ROBINSON (TEULU), Conwy, Sir Gaernarfon, Monachdy, sir Fôn, a Gwersyllt, sir Ddinbych.

Yr oedd y teulu hwn yn disgyn o Syr William Norris, marchog yn sir Gaer, a briododd chwaer i Owain Tudur; cymerth ei ŵyr ef Henry Norris, mab Robin Norris, y cyfenw Robinson.

NICHOLAS ROBINSON (c. 1530 - 1585), esgob Bangor

Mab iau John Robinson, Conwy (mab yr Henry Robinson a enwir uchod) ac Elin, merch y Parch. W. Brickdale o'r Wirral a'i wraig Marsli, disgynnydd o deulu Conwy, Bodrhyddan. Aeth i Queens' College, Caergrawnt, ym mis Mawrth 1545, ac etholwyd ef yn gymrawd ar archiad ymwelwyr Protestannaidd Edward VI (c. 1548) cyn iddo gymryd gradd meistr (1551). Yn nheyrnasiad Mari arwyddodd erthyglau y ffydd Babaidd a orfodwyd ar y brifysgol (1555) ac ordeiniwyd ef yn is-ddiacon ('acolyte'), yn ddiacon, ac yn offeiriad ar dri diwrnod olynol ym mis Mawrth 1557 gan yr esgob William Glynne, Bangor, o dan awdurdod arbennig a ddaeth oddi wrth y cardinal Pole; yr unig dystiolaeth o blaid haeriad Strype (Parker, i, 464) - sef i Robinson ' suffered much from the Papists ' yn ystod teyrnasiad Mari - ydyw na fu mewn unrhyw swydd yn y brifysgol nac yn y coleg megis y bu yn adeg rhagflaenydd ac olynydd Mari. Pan esgynnodd Elisabeth i'r orsedd gwnaeth yr archesgob Parker ef yn gaplan iddo'i hun a'i drwyddedu (20 Rhagfyr 1559) i bregethu yn holl gylch ei dalaith; ar hynny cymerodd Robinson ei B.D. (1560) a D.D. (1566). Tynnodd pregeth a draddododd yn S. Paul's Cross ym mis Rhagfyr 1561 (gweler dyfyniad ohoni yn Strype, Parker, i, 465-6) sylw Grindal, esgob Llundain, a awgrymoddodd drannoeth ddewis Robinson yn bennaeth Coleg Eton; ni ddaeth dim o hyn, eithr fe ddewiswyd Robinson i ddwy reithoraeth yn esgobaeth Grindal, a'r flwyddyn ddilynol i reithoraeth Llaneurgain, Sir y Fflint (26 Awst 1562). Gwnaethpwyd ef hefyd yn archddiacon Meirionnydd (16 Mehefin 1562), swydd a roddai iddo sedd yn y confocasiwn, lle y pleidleisiodd dros y deugain namyn un erthygl ac yn erbyn yr erthyglau Piwritanaidd a gynigid (1562); yr oedd hefyd o blaid y cynigiadau esgobol ynglŷn ag amwisgoedd eglwysig (1564). Yr oedd yn parhau i fyw yng Nghaergrawnt pan aeth y frenhines Elisabeth yno yn 1564; gwnaeth hi ef yn un o'i phregethwyr tymor y Grawys y flwyddyn ddilynol. Daeth esgobaeth Bangor yn wag yr adeg hon ac fe'i cymeradwywyd ef gan Cecil (a oedd eisoes wedi ei gymeradwyo i fod yn bennaeth un o golegau Caergrawnt) fel ' a person well known in that country, and a Welshman … a grave learned man ' yn erbyn y gŵr yr oedd iarll Pembroke yn ei gymeradwyo, sef y cyfreithiwr lleyg, Dr. Elis Prys, a chan fod yr archesgob yn fodlon, cysegrwyd Robinson yn 1566.

