ifan ab Owen Edwards yn Llywydd yr Ysgol, J. E. Meredith a ddewiswyd yn Gadeirydd. Ef hefyd a arweiniodd ddirprwyaeth at Bwyllgor Addysg Cyngor Ceredigion, ac ennill cefnogaeth i'r ysgol gael ei hariannu, nid gan y rhieni a chefnogwyr, ond gan yr Awdurdod Addysg. Deallodd ef ing ac ymroddiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 30 mlynedd yn ddiweddarach a lleisiodd ei gefnogaeth iddi.

Un o'i gasbethau oedd anghwrteisi. Fel person yr oedd yn ymgorfforiad o ddaioni a chwrteisi a haelioni (ni allai anfon neb o ddrws y Mans yn waglaw) ac yr oedd ganddo synnwyr hiwmor gwych. Meddai ar lais delfrydol ar gyfer y radio a bu'n darlledu'n gyson. Ef oedd y cyntaf i lefaru geiriau enwog Saunders Lewis o ‘Buchedd Garmon’ ar y radio a bu'n darllen barddoniaeth T. Gwynn Jones ac R. Williams Parry ar raglenni'r radio. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd (1938) ef oedd Beirniaid y Prif Adroddiad a bu'n cyflawni'r gwaith droeon mewn eisteddfodau eraill. Ysgrifennai gerddi'n achlysurol, telynegion melys a thlws. Un o'i hoff ddinasoedd oedd Fflorens yn yr Eidal, a meddyliai'r byd o gelfyddyd gain, yn arbennig waith yr arlunydd Raphael. Roedd yn ddirwestwr o argyhoeddiad. Byddai'n cyfeirio yn ei bregethau at beryglon y ddiod gadarn ac yn ymgyrchu'n gyson ar Gyngor y Coleg yn erbyn yr alwad barhaus i gael bar yn Undeb y Myfyrwyr. Bu ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn agor y tafarnau ar y Sul.

Ymddeolodd yn 1969 gan symud i fyw i North Parade, Aberystwyth. Ond yn 1977 dioddefodd drawiad a barodd iddo golli ei leferydd ac a'i caethiwodd am weddill ei oes i ysbyty. Fore Iau, 16 Ebrill 1981, yn hollol ddirybudd, bu farw o drawiad y galon yn Ysbyty Dolgellau. Bu'r gwasanaeth, yn unol â'i drefniad ef ei hun, yn Amlosgfa Bangor a gosodwyd ei weddillion ym mynwent Llanuwchllyn. Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa iddo yn y Tabernacl, Aberystwyth ar 15 Mai 1981 pryd y dadorchuddiwyd llechen goffadwriaethol iddo gan ei fab, John Wyn Meredith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-06-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/