Fel esgob, gweithredodd yn gadarn yn erbyn delwau, pererindodau, ac 'ofergoelion' eraill; pleidleisiodd yng nghonfocasiwn 1571 (lle yr oedd yn gweithredu dros esgobion de Cymru hefyd) dros y canonau disgyblaethol; 'ymwelodd' yn swyddogol â'i esgobaeth yn 1576 gyda Dr. Thomas Yale; yn 1578 bu'n eistedd ar ddau gomisiwn arbennig - ym mis Chwefror (gydag esgob Llanelwy, dau farnwr, a phump o leygwyr) i ddadwreiddio arferion ofergoelus ('superstitious usages') yn sir Ddinbych a Sir y Fflint, ac ym mis Mawrth i edrych i mewn i gysylltiadau Hugh Owen (1538 - 1618), y ffoadur Catholig, â Sir Gaernarfon. Ar waethaf hyn oll bu raid iddo ef ei hunan ei amddiffyn ei hun yn 1582 yn erbyn achwynion o Babyddiaeth. Er ei fod yn weinyddwr diwyd mewn cylchoedd eglwysig a gwladol nid oedd yn rhydd oddi wrth ddau o bechodau ei oes - sef dal mwy nag un fywoliaeth a dangos ffafraeth i berthynasau wrth lanw bywiolaethau a swyddi eraill. Glynodd wrth y bywiolaethau a gawsai ef ei hunan, oddigerth un yn Lloegr yr ymddiswyddodd ohoni yn 1574, ac archddiaconiaeth Meirionnydd; cymerodd archddiaconiaeth Môn yn lle honno yn 1573. Rhoddodd archddiaconiaeth Meirionnydd i'w berthynas HUMPHREY ROBINSON, yntau hefyd wedi ei addysgu yng Nghaergrawnt; cawsai'r archddiacon newydd ei ddewis cyn hynny gan yr esgob i reithoraeth Llanengan (1570) cyn iddo fod nag yn offeiriad nac yn ŵr gradd ac fe'i hailsefydlwyd ef yno (1573) ac i Lanbedrog (1572) ar ôl iddo raddio yn 1571 a chael urddau eglwysig yn 1572. Ar y llaw arall, y mae'n weddol sicr fod tiroedd Monachdy (ym mhlwyf Llanfair-yng-Nghornwy) a'r Skerries yn sir Fôn, y dywedid fod yr esgob wedi eu cymryd trwy bryniant ac felly wedi eu hysgaru oddi wrth eiddo tymhorol yr esgobaeth, yn eiddo a brynasid yn gyfreithiol allan o diroedd abaty Maenan a droesid o fod yn diroedd eglwysig i fod yn diroedd lleyg. Yr oedd iddo air da fel pregethwr (credai Syr John Wynn o Wydir mai ei bregethau difyfyr, 'o'r frest,' oedd orau) ac fel ysgolhaig a ieithydd; ar gais tad Syr John Wynn cyfieithodd hanes Cymraeg bywyd Gruffydd ap Cynan i'r Lladin (y mae wedi ei argraffu yn Archæologia Cambrensis, III, xii, 30, 112), ac ysgrifennodd draethawd (sydd heb ei gyhoeddi) ar hanes yr eglwys gadeiriol : cymerwyd y dabled goffa bres oddi yno trwy drais yn y Rhyfel Cartrefol, eithr gosodwyd un yn ei lle yn 1843. Galwyd ef yn ' one of the chief pioneers of the Reformation in North Wales '; barn yr esgob Humphrey Humphreys, a'i dilynodd yn yr esgobaeth, oedd ei fod yn ' learned and diligent man and an excellent governor.' Ceir rhestr o'i weithiau gan Cooper yn Athenae Cantabrigienses, i, 505. Bu farw 13 Chwefror 1585.

Gwraig Nicholas Robinson oedd Jane, merch Randle Brereton ac ŵyres Syr William Griffith, Penrhyn. Aeth eu mab:

WILLIAM ROBINSON (1576 - 1644)

yr aer, i Hart Hall, Rhydychen, ar 11 Chwefror 1592; bu'n siryf sir Ddinbych (1630) fel perchennog Gwersyllt Uchaf (a brynasid gan ei dad) ac yn siryf Môn (1632) fel perchennog Monachdy; ei wraig ef oedd Jane, merch John Price, Newtown Hall.

Aeth mab arall

HUMPHREY ROBINSON (1577 - 1621), rheithor

i Hart Hall gyda'i frawd, eithr o University College y graddiodd (B.A. 1596, M.A. 1598); at y rhain ychwanegodd M.A. o Gaergrawnt yn 1600 pan ddaeth yn rheithor Aber ac, efallai, Llanbedr-y-cennin (gyda ficeriaeth Caerhun).

Mab arall i'r esgob a'i wraig oedd

HUGH ROBINSON (1584 - 1655)

Cafodd ei addysg yn Ysgol Winchester (1596-1603) a New College, Rhydychen, gan ddyfod yn gymrawd ei goleg yn 1605 ac yn ' Informator ' (prif athro) ei hen ysgol (1613-27) a dal hefyd amryw fywiolaethau yn Lloegr; difuddiwyd ef o'r bywiolaethau gan y Senedd yn 1647 nes iddo gymryd y 'cyfamod' a chael pethau eraill yn eu lle. Ceir ef, neu berthynas iddo o'r un enw, yn dilyn Humphrey Robinson yn Caerhun a Llanbedr yn 1613 ac ychwanegu atynt fywoliaeth Trefriw (gyda Llanrhychwyn a Betws-y-coed) yn 1617 a'u cadw i gyd, ar waethaf achwyniadau o esgeulustod yn 1618, hyd nes y trowyd ef allan o dan Ddeddf y Taenu yn 1650 - yn union wedi iddo fod o gymorth i Owen Wynn, Gwydir, trwy atgoffa'r archesgob John Williams, a oedd ar fîn marw, am y gymynrodd a addawsai ei gadael i'w nith Grace, gwraig Owen Wynn.

JOHN ROBINSON (1617 - 1681), pennaeth ym myddin plaid y brenin

Mab hynaf y William Robinson uchod. Aeth ef i Christ Church, Rhydychen, yn 1634 (26 Medi) ac i Gray's Inn yn 1637 (23 Rhagfyr). Wedi iddo fod yn gwasnaethu yn Iwerddon cafodd ei benodi yn lifftenant-cyrnol ym myddin y brenin ym Mhrydain. Bu'n amddiffyn castell Holt, sir Ddinbych, yn erbyn y Pengryniaid ym mis Tachwedd 1643; yr oedd gofal cwmni o filwyr arno ym mrwydr Rowton Heath (24 Medi 1645); ac arwyddodd erthyglau trosglwyddo Caer fis Chwefror y flwyddyn ddilynol. Wedi hynny bu'n helpu i amddiffyn sir Fôn; yma, wedi iddo gymryd meddiant o amddiffynfa Lleiniog (Penmon) ar lan y môr, bu raid iddo, unwaith yn rhagor, arwyddo telerau ymostyngiad. Cymerth ran yn y gwrthryfel brenhinol ym Môn yn 1648, ond cyrhaeddodd ef a'i fintai yn rhy ddiweddar i atal gorchfygiad ei blaid y tu allan i Fiwmares ym mis Hydref. Oherwydd iddo ffoi i Ynys Manaw a Ffrainc cynhwyswyd ei enw (26 Medi 1650) yn y mesur seneddol a oedd yn awdurdodi gwerthu stadau y 'delinquents'; eithr ailbrynwyd y tiroedd gan y teulu a thrwy gyfrwng cyfres gymhleth megis gwe pryf copyn o brydlesoedd ac o arwystlau, a dlododd y stad i raddau helaeth iawn, llwyddwyd i'w chadw at wasanaeth Robinson pan ddychwelodd hwnnw wedi'r Adferiad. Pan ddigwyddodd hynny enwyd ef ymhlith y rhai a oedd i gael eu gwneuthur yn farchogion y Royal Oak (yr urdd erthyl honno), bu'n cymryd rhan gweddol flaenllaw ym mywyd gwleidyddol sir Fôn (aelod seneddol dros Biwmares, 1661-79), sir Gaernarfon, a sir Ddinbych, dilynodd Syr John Owen (1600 - 1666) fel is-lyngesydd ('vice-admiral') gogledd Cymru, a phriododd aelod o deulu Norris, Speke, boncyff ei deulu. Pan oedd yn y Senedd yr oedd ar ochr plaid y Llys; dengys ffigurau swyddogol ei fod yn derbyn gan y Llys flwydddâl o £200, o arian y gwasanaeth cudd, yn 1679. Bu farw 22 Mawrth 1681 a chladdwyd ef yn Gresford; y mae Thomas Pennant (Tours, iii, 286) ac A. N. Palmer (Gresford, 60) yn dyfynnu ei feddargraffiadau.

Bu ei fab ef:

WILLIAM ROBINSON (1668 - 1717)

yn gwasnaethu sir Ddinbych fel siryf (1690) a hefyd fel aelod seneddol (1705-7). Eithr bu'r llinach farw pan foddodd ŵyr William Robinson (ac o'r un enw) gerllaw'r Skerries yn 1739. Erbyn hyn yr oedd y stad mor dlawd nes y bu raid ei gwerthu er mwyn talu'r dyledion. Yr oedd y nofelydd Edward Bulwer-Lytton (1803 - 1873), barwn 1af Lytton o Knebworth, yn disgyn o ŵyr iau i John Robinson, y cyrnol ym myddin y brenin; mabwysiadasai'r ŵyr hwnnw yr enw Lytton ar ôl cefnder yr etifeddodd ef stad Knebworth yn sir Hertford ar ei ôl.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.